Ffoaduriaid

Ie, ffoaduriaid oedd Iesu Grist a’i deulu am ychydig; ffoi oddi wrth orthrwm a bygythiad o ladd. Mi allwn i droi at fy hen sylw ‘does dim wedi newid’ wrth i bwnc llosg ffoaduriaid effeithio ein hardal fach ni.

Mae’r sefyllfa sydd wedi datblygu yng ngwesty Parc y Strade mewn perygl o adael blas câs iawn yn ein cegau am flynyddoedd i ddod.

Roedd y cynllun yn un rhyfedd yn y lle cyntaf, adleoli cannoedd o bobl ar un safle a hwnnw yn safle anaddas. Ar ben hynny mae bron i gant o bobl wedi colli eu gwaith ac adnodd i’r gymuned wedi ei golli dros nos.

Wedi dweud hynny rhaid bod yn ofalus nad ydym yn cael ein tynnu fewn i ymateb hiliol a hunanol. Mi fu si ar led mai dynion yn unig fyddai yno ond cadarnhawyd bellach mai teuluoedd fydd yno.

Mae yna berygl i ffoaduriaid go iawn gael eu galw yn “illegal immigrants” yn hytrach na “refugees”. Mae yna wahaniaeth dybryd rhwng y ddwy garfan a rhaid i pawb gydnabod hynny.

Dyma’r diffiniad o “illegal immigrant” –

Illegal immigration is the migration of people into a country in violation of the immigration laws of that country or the continuous residence without the legal right to live in that country.

Dyma’r diffiniad o “refugee” –

Refugees are people who have fled war, violence, conflict or persecution and have crossed an international border to find safety in another country. They often have had to flee with little more than the clothes on their back, leaving behind homes, possessions, jobs and loved ones.

Ble ydym ni fel Cristnogion yn sefyll felly, beth ddylai ein hymateb fod?

Beth yw neges Duw i ni yn y cyswllt yma? Dw i’n troi at Salm 36 –

“Mor werthfawr yw dy gariad, O! Dduw!

Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.”

Os yw pobl yn gorfod ffoi o’u gwlad gan adael popeth mi ddylem, fel Cristnogion, geisio ein gorau i roi lloches a chartref diogel iddynt.

Mae nifer o’r bobl yma yn ffoi oddi wrth ryfeloedd a rhaid i wledydd y gorllewin dderbyn y cyfrifoldeb am werthu arfau i hyrwyddo’r rhyfeloedd yma. Dyma ganlyniad gweithred o’r fath a rhaid i ni dderbyn hynny. Ie, yr hen egwyddor o ariangarwch yn bwysicach na bywyd. Mae yna adnod yn llyfr y Pregethwr sydd yn cyfeirio at y bobl yma –

“Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na'r un sy'n caru cyfoeth yn hapus gyda'i enillion.”

Ond anfodlon iawn ydynt i dderbyn canlyniadau trist eu gweithredoedd.

Beth ddywedodd Paul wrth Timotheus yn ei lythr –

“Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni”

Un ffactor arall yn hyn oll sydd yn fy ngofidio i yw sut dderbyniad fydd y bobl yma yn gael ar strydoedd Llanelli?

Mae yna berygl mawr o gasineb yn cael ei ddangos tuag atynt ac fe fydd pobl yn anghofio nad bai y bobl yma yw eu bod wedi eu lleoli yn hen westy Parc y Strade. Cynllun y llywodraeth ganolog yw hwn a beth am y perchnogion? Wel, yr un hen stori yw hi eto gyda’r perchnogion yn derbyn arian sylweddol am leoli’r bobl yma yn yr hen westy. Mae yna symiau mawr wedi eu crybwyll ac yn sicr fe fydd yn talu’n well na gwesty iddyn nhw.

Fe hoffwn feddwl bod modd adolygu’r niferoedd efallai gan rannu’r cyfrifoldeb rhwng gwahanol ardaloedd. Dw i’n siwr hefyd fod pawb yn teimlo dros weithwyr y gwesty a’r modd mae nhw wedi cael eu trin.

Mae’n bwysig fodd bynnag ein bod ni, fel Cristnogion, yn cynnal yr egwyddor o groesawu ffoaduriaid a rhoi lloches iddynt yn ôl dymuniad Duw.

“Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio,

yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng,

yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.

Eseia 25

Previous
Previous

Dwylo Iesu.

Next
Next

Tracio’r natur ddynol.