Nam ar y ffôn.
Roeddwn yn cyhoeddi yn Nasareth bnawn Sul na fyddai oedfa y Sul canlynol oherwydd fod y Parch.Cen Llwyd yn yr ysbyty ac yn methu cadw ei gyhoeddiad. Roedd yn flin gen i glywed nad oedd Cen yn hwylus gan ein bod yn ffrindiau ac mae gen i barch mawr tuag ato.
Ar un o'r silffoedd llyfrau yn fy stydi mae llyfr Cen - Munud i Feddwl - yn eistedd ac es ati i agor y clawr unwaith yn rhagor a bwrw golwg ar ambell stori. Mi ddes ar draws un oedd yn taro deuddeg - Nam ar y ffôn - gan ein bod ninnau wedi newid i linell ffeibr optig a cholli cysylltiad ar yr hen linell heb i ni sylweddoli hynny. Mi hoffwn i ddefnyddio myfyrdod Cen gan ddymuno gwellhad buan iddo yr un pryd.
Wythnos i ddydd Mawrth diwethaf cafodd llinell ffôn y ty nam ac am wythnos doedd dim modd defnyddio'r ffôn o gwbl. Pan alwodd peirianydd B.T. i drwsio'r nam, mawr oedd y rhyddhad ei fod e unwaith eto yn gweithio yn iawn. Mae'r ffôn fel popeth arall - y'n ni'n dueddol o'i gymryd yn ganiataol hyd nes eith rhywbeth o'i le! A do, daeth yr wythnos o dawelwch a llonyddwch i ben yn glou iawn.
Rhyfedd oedd methu cysylltu â'r rheiny o'n i yn arfer cysylltu â nhw yn gyson, a rhyfeddach fyth oedd dyfalu pwy tybed oedd yn ceisio cysylltu ond yn methu, a heb efallai ddeall yn iawn paham. Mae cymaint o bwyslais bellach ar y syniad fod popeth fod i ddigwydd yn union ac ar amrantiad, heb unrhyw oedi o gwbl. Mae gyda ni systemau cyfathrebu mor soffistigedig fel y'n ni bron yn disgwyl cael yr ateb cyn i ni yn y lle cyntaf ofyn y cwestiwn!
Mae gen innau hefyd fy ffôn symudol fel pawb arall ac er nad oes signal yn ty ni, eto wrth gamu tu fas i'r drws a chered ryw lathen neu ddwy i gyfeiriad y pentref nesaf, sef Pont-siân, mae modd cysylltu pan fydd gwir angen. Er mor hwylus, defnyddiol a hylaw yw'r teclynnau hynny - yn benodol felly wrth weld nid yn unig fod un bron ymhob cartref, ond bod bron bob aelod o'r teulu yn cario un - onid oes yna berygl bod y gorddefnydd a'r orddibyniaeth yn rhwystr rhag torri'r llinyn bogel sy'n clymu rhieni a'u plant?
Heb i hwnnw gael ei ddatod yn raddol, rhwystr a methiant fydd camu ymlaen yn naturiol i fod yn annibynol a datblygu'r medr i sefyll ar eu traed eu hunain a meddu'r gallu i wneud penderfyniadau sydd yn anhepgorol yn y broses o dyfu.
Oherwydd bod ein disgwyliadau mor uchel, mae'r siom neu'r rhwystredigaeth gymaint yn fwy felly adeg methiant. Pan nad yw'r atebion yn dod yn hawdd, , onid y'n ni'n mynd i deimlo'n hynod sigledig ac ansicr wrth fethu delio gyda'r anallu i gael ateb cyflym syth?
Fe ddywed rhai fod yna ateb slic, syth a chyflym i bob galwad ysbrydol y'n ni'n gwneud. Alla i byth derbyn hynny. Dw i wedi credu erioed bod cwestiynu ac amau yn rhan iachus o'r broses o aeddfedu a thyfu. Pan ddaw atebion mae hi yn braf, fel roedd hi'n braf clywed y ffôn yn canu wedi iddo gael ei drwsio.
Ond man a man cyfadde', roedd hi yn eithaf braf hefyd cael wythnos o dawelwch, pan nad oedd e yn gweithio.
Diolch i Cen am y sylwadau pwrpasol yna ac mae ei bwynt am y tawelwch yn un teg. Dw i yn orddibynnol ar fy ffôn symudol yn sicr ac roedd yn ofid i minnau, canfod nad oedd galwadau yn cyrraedd y ty ar y linell arferol. Mi allech ddadlau fod hyn yn adlewyrchiad o'n dibyniaeth ar bethau materol ond ochr arall y geiniog yw ei bod yn braf cadw mewn cysylltiad wrth gwrs.
Mae Cen yn codi pwynt am werth cwestiynu ac amau ac rydw i'n cytuno gyda'i sylwadau. Does dim ateb slic i bob cwestiwn, hyd yn oed ym myd crefydd. Trwy holi ac ymchwilio mae darganfod y gwir ond cofiwch yr adnod bywsig hon hefyd - "Canys o ran y gwyddom."
Fe gawn ein hatebion trwy weddi yn aml a dyna yw'n llinell ffôn ni i Dduw wrth gwrs a dyw honno byth yn torri lawr. Na, does dim nam ar y weddi ar unrhyw adeg. I ddyfynnu fy mam "Does dim hanner digon o weddio yn ein byd heddiw." Ie, cadwch mewn cysylltiad.
A gwellhad buan i Cen.