Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 3.
Rhan 3: Byddwch yn chi eich hun ac osgoi dylanwadau drwg.
Mae bron pob arweinydd eglwys neu ei haelodau wedi cael ei siomi nid yn unig gan feirniaid ar hap ond maen nhw hefyd wedi cael eu siomi neu gan o leiaf un ffrind, cyswllt neu gydweithiwr tymor hir sydd wedi dangos amheuaeth a’r drefn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny'n dangos ymhellach pa mor anodd yw hi i bawb.
Byddwch yr hyn yr ydych yn gobeithio ei weld.
Felly beth ydych chi? Sut ydych chi'n ymateb?
Y llinell sydd angen i ni geisio ei dilyn, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau ddim, yw'r hyn rydym yn gobeithio ei weld.
Hynny yw, os ydych chi'n gobeithio gweld pobl yn ymddwyn yn rhesymol, byddwch yn rhesymol.
Os ydych chi'n gobeithio am garedigrwydd, tosturi a gras, ymgorfforwch hynny.
Peidiwch âg ymateb a sylwadau coeglyd neu dangos ddig gydag ymatebion coeglyd. Gall fod yn anodd. Mae'r mwyafrif o sylwadau ar y llwyfannau cymdeithasol yn galonogol iawn. Ond fe fyddwn rhywbryd yn gwynebu sylwadau beirniadol, yn ddig i ni neu'n hollol wenwynig.
Ein greddf gyntaf yw eisiau dial ... i fynd yn ôl at y beirniaid. Bydd derbyn rhai ymatebion diflas o dro i dro yn arwain at gyfansoddi ateb iddynt yn ein pennau ... a dyna'n union lle mae angen iddyn nhw aros. Yn ein meddyliau.
Mae yna adegau hefyd rydym yn ceisio ennill dros y bobl beirniadol yma ar-lein, ond bydd methu yn anochel. Fel rheol, gallwn droi’r gath yn y cwd mewn bywyd go iawn. Ar y we? bydd cyfradd llwyddiant bron i 0%. Felly peridiwch a ceisio mwyach.
Mae ceisio newid eu meddyliau ar-lein fel ceisio symud bloc 10 tunnell o ddur â'ch bys bach. Nid yn unig nad yw'r dur yn symud, mae gennych fys wedi torri erbyn hyn.
Y ffordd orau i ymateb i sylwadau blin ac eithafol yw bod yr hyn rydych chi'n gobeithio ei weld.
Rwy’n gobeithio gweld pobl resymol sy’n parchu ac yn caru ei gilydd, ac sy’n gallu anghytuno â’i gilydd heb gollu parch. Felly ceisiwch wneud hynny.
Mae yna agoriad enfawr yn ein diwylliant ar hyn o bryd i bobl gymedrol, dosturiol a rhesymol. Dyna beth sydd angen i aneli fod.
Beth ydych chi'n gobeithio ei weld? Byddwch hynny.
Peidiwch â chael eich tynnu i gyflwyno barn ar bopeth.
Beth ydych chi'n ceisio'i gyflawni gyda'ch cenhadaeth bersonol?
I mi'r dyddiau hyn yn fy ysgrifennu a siarad, rwy'n ceisio helpu pobl i fyw mewn ffordd heddiw a fydd yn eu helpu i ffynnu yfory. Fel arweinydd mudiadau gwirfoddol a hwyrach yng Nhapel Seion, treuliais fy amser yn ceisio arwain pobl i berthynas gynyddol â Iesu. Beth bynnag rydych chi'n ceisio'i gyflawni gyda'ch arweinyddiaeth, cadwch at hynny. Peidiwch â chael eich sugno i mewn i'r twll sydd wedi dod yn ddisgwrs gyhoeddus y dyddiau hyn. Nid oes angen i chi fod yn sylwebydd diwylliannol ar bopeth o wleidyddiaeth i chwaraeon, i frechlynnau i reoliadau'r wladwriaeth, i fewnfudo i benderfyniadau'r Goruchaf i hanesion enwogion.
A dyfalu beth? Mae'n debyg nad ydych chi'n arbenigwr ar unrhyw un o'r pethau hynny. Nid wyf innau chwaith.
Ac eto, rydym yn edrych ar lawer o borthwyr cyfryngau cymdeithasol heddiw, ac mae'n ymddangos ei bod yn rhoi sylwadau ar unrhyw beth a phopeth. Mae'n debyg ei fod yn dod o le da. Wedi'r cyfan, rydych chi'n arwain mewn byd lle mae pobl yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu doethuriaeth mewn pwnc arbenigol penodol ar YouTube ac yn deall y pwnc yn berffaith fel nad oes unrhyw un arall yn ei wneud.
Ond dyma’r gwir: nid ydych yn mynd i ennill y ddadl honno. Ac nid oes angen i chi fod yn y ddadl honno yn y lle cyntaf.
Rwyf wedi gweld cymaint o bobl gan gynnwys arweinwyr cymdeithas yn pedlera eu dylanwad trwy bwyso a mesur pob pwnc dan haul ac yn colli prif bwynt eu gweinidogaeth a'u harweinyddiaeth.
Felly beth ydych chi'n ceisio ei wneud eto? Cadwch at hynny. Ac er eich bod chi'n gwneud hynny, canolbwyntiwch ar y pethau sy'n uno pobl, nid ar y pethau sy'n rhannu pobl. Mae canolbwyntio ar rannu yn dod â mwy o rannu. Mae canolbwyntio ar undod yn dod â mwy o undod.
Ar hyn o bryd, mewn diwylliant sy'n llawn rhaniad, mae pobl yn hiraethu am undod. Felly byddwch yn weinidog sy’n uno.
Dyna’r rhan ddiwethaf o’r gyfres ar fod yn ddisgybl yn eich eglwys ond megis dechrau mae’ch ddisgyblaeth chi a fi bob dydd o’r wythnos. Diolch am ddilyn y gyfres.