Cofio dweud diolch.
Gan Delyth Eynon.
Cofia bob amser,cofia bob tro
paid ag anghofio dweud “Diolch”
Cofia bob amser,Cofia bob tro
Cofia ddweud “Diolch Iôr”
Wedi gwario deugain mylynedd ym myd addysg, roeddwn hyd yn oed pan yn drigain mlwydd oed yn falch o glywed plentyn neu athro yn dweud “ Diolch” ar ddiwedd dydd. Roedd y diolchgarwch yn rhoi sicrwydd i fi bod yr ymdrech wedi talu ffordd ac yn rhoi hwb a hyder i gario ‘mlaen.
Hefyd, nawr mod i’n famgu ac yn fam, rwy’n dwli clywed y plant a’r wyrion yn dweud diolch. Mae’n fonws ychwanegol i gael cwtsh yn ogystal â’r diolch!
Pan fydd rhywun yn diolch am rywbeth, mae’n debyg y bydd yn teimlo’n dda am ei hun a bydd y sawl sy’n derbyn y diolch yn teimlo’n well hefyd. Mae bod yn ddiolchgar yn ein helpu i feddwl yn bositif ac yn ein galluogi i fyw bywyd mewn modd mwy hwylus.
Hefyd mae diolchgarwch yn cryfhau cyfeillgarwch. Mae angen i bawb deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi - mae’n rhoi pwrpas i’n bywydau. Felly, pan fyddwn yn diolch yn ddiffuant i rywun am weithred garedig, bydd y ddau’n datblygu cyfeillgarwch, yn enwedig os bydd gwên gyda’r diolch! Ac ymhellach, mae pobl ddiolchgar yn fwy tebygol o fod yn bobl sy’n helpu eraill.
Actau 20:35 “Dedwyddach yw rhoi na derbyn”
Rheswm arall dros feithrin diolchgarwch yw oherwydd ei fod yn ein helpu i ganolbwyntio ar y cadarnhaol yn hytrach nag ar y negyddol. Os gallwn ganolbwyntio mwy ar yr agweddau da yn ein bywydau, byddwn yn talu llai o sylw i broblemau dibwys.
Thes:5 “Llawenhewch bob amser Glynwch wrth yr hyn sydd yn dda”.
Ar hyn o bryd, gyda chyflwr mor ddiflas yn ein byd, gan ystyried y rhyfela, newyn a thlodi, mae’n rhwydd iawn gofyn ,“ Pam dylwn ddiolch?”
Colosiaid 3:15 “Byddwch yn ddiolchgar, beth bynnag ydych sefyllfa.”
Taith yw bywyd . Mae pawb yn mynd i fyny ac i lawr ar adegau yn ystod y daith. Ond hyd yn oed ar adegau anodd mae rhywbeth y gallwn fod yn ddiolchgar amdano. Gwnaeth Sonja Lyubomirky, Seicolegydd o Brifysgol California ganfod bod cymryd amser i fynd ati’n fwriadol i gyfrif ein bendithion a nodi’r hyn rydym yn ddiolchgar amdano yn ein gwneud yn hapusach ac yn fwy bodlon. Hefyd, sylwodd fod bod yn ddiolchgar yn gwella iechyd corfforol, yn rhoi mwy o egni ac yn helpu i leihau poen a blinder.
Felly, byddai o fudd i ni ystyried yn ddyddiol; efallai cyn cysgu ; beth sydd wedi digwydd yn ystod y dydd sy’n deilwng o’n diolch. Rhaid ystyried y pethau bach byddwn yn tueddu cymryd yn ganiataol.
Ar Fawrth y cyntaf byddwn yn cofio am Dewi Sant a’i eiriau “ Gwnewch y pethau bychain” . Os cofiwn ni ddiolch am y pethau bychain, yna gall ein harwain i fod yn fwy caredig, tosturiol, cyfeillgar a gwerthfawrogol.
Colostiaid 3
“ Byddwch ddiolchgar. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud ar air neu weithred, gwnewch bopeth gan roi diolch “.