Eglwys Hyfyw.
"Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff." Rhufeiniaid 12:5
Weithiau mae angen ein hatgoffa o'r hyn yw ein heglwys a'r elfennau sydd yncreu eglwys hyfyw. Os am ddechrau yn y dechrau rhaid troi at y Bedydd.
Mae'r Bedydd, fel y Cymun, yn ordinhad. Beth yw ystyr y gair ordinhad?
Ei ystyr yw gorchymyn wedi ei roi gan un mewn awdurdod. Iesu Grist yw'rawdurdod hwnnw - "Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd gan eubedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân."
Yn y bedydd rydym yn rhoi sylw cysegredig i dechrau bywyd a chyflwynwn y bywyd newydd i Dduw am mai Ef yn unig sy'n gallu gwneud y bywyd yn bur a glân. Mae'r rhieni yn addo dwyn eu plentyn i fyny i garu Iesu Grist ac mae'reglwys hefyd yn addo cynorthwyo'r rhieni. Rwy'n ymwybodol nad yw arfer pobenwad yr un peth wrth gwrs.
"Mae'n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â'n gilydd. Mae rhai pobl wedistopio gwneud hynny." Hebreaid 10:25a
Beth am yr Oedfa yr ydym yn ei chynnal o Sul i Sul? Ystyr y gair oedfa yw man yr oed h.y. dêt! Cyfarfod â'n gilydd a chyfarfod â Duw hefyd. Prif waith yreglwys yw cynnal gwasanaeth crefyddol neu addoli ac os metha wneud hyn nidoes ystyr i'w bodolaeth. Cynulliad o addolwyr yn bennaf oll yw eglwyslwyddianus, ym mha ffurf bynnag. Mae gennym rai pethau arbennig sydd yn einhelpu i addoli Duw.
Mae'r Beibl yn cael lle canolog yn ein capel. Mae'r pulpud yn y canol ac mae'rBeibl ar y pulpud. Mae'n cael ei ddarllen ym mhob oedfa ac yn yr Ysgol Sul ynogystal gan mai'r Beibl sydd yn rhoi hanes a dysgeidiaeth Iesu Grist i ni. Hwn sydd yn ein tywys at Iesu Grist.
Mae dyled pob un ohonom yn fawr i'r Ysgol Sul a'r rhai fu'n llafurio uwch einpennau. Holl ddiben yr Ysgol Sul, fel y Beibl, yw ein tywys at Iesu Grist.
Fe fyddwn yn gweddio mewn oedfa ac nid gwaith y pregethwr yw gweddio ynlle y gynulleidfa ond arwain y gynulleidfa i weddio. Wrth weddio dylemgydnabod mawredd Duw, diolch i Dduw a gofyn i Dduw. Mae gweddi yn rhoicyfle i Dduw ddweud ei feddwl wrthym.
Beth am y canu? Nid gwrando ddylem wneud ond ymuno yn y canu ac er bod y miwsig yn hyfryd i wrando arno fe ddylem roddi sylw i'r geiriau yn ogystal.
Y bregeth yw rhan ganolog yr oedfa efallai ond nid rhyw beiriant cd yw'rpregethwr sydd yn dweud yr hyn sydd bob amser yn plesio pobl. Gwaith y pregethwr yw cyhoeddi'r Efengyl a cheisio egluro yr hyn sydd yn y Beibl ganddweud ewyllys Duw wrth y bobl.
O ddweud hynny does dim rhaid i'r dull o gyflwyno'r neges yma fod fel yr oeddganrif yn ôl ac mae fersiynau modern o'r Gair ar gael i hwyluso'r eglurebau.
Y mae'r bregeth yn bwysig oherwydd dyna ddywedodd Iesu Grist - "Pregethwch yr Efengyl."
"Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon imewn fwy na hwynt oll" Luc 21: 2 a 3
Pam rydym yn cyfrannu, hynny yw rhoi arian yn y casgliad?
Mae yna stori am Iesu Grist yn eistedd ar risiau'r deml un diwrnod ac yn edrychyn fanwl ar y rhai oedd yn myned i fewn i'r deml i addoli. Yr arfer ynJerwsalem bryd hynny oedd cyfrannu wrth fynd i mewn (er nad oeddcyfyngiadau Covid arnynt!!) Yr oedd yr arian yn mynd tuag at gynnal y deml.
Roedd rhes o flychau yn y cyntedd a alwyd 'Y Drysorfa'.
Y diwrnod hwnnw gwelodd Iesu Grist wraig weddw, dlawd yn rhoi rhoddfechan iawn yn y blwch. Ond fe'i canmolwyd hi ganddo am ei bod wedi gwneudaberth mawr i roddi cymaint a fedrai.
Dw i'n credu'n gryf yn yr egwyddor yma hyd yn oed heddiw a fuaswn i ddimam i neb beidio dod yn aelod o'r eglwys oherwydd tlodi neu galedi yn sicr.
Rhaid wrth gyfrannu neu ni fydd capel wrth gwrs ac oni bai fod rhywrai wedicyfrannu yn y gorffennol fyddai yna ddim eglwys yma.
Os am ddod yn aelodau o unrhyw gymdeithas rhaid cyfrannu tuag ati a'i chadwi fynd. Rhaid cofio nad yn ariannol yn unig y mae modd cyfrannu ac mae ganbawb gyfraniad unigryw i'w wneud - nid yr un yw ein cryfderau i gyd.
Rhaid i ni gyfrannu at fywyd yr eglwys heddiw er mwyn yfory.