Yr Wythnos Fawr

Photo by Flo Maderebner from Pexels

Photo by Flo Maderebner from Pexels

Dydd Iau

Diwrnod trist arall oedd y dydd Iau gan i Jiwdas gyflawni ei addewid i'r prif offeiriaid a bradychu yr Iesu.

Dyma noson y Swper Olaf wrth gwrs, swper gyda'i ddisgyblion a'r Iesu yn llwyr ymwybodol o'r hyn oedd o'i flaen. Roedd yn gweld y groes.

 Fel y gwyddom fe gymerodd fara a'i dorri a gwin i'w yfed a'i rannu ymysg y disgyblion gan ddweud mai ei gorff oedd y bara a'i waed oedd y gwin. 

 Yn dilyn y swper fe aeth y criw i ardd Gethsemane lle bu'r Iesu yn gweddio yn ddyfal. Yma yr ynganodd y geiriau cofiadwy ac ymbilgar -

“Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib.

Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

 Ac wedi gweddio yr ail waith meddai fel hyn -

“Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw

yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.”

 Yna fe ddaeth y milwyr Rhufeinig wrth gwrs, yng nghwmni'r bradwr Jiwdas ac aeth hwnnw at yr Iesu a'i gusanu. A fu cusan fwy afiach erioed? Mae cusan yn arwydd o gariad fel arfer ond am wn i fod hynny yn gwneud y weithred yn waeth.

 Fe ddigwyddodd un peth sydd yn arwyddocaol i'n hoes ni hefyd lle mae rhyfel ac ymladd wedi'n harwain i'r cyfnod anodd yr ydym ynddo. Fe gofiwch i Pedr dynnu ei gleddyf allan a thorri clust un o'r milwyr Rhufeinig ond meddai'r Iesu -

“Cadw dy gleddyf! Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd â'r cleddyf.

 Byddai'n beth da i'r rhai sy'n fodlon gwneud unrhyw ddistryw er mwyn ennill pwer nodi y geiriau yna. Mae nhw mor wir heddiw ac yr oeddynt dros ugain canrif yn ôl.

 Fe ffôdd y disgyblion mewn braw ond fe ildiodd yr Iesu i'r milwyr yn dawel gan y gwyddai beth oedd ei dynged.

Ie, dyma dristwch y sefyllfa - Jiwdas wedi ei fradychu, y disgyblion wedi ffoi a'i adael a chyn y bore fe fyddai Pedr, o bawb, wedi ei wadu deirgwaith.

Ond doedd dim o hyn yn synnu'r Iesu, roedd yn adnabod ei ddisgyblion ac wedi dweud yn ystod y swper olaf -

"Trawaf y bugail a gwasgerir y defaid."

 Gallwch ddarllen mwy ym mhennod 26 o efengyl Mathew, pennod 14 o efengyl Marc a phennod 22 o efengyl Luc.

GWEDDIWN

 

Iesu Gethsemane,

yr wyt yn gofyn i ni aros gyda thi yn awr dy ing,

gwna ni'n ffyddlon ac yn barod i lynu wrthyt yn wastad;

yr wyt yn gofyn i ni wylio gyda thi yn awr dy fradychu,

gwna ni'n effro ac yn barod bob amser i'th wasanaethu;

yr wyt yn gofyn inni weddio gyda thi am nerth i ufuddhau,

gwna ni'n ddiwyd a disgwylgar yn ein bywyd ysbrydol;

yr wyt yn gofyn i ni godi i gerdded ffordd y groes,

gwn nai'n ddilynwyr gwrol,

yn barod i sefyll gyda thi hyd y diwedd,

a thrwy'r diwedd i wawr dy fuddugoliaeth.  AMEN

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Yr Wythnos Fawr

Next
Next

Yr Wythnos Fawr