Tröedigaeth.
Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach.
Mae pobl at dod at Dduw mewn amryw ffyrdd. I mi yn sicr mae wedi bod yn daith sydd wedi parhau o mhlentyndod ac rwy'n dal i ddysgu ond yn achos rhai eraill mae un digwyddiad yn cael effaith pell gyrhaeddol. Dyna hanes yr Apostol Paul wrth gwrs ar ei ffordd i Ddamacus ac un arall sydd yn cyfeirio at newid rhyfeddol yn ei fywyd yw'r bocsiwr George Foreman, cyn bencampwr pwysau trwm y byd.
Galwad ffôn newidiodd ei fywyd meddai fe ynghyd â digwyddiad anhygoel ar Fawrth 17eg, 1977. Mae Foreman yn rhannu ei fywyd yn ddwy ran - yr hen George, cyn y digwyddiad, a'r George newydd, wedi hynny.
"Fe roddodd Duw ail gyfle i mi ac rwyf wedi bod yn benderfynol i fyw yn iawn tro yma."
Fe dyfodd Foreman i fyny mewn tlodi yn un o saith o blant ac yn fachgen mawr llwglyd iawn. Cyflog bach oedd gan ei fam ac mae'n cofio'r plant i gyd yn gorfod rhannu un hamburger!
Fe wahanodd ei rieni ac fe dyfodd Foreman i fod yn fachgen anystywallt braidd oedd allan bob nos yn ymladd ar y strydoedd.
Gadawodd Foreman yr ysgol yn ifanc a mynd i weithio yn golchi llestri mewn bwyty. Roedd yn tyfu i fyny i fod yn fachgen cas oedd yn defnyddio ei ddyrnau llawer rhy aml gan daro bechgyn eraill heb reswm yn y byd.
Bu gwr o'r enw Doc Broadus yn ei hyfforddi i focsio ac yn ei drin fel mab bron.
Arweiniodd hyn at ennill medal aur yng ngemau Olympaidd 1968.
Aeth Foreman yn ei flaen i focsio yn broffesiynol wrth gwrs gan drechu Joe Frazier a cholli yn erbyn Muhammad Ali.
Yna, yn Rhagfyr 1976 mi ganodd y ffôn yng nghanol nos pan oedd Foreman yn gorffwys ar ganol paratoi at ornest bwysig. Ei chwaer, Mary, oedd yno yn llefain ac yn dweud bod ei mab, George bach, allan yn chwarae pan gafodd drawiad (seizure) a'i fod mewn 'coma'. Doedd y meddygon ddim yn rhoi llawer o gyfle iddo oroesi.
Byddai angen gwyrth ac fe sylweddolodd Foreman mai dim ond un allai gyflawni gwyrth. Mi benderfynodd bod rhaid iddo weddio, er na wyddai ddim sut i weddio.
Aeth Foreman ar ei liniau a meddai "Oes wyt ti yn Dduw, os wyt ti yna ac yn gallu helpu pobl, helpa'r bachgen bach yma."
Gorweddodd ar ei wely ac yna aeth yn ôl lawr ar ei liniau. "Os wnei di helpu'r bachgen yma mi wna i roi fy nghyfoeth i gyd i fyny."
Aeth yn ôl i'w wely eto ond cyn hir roedd yn ôl ar ei liniau. "Pam wyt ti'n chwarae gyda bywyd y bachgen yma sydd heb wneud dim o'i le. O'r gorau, cymer fi, os wyt ti yna Dduw, cymer fi yn ei le."
Y diwrnod canlynol mi ganodd y ffôn ac fe ddywedodd ei chwaer wrtho fod George bach wedi agor ei lygaid ac yn symud. Roedd Foreman wedi cynhyrfu, efallai fod yna Dduw wedi'r cwbl. Roedd George bach yn gwella'n ddyddiol ond fe ddechreuodd Foreman ymresymu mai gwella'n naturiol wnaeth y bachgen ac fe anghofiodd ei fargen gyda Duw. Ond anghofiodd Duw ddim.
Erbyn Mawrth 1977 roedd Foreman yn anhapus ac yn cael meddyliau ansefydlog iawn. Eto, fe drodd at weddi a meddai "Dduw, os wyt ti yn real, defnyddia fi ar gyfer rhywbeth amgenach na bocsio."
Mi gollodd ei ornest yn erbyn Jimmy Young ychydig ddyddiau wedyn, ond yr hyn ddigwyddodd yn yr ystafell newid wedi'r ornest sy'n bwysig. Wedi colli'r ornest roedd yn meddwl am ei ddyfodol, am ymddeol a daeth marwolaeth i'w feddwl - beth wnaeth iddo feddwl am hynny? Digwyddodd hyn sawl tro.
Clywodd lais yn ei ben yn dweud "Ti'n credu yn Nuw, pam wyt ti ofn marw?"
Mi geisiodd daro bargen â Duw "Mi wna i barhau i ymladd a rhoi arian i wella cancr." Ond clywodd lais yn ei ben yn dweud "Dw i ddim eisiau dy arian, dw i eisiau TI."
Yna fe lewygodd Foreman. Teimlodd ei hunan yn mynd i le tywyll, dwfn, rhyw wagle. Roedd ofn arno, roedd yn arogli marwolaeth, doedd ei geir a'i arian a'i dai mawr yn da i ddim iddo yma. Teimlodd ei hun yn gweiddi nerth ei ben "Dw i ddim yn poeni os mai marwolaeth yw hyn. Dw i'n dal i gredu fod yna Dduw."
Yna, teimlodd ei hun llithro yn ôl i mewn i'w gorff, fel petai llaw Duw wedi ei achub.
Tra'n dal i weld pob math o bethau yn ei feddwl mi lefodd y geiriau yma -
"I'm George Foreman! I just lost that boxing match. I don't care where You're taking me - I lost the fight, and I'm who I want to be. I don't want to be anyone else!"
Ar yr eiliad honno mi ddihunodd. Ar yr eiliad honno cafodd y George newydd ei eni; dyna engraifft o ddigwyddiad penodol yn cael effaith ar unigolyn. Pen draw y cyfan oedd i George Foreman ddod yn bastor ac efengylydd fel y gwyddom.
Ydy, mae Duw yn symud mewn dirgel ffyrdd.
"Agoraist ffordd drwy'r môr; Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion, er bod neb yn gweld olion dy draed"