Cysur y Pasg
Fe’m cysurwyd ar Sul y Pasg eleni wrth dderbyn pump o ieuenctid yr eglwys yn aelodau llawn o Eglwys Iesu yng Nghapel Seion. Braf oedd tystio eu cariad at ein Harglwydd a mynegiant o gymorth a chefnogaeth ein haelodau.
Do bu prysurdeb mawr yng nghyfnod y Pasg i aelodau Capel Seion a niferoedd eraill ledled Cymru ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn eithaf da am aros yn brysur. Rydym yn canolbwyntio ar y miliynau o bethau sydd angen eu gwneud, ac yn anghofio bod ein cryfder yn dod oddi wrth Dduw nes i ni gael ein hunain yn cloffi. Rydym yn dechrau teimlo'n anghyfforddus ac yn dechrau colli amynedd. Mae popeth yn dechrau teimlo fel gwaith, hyd yn oed amser gyda theulu neu bethau rydyn ni fel arfer yn eu mwynhau. Mae Duw yn dweud wrthym am fwrw ein gofal ato Ef, ond tueddwn i gario ein holl feichiau ein hunain, sy'n peri inni flino a digalonni. Amser y Pasg mae'n rhaid i ni orffwys wrth droed y groes ac yn nerth yr Arglwydd.
Cariodd Iesu’r groes i ni ar ddydd Gwener y Groglith lle’r rhyddhawyd ni o bechod a gorthrymder y byd arnom. Dy’n ni dim i fod i wneud pethau gan ddefnyddio grym ewyllys yn unig. Yn hwyr neu'n hwyrach, byddwn yn colli stêm.
Pan fyddwch chi'n teimlo eich bod chi ar ddiwedd eich tennyn, edrychwch i fyny ar Groes Calfaria. Mae Duw yn ein dal yn dynn. Ni fydd E’n ein gadael i syrthio. Ef yw ein Tad, ac mae'n ein caru.
Dyma bedwar pennill i’ch cysuro ar gyfer yr adegau hynny pan fyddwch chi'n teimlo'n flinedig ac angen yr Arglwydd i ysgwyddo’r groes i chi.
2 Corinthiaid 12:9
“Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi. Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn.
2 Corinthiaid 1:3-5
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro. Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷ’n ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷ’n ni'n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni. Po fwyaf dŷ’n ni'n rhannu profiad y Meseia, mwyaf dŷ’n ni'n cael ein cysuro ganddo.
Salm 121 : 1-8
Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd. O ble daw help i mi? Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD, yr Un wnaeth greu'r nefoedd a'r ddaear. Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro; dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu. Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israel ddim yn gorffwys na chysgu! Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti; mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr di yn dy amddiffyn di. Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd, na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos. Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl; bydd yn dy gadw di'n fyw. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di'n saff ble bynnag ei di, o hyn allan ac am byth.
Rhufeiniaid 8:31-37
Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy'n ein herbyn ni! Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e'n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth ddydy e ddim yn fodlon ei roi i ni? Pwy sy'n mynd i gyhuddo'r bobl mae Duw wedi'u dewis iddo'i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy'r un sy'n eu gwneud nhw'n ddieuog yn ei olwg! Felly pwy sy'n mynd i'n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy'r un gafodd ei ladd a'i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni. Oes yna rywbeth sy'n gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“O'th achos di dŷ’n ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser;
Dŷ’n ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.”
Ond dŷ’n ni'n concro'r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi'n caru ni.
Rhufeiniaid 8:31-37