Rhodd yr Ysbryd Glan.

Nid yw’r byd wedi gweld eto beth all Duw ei wneud trwy un dyn neu fenyw ymostwng yn llwyr iddo.

Oherwydd rhodd yr Ysbryd Glân, nid yw'n ymwneud â'r galluoedd sydd gennych, ond y parodrwydd yr ydych yn ei gyflwyno. Nid yw Duw yn galw'r rhai sydd a’r galluoedd; y mae yn arfogi'r rhai y mae’n ei galw i weithredu. Nid rhoddion anghyffredin yw'r hyn sy'n eich gwneud chi'n alluog i wneud pethau rhyfeddol, ond parodrwydd rhyfeddol i chi gael eich defnyddio gan Dduw.

Mae Duw yn gwneud ei weithredoedd mwyaf trwy weithredoedd bach o ufudd-dod gan bobl sy'n ymddangos yn ddi-nod.

Stori Findley

Carcharwyd Findley am lofruddiaeth a'i ddedfrydu i 15 mlynedd yn y carchar. Roedd yn aelod o gang cyffuriau  yng Nglasgow ac un noson lladdodd ddyn oedd ar fin ei ladd yntau . “Naill ai ef neu fi oed hi” meddai.

Ar ôl ei ddedfrydu arweiniwyd ef gan ddau swyddog yr heddlu o’r doc i'r celloedd. Wrth iddo gael ei ddwyn, yn sydyn gwelodd olau llachar yn ffenest y llys a chlywodd lais anarferol yn galw arno “dilyn fi” Roedd yn gwybod yn reddfol nad y warden wrth ei ochr nad o’i flaen oedd wedi llefaru hyn.

Tra yn y carchar daeth yn Gristion ac o ganlyniad i'w angerdd dros yr Arglwydd ymosodwyd yn dreisgar arno'n gyson yn y carchar, yn bennaf trwy law carcharor mawr ac anfaddeugar a roddodd gosb am iddo ddilyn Iesu.

Parhaodd yr ymosod hyn am flynyddoedd ond parhaodd yn ddiysgog yn ei awydd i bregethu gair Duw.

Cafodd ei ryddhau o'r carchar a chwtogwyd rhywfaint ar ei ddedfryd trwy fynychu canolfan adsefydlu cyffuriau o'r enw Teen Challengein Gorslas yn Sir Gaerfyrddin.

Ar ddiwrnod ei ryddhad roedd yn wynebu'r ffenestr gyda'i gefn at y drws yn rhoi'r olaf o'i offer eillio mewn bag teithio pan deimlodd bresenoldeb yn y drws. Rhoddodd arogl y corff i ffwrdd pwy ydoedd a pharatôdd ei hun ar gyfer ymosodiad arall cyn iddo adael.

Trodd o gwmpas ac er mawr syndod iddo roedd y carcharor treisgar yn dal Beibl bach yn ei law. Roedd Findley yn adnabod y Beibl bach. Hwn rhoddodd iddo ychydig flynyddoedd ynghynt ac yn edrych fel nad oedd yr un dudalen wedi’i droi.

Taflodd y Beibl ar wely Findley a’r edrychiad mwy meddylgar ar ei wyneb na’r olwg fygythiol arferol a dwedodd yn awdurdodol “Dyweda fwy wrtho i am y dyn hwn, Iesu!”

Mae mwy i’r stori hon fel gallwch ei ddychmygi am ddyfalbarhad a’r ffordd y mae’r ysbryd glân yn gweithio yn ein bywydau heddiw.

Gall Duw gyflawni mwy trwy un weithred syml o ufudd-dod nag y gall yr arweinwyr mwyaf dawnus ei chyflawni mewn oes ar eu pen eu hunain.

Mae Findley heddiw yn teithio o garchar i garchar ar hyd a lled y wlad yn cyflwyno ein Harglwydd i’r troseddwyr mwyaf treisgar a’r Ysbryd Glan sy’n dal yn ei arwain 

Dilyn fi!

Previous
Previous

Cofio dweud diolch.

Next
Next

Meddwl cryf.