Stori’r Geni
Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod;
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol ryw.
Mae Nadolig yn dod a gwahanol atgofion a theimladau i bobol – hapusrwydd, tristwch, unigrwydd ….beth yw y Nadolig i chi?
Un cof o’m plentyndod ar y ffarm ydi magu cywion twrcis, ac yna, cymdogion, teulu a ffrindie yn dod wythnos cyn ‘Dolig i helpu I’w paratoi i’r cigydd a’r farchnad. Wythnos lle roedd y ty, y garej ar stabal yn llawn hwyl a chymdeithas, gan ddweud imi fod Dydd Nadolig yn agosau.
Mae ein Nadolig yn llawn o draddodiadau fel y goeden, anrhegion, partis, addurniadau, son am Santa …. Traddodiadau wedi trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Beth bynnag yw ein cred, i’r Cristion, mae’r Nadolig yn ddydd o ddathlu a chofio – i anrhydeddu fod Duw wedi danfon Ei Unig Fab i’r byd fel baban, a aned o forwyn, i adbrynu dyn yn ol ato.
Falle eich bod chi fel fi pan oeddwn yn gweithio llawn amser, a’r bechgyn yn yr ysgol – yn jugglan i fentro cadw lan a’r holl weithgareddau Nadoligaidd, a ddim yn llwyddo i ddathlu gwir ystyr y Nadolig o fynegi cariad i’n Gwaredwr.
Felly, wrth edrych nol ar y Nadolig cynta’, beth am fentro bod fel Mair a Joseff yr Adfent hwn.
Mae Duw wedi rhoi i bob un ohonom feddwl i neud pendefyniadau. Craidd y Nadolig yw genedigaeth yr Iesu. Ef yn dod a torri ar draws ein byd a newid ein bywydau. Dyma chi Mair – merch ifanc wedi dyweddio a Joseff. Merch llawn gobeithion, breuddwydion am ei phrodas, au dyfodol. Ond, mae geiriau’r angel ati yn newid popeth. A dyma Mair yn dangos ei ffydd yn Nuw.
“Dyma llawforwyn yr Arglwydd; Bydded imi yn ol dy air di.” Luc 1:38
Ac er na wyddai sut byddai Joseff yn derbyn y newyddion, atebodd ar un waith a dewisodd i ildio i beth bynnag a ddaw wrth dderbyn cynllyn Duw ar ei bywyd.
Beth fydde chi wedi neud?
Cafodd Mair ei dewis o holl ferched y byd i fod yn fam i Waredwr. A cafodd Joseff hefyd ei ddewis o holl ddynion y byd i fod yn dad ar y ddaear i Fab Duw.
Ond pan ddeffrodd Joseff o’i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymun, a chymryd Mair yn wraig iddo. Matthew 1:24
Fel Mair, dewisodd Joseff i gredu gair Duw a nid ei resymeg ei hun. Cofiwch eirie Gabriel in Mair -
‘oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw’ Luc 1:37
Gwrthododd hefyd i wrando ar yr hyn y byddai eraill wedi dweud wrtho am wneud. Fel Mair, dangosodd ffydd wrth ddewis ildio ei fywyd i gynllun Dduw.
Yna…
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddiwrth Caesar Agustus i gofrestru’r holl Ymerodraeth.
Aeth pawb felly i gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Luc 2
Dychmygwch beth feddyliai Mair pan ddywedodd Joseff eu bod yn mynd i Fethlehem a oedd yn gorwedd tua 90 milltir o Nasareth. Taith tua 10 diwrnod o gerdded gyda lladron ac anifeiliaid gwyllt ar hyd y daith. Byddai y daith wedi bod yn frawychus i unrhyw un, ond i ferch ar fin geni babi, byddai wedi bod yn annioddefol.
Nid oes yr un son am Mair na Joseff yn cwyno, nac yn cwestiynu chwaith. Gyda chalon agored dewisodd y ddau i ymddiried yn Nuw, ildio’u bywydau i’w ddibenion. Roedd gan Dduw gynllun a phwrpas i’r siwrnai anodd hon, ac roeddent yn credu yn Ei air.
Falle bod y ddau yn cofio geirire Micha 5:2?
“Ond ti, Bethlehem Effrata, sy’n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, ai darddiad yn y gorffennol, mewn dyddau gynt”
Mae’n debyg y bu Mair a Joseff yn byw ym Methlehem am tua 2 flynedd ar ol geni yr Iesu. Yn y cyfnod yma fe sylweddolodd Herod ei fod wedi cael ei dwyllo gan y Doethion pan na ddaethant yn ol. Mi roedd Herod yn ofnus o unrhyw wrthwynebydd, ac fe wnaeth gyhoeddi gorchymyn fod pob plentyn gwrywaidd dwy oed ac iau i gael eu lladd - er mwyn cadw ei orsedd!
Yn y llyfr ‘The Characters of Christmas’ gan Daniel Darling (werth ei ddarllen!) ma fe yn dweud am Herod -
“All of Israel knew he was not the legitimate king of Israel, having descended from Esau. So he ruled by fear!”
Felly….
‘Dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud,
“Cod, a chymer y plenty ai fam gyda thi, a ffo ir Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd mae Herod yn mnd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd” Matthew 2:13-14
Felly bu rhaid i Joseff symud yn gyflym er mwyn ffoi ir Aifft, ac fe ufuddhaodd cyn gynted ag y ddeffrodd o’r freuddwyd. Pan ddaeth gwawr y dydd newydd mi roeddent ymhell ar eu ffordd, yn nesau at ddiogelwch ac allan o gyrraedd Herod. Ac yn yr Aifft arhosont tan farwolaeth Herod, fel y llefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd.
“O’r Aifft y gelwais fy mab.” Matthew 2:15
Fe wnaeth Mair a Joseff ufuddhau heb gwestiwn.
Roeddent wedi ildio eu bywydau i Dduw.
Roeddent yn credu geiriau’r angel oddiwrth Dduw.
Wnaethant ymddiried yng nghynllyn Duw.
Mae’n hawdd anghofio fod y bobol a ddewisodd Duw fel rhieni ‘Iesu’ yn ifanc a chyffredin, ac mewn sawl ffordd ddim yn barod. Ond fe wnaethant ymddiried yng nghynllun Duw yn ffyddlon a gyda chalon agored.
Felly y Nadolig yma rwyf am ymdrechu i fod mwy fel Mair a Joseff wrth deithio ir preseb. Taith sydd ond yn dechre gyda’r Adfent, un sy’n mynd a ni drwy’r flwyddyn, un lle gallwn wahodd Iesu, o ddydd i ddydd i fod gyda ni. Efallai, gall cadw’r Nadolig yn fyw yn ein cartref,i ar ol i’r hype masnachol ddod i ben, ein helpu i ganolbwyntio mwy ar wir ystyr y Nadolig; fel dywedodd Ebenezer Scrooge “honour Christmas in our hearts and try to keep it all the year” Dewch gyda fi.
I orffen dyma eiriau cân Nadoligaidd a gyfansoddais ar ddechre’r flwyddyn hon. – Can y Posada.
Mae goleuadau’r goeden yn gwenu drwy y ty,
A minnau yma’n eistedd wrth y tân yn gynnes a chlyd.
Anrhegion dan y goeden
Addurniadau ym mhob man,
Mae pob plentyn heno’n disgwyl
Hosan orlawn wrth y tân.
Mae pawb yn brysur, brysur yn mynd o le I le.
Pwy sy’n cofio geni’r baban mewn hen stabal ym Methle’m dre?
Daw Mair a Joseff heno
Noson Posada gyda ni,
A chlywaf ynof lais yn sibrwd,
“Hoffwn fynd gyda chi”
I Fethlehem, I Fethlehem,
Yn dilyn y seren.
I Fethlehen, I Fethlehem,
Fel y Doethion gynt.
Af at y preseb, ac fe addolaf
Fel y bugeiliaid, a chor yr angylion.
“Gloria! Gloria! In Excelsis Deo
Gloria! Gloria! Haleliwia.
Gloria! Gloria! In Excelsis Deo
Haleliwia.”
Mae’r bore bach yn gwawrio a llonyddwch dros y wlad,
Yn dawel ar ben y goeden gwena seren Bethlehem.
Mae Mair a Joseff yn barod
Posada arall wedi dod i ben
A chofiaf neges cân yr angylion
“Dyma rodd iti mewn baban,
Dyma anrheg Duw ym Methlehem.
Haleliwia”
Fe baratowyd y blog yma gan Ann Lerche sydd wedi bod yn ymuno gyda ni yn ein gwasanaethau yn ddiweddar.
Erbyn hyn mae Ann yn byw ar gyrion Aberdeen ond fe fydd nifer yn ei chofio fel Ann Thomas neu Ann ‘Tirbach’ o bentref Porthyrhyd. Roedd hi yn ysgol y Gwendraeth yr un pryd a nifer ohonom. Diolch i Ann am ei chyfraniad gwerthfawr ac edrychwn ymlaen I’w chroesawu yn ôl atom yn y flwyddyn Newydd.