Diolch.

"Mae’r [Banc Bwyd] wedi fy helpu’n fawr yn ystod cyfnod heriol a hebddo [dydw i] ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd"

Dyma eiriau rhywun sydd wedi dod i Fanc Bwyd Rhydaman am fwyd brys oherwydd eu bod yn mynd trwy argyfwng. Diolch i’ch cefnogaeth a’ch caredigrwydd chi, roedd digon o stoc i’w helpu. Nid bwyd yn unig a dderbynion nhw, ond rhywun i wrando arnynt, a’u helpu i ddatrys achosion niferus eu hargyfwng a rhoi gobaith iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Does dim syndod bod yr Argyfwng Costau Byw wedi anfon nifer cynyddol o bobl i’r Banc Bwyd. Yn fwy nag erioed, mae’n rhaid gwneud dewisiadau am y pethau hanfodol i’w prynu a’r pethau y gellir ymdopi hebddynt am fis. Mae eich haelioni chi’n golygu y gallwn lenwi’r bwlch hwn a brwydro dros y newid sydd ei angen. Diolch am y tunelli o fwyd yr ydych wedi’u darparu a’r diwrnodau gwirfoddoli yr ydych wedi’u rhoi i bobl ddieithr. O ganlyniad i hynny, o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, roeddem ni’n gallu dosbarthu dros 4500 o barseli argyfwng i bobl mewn angen – cynnydd o 55% o’r flwyddyn flaenorol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi addasu ein dulliau ond mae’r weledigaeth wedi parhau: dod â thlodi bwyd i ben yng Nghymru. Gwyddom fod hyn yn uchelgeisiol iawn ond gyda’ch cefnogaeth chi, mae’n bosibl. Boed yw hynny’n golygu parhau i roi tuniau yn y pwynt casglu neu ysgrifennu at eich Aelod o’r Senedd neu AS yn eu hannog i gefnogi diwygiadau cymdeithasol, mae gan bawb rôl i’w chwarae. Gall pawb gydweithio fel tîm. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.

Gyda hyn mewn golwg, gallwn rannu’r hyn sydd ar y gweill yn y dyfodol. Ers iddi agor ym mis Awst y llynedd, mae ein canolfan gymorth wedi bod yn ddechreuad gwych i atal pobl rhag tlodi trwy amrywiaeth eang o ddulliau. Yn ogystal â hynny, mae angen i ni ehangu ein warws o ran maint a’i wneud yn fwy diogel. Mae hynny’n arwain at un casgliad. Mae angen adeilad pwrpasol yng nghanol Rhydaman wedi’i ddylunio’n arbennig i ni.

Rydym wedi dechrau’r broses gynllunio felly dros y misoedd nesaf byddwn ni’n rhannu mwy gyda chi am yr hyn sy’n digwydd yn ogystal â sut allwch chi gymryd rhan. Ond am y tro, hoffem ddweud diolch. Diolch am gydweithio gyda ni wrth i ni weithio i ddod â thlodi bwyd i ben, am fod yn gefn i’r Banc Bwyd dros y 10 mlynedd diwethaf ac am yr anogaeth yr ydym yn gwybod y byddwch yn ei rhoi dros y blynyddoedd nesaf.


Ar ran Banc Bwyd Rhydaman, 

Mydrim Davies

Rheolwr

Previous
Previous

Pride a’r Eglwys

Next
Next

Mwy am hapusrwydd.