Diolch am y Nadolig
Amser darllen tua 4 munud.
'Gad i ni weld dy wyneb Di
Ym mhob cardotyn gwael
A dysgu'r wers i wneuthur hyn
Er mwyn dy Gariad hael."
Mae'r nadolig yn golygu llawer o bethau gwahanol i nifer o bobl. Mi fyddwn i yn dadlau mai adeg i ddangos cariad ydyw yn bennaf, amser i fwynhau gyda'r teulu, i rannu anrhegion a bwyd. Ond cariad sydd bwysicaf. Mi ddysgodd un athrawes hyn pan gafodd anrheg un Nadolig gan fachgen bach gyda bochau coch yn ei dosbarth. Gwrandewch arni yn rhannu ei stori.
Bachgen amddifad 10 oed oedd Mathew, yn byw gyda'i fodryb, menyw ganol oed chwerw iawn oedd yn anfodlon ei bod yn gorfod magu plentyn ei diweddar chwaer. Roedd yn cymeryd pob cyfle i atgoffa Mathew y byddai'n ddigartref heblaw amdani hi. Ond er y chwerwder yma tuag ato roedd Mathew yn grwt hyfryd, addfwyn.
Roeddwn i'n sylwi fod Mathew yn hoffi aros ar ôl ysgol i'm helpu i glirio, i osgoi mynd yn ôl at yr anti rhy gloi. Fe weithiai yn dawel ac os oeddem yn siarad, siarad am ei fam fyddai Mathew.
Er mai ifanc oedd Mathew pan fu ei fam farw roedd yn cofio'r fenyw garedig, addfwyn, gariadus oedd yn gwario amser gyda fe.
Wrth i'r Nadolig agoshau doedd Mathew ddim yn aros ar ôl ysgol mor aml ac mi ddywedais i wrtho fy mod yn ei golli.
"Oeddech chi wir yn fy ngholli i Miss?" gofynnodd.
Mi esboniais mai ef oedd fy nghynorthwydd gorau a dyma fe'n sibrwd "Rwyf wedi bod yn gwneud anrheg i chi; anrheg Nadolig."
Roedd embaras arno yn amlwg ac ni safodd ar ôl ysgol wedyn y tymor hwnnw.
Fe gyrhaeddodd y diwrnod diwethaf cyn y gwyliau Nadolig a dyma Mathew yn sleifio mewn i'r ystafell ddiwedd y prynhawn a rhywbeth tu ôl i'w gefn.
"Mae'ch anrheg chi gen i" meddai "gobeithio byddwch yn ei hoffi."
Daliodd ei law allan ac yn ei law roedd bocs bychan pren.
"Mae e'n hardd Mathew" meddwn innau "oes rhywbeth yn y bocs?" gan agor y bocs er mwyn gweld.
"Oh" meddai Mathew "allwch chi ddim gweld beth sydd ynddo, allwch chi ddim ei gyffwrdd, ei flasu na'i deimlo ond roedd mam wastad yn dweud ei fod yn gwneud i chi deimlo'n dda o hyd, yn gynnes ar nosweithiau oer ac yn saff pan y'ch chi ar ben eich hunan."
Edrychais mewn i'r bocs bach a holi -
"Beth yw e Mathew? Beth fydd yn gwneud i mi deimlo mor hapus?"
"Cariad yw e" sibrydodd yn dawel " roedd mam yn dweud ei fod ar ei orau pan fyddwch yn ei roi i rywun arall." A dyma fe'n troi a gadael yr ystafell.
Rydw i'n cadw'r bocs bach pren anniben ar fy mhiano yn yr ystafell fyw ac yn gwenu pan fo ffrindiau yn gofyn beth yw e. Rydw i'n esbonio fod cariad yn y bocs.
Ydy, mae Nadolig yn adeg i fwynhau, i ganu i chwerthin ac i rannu anrhegion ond gan fwyaf mae'r nadolig am gariad. Nid cariad at ein gilydd yn unig wrth gwrs ond cariad Duw at y byd yn anfon ei fab i'n plith. Mae nifer yn dod o hyd i unrhyw esgus i ddathlu adeg y nadolig ond does dim rhaid i ni, fel Cristnogion, chwilio am esgus. Mae mor amlwg a haul ar bost - geni Crist, cariad Crist yw'r anrheg gorau a gawsom erioed.
"A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff,
a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb."
Mae'n bwysig ein bod yn ymroi yn ystod cyfnod yr adfent a thros yr wyl i ddiolch am y cariad mwyaf rhyfedd fu erioed. Diolch ar lafar ac ar gân ac yn bennaf oll efallai mewn gweddi a honno yn weddi bersonol.
Mi ranna i stori ddoniol am y nadolig gyda chi i gloi.
Gorchmynwyd bachgen bach o'r enw Ifan i ddiolch i Dduw am y cinio nadolig a phlygodd y teulu i gyd eu pennau. Mi gychwynodd Ifan trwy ddiolch i Dduw am ei fam a'i dad a'i chwaer, ei famgu a'i dadcu. Yna mae'n dechrau diolch i Dduw am y bwyd.
Mi ddiolchodd am y twrci a'r pwdin nadolig. Yna mae'n oedi ac wedi saib go hir, mae'n edrych ar ei fam ac yn sibrwd " Os gwna i ddiolch i Dduw am y Brussel Sprouts, a fydd e'n gwybod fy mod yn dweud celwydd?"
Wel, does dim ots am y sprouts, y weddi sy'n bwysig ac mae'r weddi o ddiolch yn rhan o'r nadolig yn union fel y cariad sydd angen ei ddangos.
Diolch ein bod yn gallu mwynhau y nadolig a diolch am gyfle i ddathlu geni gwaredwr y byd.
"Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da."