Gwneud Gwahaniaeth

lavi-perchik-0bAD4qVoRw4-unsplash.jpg

Eseia 1:17

Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.

Mi ddarllenais i ddarn gan wr o'r enw Tony Miles yn ddiweddar. Mae yn weinidog a chaplan cyfryngol i'r Methodist Central Hall yn Westminster.

Pan yn pregethu yn ei eglwys mae'n aml yn meddwl iddo'i hunan "Beth ar y ddaear ydw i'n wneud fan hyn? Pe bai pobl ond yn gwybod i mi fethu fy arholiadau Addysg Grefyddol yn yr ysgol."

Roedd yn brofiad gostyngedig iddo sylweddoli ei fod yn dilyn yr holl siaradwyr anghygoel oedd wedi siarad yn y Neuadd Fawr ar hyd y blynyddoedd - y pregethwr grymus o adeg y rhyfel, Dr.William Sangster, Martin Luther King, y Dalai Lama, Winston Churchill i enwi rhai. A beth am ymwelwyr eraill â'r fangre hon, y rhai ffurfiodd y cyfarfod cyntaf o'r Cenhedloedd Unedig yn 1946, y frenhines a Mahatma Gandhi o bawb!

Mae hanes Gandhi yn wybyddus i bawb, 'Tad ei Genedl', yr arweinydd gwleidyddol ac ysbrydol a arweiniodd frwydr yr India am annibyniaeth oddi wrth reolaeth ymerodrol Prydeinig - a hynny mewn mudiad di-drais.

"Os ydych am heddwch go iawn yn y byd" meddai Gandhi "dechreuwch gyda'r plant."

 

Wrth graffu ar y dyfyniad yma mi gofiais i mi weld erthygl mewn papur dydd Sul yn ddiweddar am deuluoedd oedd yn casglu neu'n berchen degau o ynnau/drylliau yn Unol Daleithiau'r Amerig. Llun yn eu canol o blentyn bach yn sefyll yn browd reit yn dal 'machine gun'. Ac mae'r wlad honno yn methu deall pam fod dynion yn saethu plant mewn ysgolion ac yn y blaen yno! Pa obaith? Ie, roedd Gandhi yn iawn, dechreuwch gyda'r plant.

 

Yn ôl at Tony Miles. Roedd yn diolch i Dduw am y rhai wnaeth wrthod derbyn nad oedd gobaith iddo fel bachgen ifanc. Pobl oedd yn credu fod pawb yn cyfrif, pobl weithiodd yn galed ar y deunydd crai oedd ynddo a buddsoddi yn ei ddyfodol.

Oherwydd hynny, oherwydd i bobl ei helpu ef, mae ef a'i wraig yn ceisio gwneud yr un peth i dalu'r ddyled yma'n ôl. Un engraifft o hyn yw'r cyfraniad bychan y maen't yn wneud i helpu plant, gan gynnwys plant yn India.

Cafodd straeon am fywydau pobl yn cael eu trawsnewid ddylanwad cryf arnynt.

Un o'r bobl yma oedd bachgen o'r enw Take Jane gafodd ei eni yn slyms Mollahati, Kolkata. Yno roedd 10,000 o bobl yn rhannu dau doilet ac un tap - ie, chi wedi darllen yn iawn, deg mîl o bobl!

Ond, gyda chymorth nawdd, Take Jane oedd y plentyn cyntaf o'i gymuned gyfan i fynd i'r ysgol. Yn ddiweddarach mi lwyddodd i gael Masters dosbarth cyntaf mewn Busnes Rhyngwladol ac erbyn hyn mae e'n gwneud gwahaniaeth i fywydau eraill.

I ddyfynnu Gandhi unwaith eto -

"You may never know what results come of your action, 

but if you do nothing there will be no result."

Mae hyn, meddai Tony Miles, yn pigo fy nghydwybod wrth i mi wylio lluniau o blant a ffoaduriaid ar y newyddion. Rhaid cofio fod pob bywyd yn cyfrif a phob bywyd yn gyfartal. Dyna oedd pregeth yr Arglwydd Iesu Grist a dyna'r egwyddor y dylai pob Cristion gofleidio.

Mae nifer o wleidyddion yn "dweud" eu bod yn Gristnogion ond fel y gwyddoch, oddi wrth ei "weithredoedd" y mae adnabod dyn. Mae gofal am gyd-ddyn a helpu hyd eithaf ein gallu, ym mha ffordd bynnag yn bwysig i ni fel Cristnogion.

Fydd y mwyafrif ohonom ddim yn cael eu cofio am flynyddoedd wedi i ni adael y fuchedd hon efallai ond, gyda chymorth Duw, mi allwn ni wneud gwahaniaeth i fywydau eraill trwy ein caredigrwydd a'n cariad tosturiol.

Weithiau byddwn yn teimlo nad yw ein cyfraniad bach ni yn werth dim ond cofiwch eiriau Gandhi o hyd, wrth wneud yr hyn allwch -

"A small body of determined spirits fired by an unquenchable faith in their mission can alter the course of history." 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 2

Next
Next

Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 1.