Traddodiadau.

"Mae gofyn bod yn ofalus na fydd traddodiad yn troi yn fynwent i ni"                                                                               

Parch.Wilbur Lloyd Roberts

Traddodiad yw un genhedlaeth yn trosglwyddo gwybodaeth, credoau neu arferion i’r genhedlaeth nesaf mewn cyswllt cymdeithasol arbennig. Mae’r arferion hynny yn datblygu i fod yn draddodiadau teuluol neu gymdeithasol.  

Mae traddodiad yn cynnwys elfennau cryf o gysondeb, ymrwymiad a’r disgwyliedig. Mae traddodiadau yn tanlinellu pwysigrwydd ‘gwreiddiau’ a phwysigrwydd ‘stori’.  Cawn gyfle i werthfawrogi o ble rydym wedi dod a beth yw ein hanesion unigryw. 

Trosglwyddwyd traddodiadau ar lafar i gychwyn. Mae gwledydd ac ardaloedd gwahanol gyda’u traddodiadau unigryw eu hunain sydd wedi datblygu i fod yn rhan o’r diwylliant.

Mae traddodiadau gwahanol o fewn crefyddau; mae rhai sy’n rhannu’r un hanes, arferion, diwylliant a dysgeidiaeth tra bod eraill yn wahanol.  Er bod traddodiadau yn rhan o ddiwylliant mae gwahaniaeth rhyngddynt. Mae diwylliant yn cyfeirio at y ffordd rydym yn byw nawr, ond mae traddodiadau yn rhan o’r diwylliant sydd wedi eu pasio ymlaen o’r gorffennol e.e. mae rhoi anrhegion Nadolig yn draddodiad ond yn niwylliant yr 21ain ganrif rydym yn fwy tebygol o roi gemau cyfrifiadur nag oren neu afal.

Traddodiadau Cymreig 

Roedd plant yn arfer casglu calennig ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn, wrth fynd o dŷ i dŷ yn canu a chael arian fel rhodd am eu hymdrechion. Mae’r arferiad yma mwy neu lai wedi marw erbyn hyn, mwya'r piti. 

Mae ymweliad gan y Fari Lwyd hefyd yn draddodiad Cymreig sydd wedi dod i ben i raddau helaeth, ac nid yw dathlu’r Plygain (sef mynd i’r eglwys rhwng 3 a 6 y bore ar ddiwrnod Nadolig) yn draddodiad sydd wedi llwyddo i oroesi yn y diwylliant modern, heblaw am Sir Drefaldwyn.

Mae dawnsfeydd gwerin a chaneuon traddodiadol y Cymry’n dal yn fyw, ac mae diolch i’r eisteddfodau mawr a bach am hynny.

Hen Draddodiadau a Thraddodiadau Newydd

Wrth i gymdeithas a diwylliant newid mae rhai traddodiadau yn gorffen. Naill ai nid oes lle iddynt yn y gymdeithas neu mae traddodiadau newydd yn datblygu.

Yn y capeli Cymraeg mae un dull o addoli wedi bodoli ers canrifoedd ac anodd iawn yw symud oddi wrth y dulliau traddodiadol. Ond, gyda datblygiad technoleg, cerddoriaeth fwy bywiog a ffurf weledol o hybu dealltwriaeth yn cael eu defnyddio ym mhobman bron, mae nifer helaeth o gapeli yn graddol addasu eu ffyrdd o addoli.

Mae traddodiadau yn bwysig mewn cymdeithas. Mae rhai elfennau o’r gorffennol bob amser yn werth eu cadw. I Gristnogion mae dysgeidiaeth y Beibl yn bwysig oherwydd bod ei gynnwys yr un mor berthnasol heddiw ag y bu erioed.

"Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!"

 (1 Cor.11:2).

 Wrth  gwrs mae newid neu fygwth unrhyw draddodiad yn creu cyffro. Gwelwn fod rhai arweinwyr Iddewig yn cyhuddo Steffan (fel Iesu) o fygwth eu traddodiadau. Arweiniodd hyn at ladd Steffan.

"Dŷn ni wedi'i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”

 (Act.6:14).

 Gan amlaf mae pobl yn hoffi glynu at y traddodiadol. Ond nid oes rhaid glynu wrth draddodiadau os nad ydynt yn addas na llesol i’r oes.

"Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy'n dilyn traddodiadau dynol a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia."

 (Col.2:8).

 Mae rhan gyntaf y blog yma yn cydnabod gwerth traddodiad ac mae'n bwysig pasio rhai traddodiadau o genhedlaeth i genhedlaeth. Yn yr un modd mae'n bwysig atgoffa pobl o'u treftadaeth a'u harferion cenedlaethol a lleol.

O'n rhan ni, fel Cristnogion, mae Gair Duw yn y Beibl yn aros, yr hanesion a'r egwyddorion yr un mor bwysig heddiw ag y buont erioed. Ar yr un pryd rhaid cofio fod iaith y Beibl wedi newid ei diwyg ar hyd y blynyddoedd ac mae'r Gair ar gael bellach mewn iaith cwbl ddealladwy i bawb. 

Mae'r ddwy adnod olaf a ddyfynnir yn dangos yn gryf nad oes angen i ni fod ag ofn newid ein dulliau. Os bydd y dull o gyflwyno yn newydd, yr un fydd y neges, os bydd y dull o ymgynnull yn newid, yr un fydd y neges.

Erbyn heddiw mae modd cyrraedd cynulleidfa ehangach mewn gwahanol ffurfiau modern ac os yw hyn yn golygu lledaenu teyrnas Crist, da o beth yw hynny.

Roeddwn yn agor y blog yma gyda geiriau ein diweddar weinidog, Parch.Wilbur Lloyd Roberts, ac mae ei eiriau yn sefyll o hyd.

 

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Parchu ein gilydd.

Next
Next

Nam ar y ffôn.