Yr Wythnos Fawr

pexels-rodnae-productions-7158702.jpg

Dydd Mercher

Dyma un o ddiwrnodau mwyaf trist yr wythnos efallai gan mai heddiw y cawn ni glywed am benderfyniad Jiwdas Iscariot - y disgybl a drodd yn fradwr.

Fe wyddom erbyn hyn fod y prif offeiriaid yn awyddus i gael gwared ar yr Iesu a pan ddaeth Jiwdas atynt a chynnig bradychu yr Iesu roedden nhw wrth eu bodd. Fe fyddai Jiwdas yn cael ei wobrwyo yn ariannol ganddyn nhw.

 Y noson honno roedd yr Iesu yn swpera yng nghartref Seimon y gwahanglwyfus, ym Methania, tua dwy filltir o Jeriwsalem. Daeth gwraig y ty at yr Iesu gyda ffiol yn llawn o ennaint gwerthfawr. Olew oedd yr ennaint werth tua tri chan ceiniog oedd yn gyfystyr a chyflog dyn am flwyddyn.

 Fe dorrodd y wraig y ffiol a thywallt yr olew ar ben yr Iesu ac roedd rhai yn grac gyda hi am fod mor wastraffus ond meddai'r Iesu -

"Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi."

Mae Ioan yn enwi'r wraig fel Mair, chwaer Martha a Lasarus ac fe dybia rhai ei bod yn chwaer yng nghyfraith i Seimon.

 Roedd pedwar rheswm traddodiadol dros eneinio -

1.I anrhydeddu gwestai

2.I sefydlu proffwyd, offeiriad neu frenin yn ei swydd

3.Fel arwydd o'r Ysbryd Glân

4.i berarogli corff.

 

Roedd gweithred Mair yn cynnwys y pedwar yma -

1.Anrhydeddu Iesu fel gwestai yn ei chartref

2.Anrhydeddu Iesu fel proffwyd, offeiriad a brenin

3.Anrhydedu Iesu fel un oedd yn llawn o'r ysbryd Glân.

4. Paratoi ei gorff ar gyfer ei fedd, canys hwn oedd -

"Oen Duw sy'n cymryd ymaith bechod y byd."

 

Mae'r rheswm olaf yna arwyddocaol gan fod Mair, yn ddiarwybod efallai, yn paratoi yr Iesu ar gyfer yr hyn oedd i ddod ddiwedd yr wythnos. Mae'n bwysig ein bod yn cofio fod y groes ar lwybr yr Iesu o'r cychwyn cyntaf ac roedd yn rhan o gynllun Duw ar ei gyfer.

Dyma bennill olaf D.Elwyn Davies yn ei lyfr Efengyl mewn Odl wrth gyfeirio at yr eneinio, dyfynnu yr Iesu y mae -

"Paratoi i'm claddu ydoedd,

Tywallt ennaint arnaf i;

Fe wnaeth hi yr hyn a allodd,

Cofir am ei gweithred hi."

 Roedd eneinio'r Iesu yn weithred bwysig ac arwyddocaol, boed i ninnau heddiw gael ein eneinio gan berarogl yr Ysbryd Glan

 Felly ar y dydd Mercher fe welwyd gweithred ddrwg a gweithred dda yn cymeryd lle. Ac fel yna mae bywyd am wn i, y mae yna bobl ddrwg mewn cymdeithas ond peidiwch anghofio bod yna bobl dda hefyd yn cyflawni gweithredoedd da.

 Ar y cywair yna, mae'n addas ein bod yn meddwl am weithwyr y gwasanaeth iechyd a nifer eraill sy'n cadw'n gwlad i fynd yn ystod y cyfnod yma. Diolch i chi gyd. A gwnewch yn siwr eich bod i gyd yn gweddio dros y bobl yma.

Pob bendith arnyn nhw.

 Gallwch ddarllen yr hanesion yn Mathew 26; Marc 14 a Ioan 12.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Yr Wythnos Fawr

Next
Next

Yr Wythnos Fawr