Iechd da.

Photo by Rosie Fraser on Unsplash

Wrth wrando'n ddyddiol ar y newyddion cawn ein hysgwyd yn aml gan ddigwyddiadau echrydus mewn llawer rhan o’n byd, megis daeargrynfeydd dychrynllyd, gwyntoedd cryfion, llifogydd mawrion, afiechydon angheuol, rhyfeloedd dieflig, a thlodi a newyn sy’n achosi i filiynau o bobl farw mewn sefyllfaoedd trist i’r eithaf. 

Y mae hyn bellach yn batrwm yn ein byd, ac yn ein cyfyngder gweddïwn gyda’r emynydd:

‘Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr,

Erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr.’

Yn naturiol y mae argyfyngau mawr yn codi cwestiynau dwys ac anodd iawn i’w hateb, ac fel Cristnogion, y peth olaf y dylem ei wneud yw cynnig atebion slic i gwestiynau sy’n ymwneud â dioddefaint a phrofedigaethau mawr bywyd. 

Gofid mawr Iesu Grist yn ystod ei weinidogaeth oedd rhagrith pobl grefyddol yn pentyrru geiriau sebonllyd gerbron Duw, ac yn canmol ei enw i’r entrychion pan nad oeddent yn meddwl hynny mewn gwirionedd. 

Does dim dwywaith na chredai Iesu’n gryf fod gwella’r cleifion yn rhan anhepgor o ddyfodiad Teyrnas Dduw i fyd dynion. Pan anfonodd y disgyblion ar genhadaeth ei gomisiwn oedd,

“Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus... (Math 10:8)

Pan fo afiechydon a thrychinebau mawrion yn taro ein daear, mae

llawer yn gofyn, Ymhle roedd Duw pan ddigwyddodd hynny? 

Yr unig ateb y gallwn ei roi yw,

 ‘Roedd Duw yno yn y dagrau, yn y dioddef, yn y cydymdeimlad, yn y cydymdrechu, ac yn y don enfawr o garedigrwydd sy’n llifo dros ein byd.’

 Fel Cristnogion fe gredwn mai yn Iesu’r Meddyg Da, a roddodd

‘ei einioes yn bridwerth dros lawer’, y cawn atebion i ddwys gwestiynau dynolryw. Yn hytrach nag athronyddu’n ddiddiwedd uwchben dirgelwch dioddefaint, fe ymrodd Iesu i iacháu pobl a’u llenwi â bywyd newydd yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol. 

Yn ôl Llyfr yr Actau fe ufuddhaodd arweinwyr yr Eglwys Fore i

orchymyn eu Harglwydd i bregethu’r EfengyI ond hefyd i iacháu’r cleifion ac y mae Luc yn cofnodi nifer o enghreifftiau o hyn.

Nid galw pwyllgor i drafod ac i ystyried yr alwad i gyflawni’r gwaith a wnaeth arweinwyr yr Eglwys Fore, ond ymroi i iacháu drwy rym bywiol y Crist Atgyfodedig.

Allwch chi ddychmygu ein gwleidyddion a'n hawdurdodau ni heddiw - reit, rhaid i ni alw pwyllgor ac yna ffurfio is-bwyllgor. 

Ni'n rhai da am bwyllgora, yn rhai da am ddweud, ddim cystal am wneud. Gweithredu wnaeth arweinwyr yr Eglwys Fore.

Yn ei lyfr The Young Church in Action fe ddywed J. B. Phillips, ‘they did not hold conferences on psychosomatic medicine, they simply healed.’

 Pa mor aml y'm ni'n hunain wedi dweud 'iechyd sy'n bwysig?'

Dyw ennill y loteri yn da i ddim heb iechyd ond mae mwynhau iechyd da heb ennill y loteri yn werthfawr tu hwnt - chi 'di meddwl am hynna? 

Dyw arian ddim yn gwarantu hapusrwydd na iechyd. 

 Credwn fod Duw yn defnyddio ‘amryw ddoniau’ i gyflawni ei waith, ac y mae’r ‘iacháu gwyddonol’ sy’n digwydd heddiw drwy ymroddiad meddygon a nyrsys yn gyfrwng bendith amhrisiadwy.

Cydnabyddir heddiw fod cysylltiad agos rhwng iechyd y corff a chyflwr meddwl ac ysbryd dyn, ac fe ddaeth y pwyslais diweddar hwn â meddygaeth a chrefydd yn agos at ei gilydd.

 Yn ein gwlad heddiw y mae’r gofal am iechyd pobl yn nwylo

gweithwyr y wladwriaeth, ond y mae ein cyfrifoldeb ni fel Cristnogion yn aros yr un. Fel deiliaid teyrnas nefoedd dylem gadw’r wladwriaeth ar flaenau ei thraed yn ei gwasanaeth tuag at y cleifion, a dylem fod yn barod i ysgwyddo’r gost ariannol i gynnal ysbytai ein gwlad. 

Ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae pobl ofn galw am ambiwlans rhag ofn y byddan nhw'n gorwedd ynddi am oriau ar ôl cyrraedd yr ysbyty. Dyna i chi gyflwr y gwasanaeth iechyd, prinder meddygon, prinder nyrsus, prinder gwelyau a phrinder arian.

Dw i'n dweud prinder arian ond eto i gyd mae'n rhyfedd fel mae digon o arian gyda ni i ladd ein gilydd ac i ladd cyd-ddyn. 

Er mwyn hyn y bu Crist farw ar y groes? Er mwyn ein gweld mor barod i ladd ein gilydd ac eto mor gyndyn i wella'n gilydd.

 Dylem fel aelodau’r Eglwys Gristnogol fod ar y blaen yn ein gwasanaeth – yn barod bob amser i fod yn glust i wrando cri’r anghenus gyda chydymdeimlad, ac yn ddwylo a thraed i wneud ein rhan i esmwytháu y rhai gwan yn ein cymdeithas. Mae dyletswydd y Cristion at y gwan a'r methedig yn ddi amau, nid dewisol yw cysuro'r claf i'r gwir Gristion. Rhaid dilyn esiampl y Bugail Da, y Meddyg da, dyna'n braint.

 

Ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd … roedd pris ein

heddwch ni arno ef a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd’

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 3.

Next
Next

Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 2