Neges George Carlin
Gweld y byd o bersbectif newydd.
Yr eironi mawr am ein cyfnod ni mewn hanes yw fod gennym adeiladau uchel ond tymer byr, heolydd lletach ond safbwyntiau cul. Rydym yn gwario mwy ond mae llai gennym, yn prynu mwy ond yn mwynhau llai. Mae gennym dai mawr a theuluoedd bach, mwy o gyfleusterau ond llai o amser.
Mae gan bawb radd ond llai o synnwyr cyffredin, mwy o wybodaeth ond diffyg barn, mwy o arbennigwyr nag erioed ond eto i gyd, mwy o broblemau. Mae gennym fwy o feddyginiaethau a llai o iechyd da.
Rydym yn yfed gormod, ysmygu gormod, gwario yn ddifeddwl, ddim yn chwerthin hanner digon, yn gyrru rhy gyflym, yn gwylltio gormod, yn aros ar ein traed rhy hwyr, yn codi wedi blino, yn darllen rhy ychydig, gwylio gormod o deledu ac nid ydym byth bron yn gweddio.
Rydym wedi cynyddu ein heiddo ond mae ein gwerthoedd wedi gostwng. Rydym yn siarad gormod, byth bron yn caru ac yn casau llawer rhy aml.
Rydym wedi dysgu sut i wneud bywoliaeth, ond nid sut i fyw. Rydym wedi ychwanegu blynyddoedd at ein bywyd ond heb ychwanegu bywyd i'n blynyddoedd. Rydym wedi bod yr holl ffordd i'r lleuad ac yn ôl ond yn cael trafferth mawr i groesi'r stryd y gyfarch cymydog. Rydym wedi concro'r gofod allanol ond heb goncro ein gofod mewnol.
Rydym wedi gwneud pethau mwy ond ddim pethau gwell.
Rydym wedi glanhau yr awyr o'n cwmpas ond wedi llygru'r enaid. Rydym wedi llwyddo i goncro'r atom ond heb goncro ein rhagfarnau. Rydym yn ysgrifennu mwy ond yn dysgu llai. Rydym yn cynllunio mwy ond yn cyflawni llai.
Rydym wedi dysgu brysio ond heb ddysgu pwyllo. Rydym yn adeiladu mwy a mwy o gyfrifiaduron i gadw mwy o wybodaeth ac i gynhyrchu mwy o gopiau nag erioed ond rydym yn cyfathrebu llai a llai.
Rydym yn byw mewn oes o fwyd cyflym ond yn treulio'n araf, oes o ddynion mawr â chymeriad bach, oes lle mae elw yn bwysicach na pherthnasau.
Dyma oes y ddau gyflog ond mwy o ysgaru, tai crand ond cartrefi wedi eu chwalu. Dyma gyfnod y gwibdeithiau sydyn, y 'throwaway nappies', y 'one night stands', cyrff dros bwysau a thabledi sydd yn gwneud popeth o godi calon i dawelu a hyd yn oed lladd.
Mae'n adeg pan fo llawer gennym yn ffenestr y siop ond bach iawn ar ôl yn y storfa.
Cofiwch - treuliwch amser gyda'ch hanwyliaid achos fydda nhw ddim yma am byth. Cofiwch ddweud gair caredig wrth blentyn sydd yn eich hedmygu gan y bydd y plentyn yna'n tyfu ac yn symud yn ei flaen.
Cofiwch roi cwtsh i'r person wrth eich hochr achos dyna'r unig drysor allwch ei roi o'ch calon nad yw'n costio ceiniog.
Cofiwch ddweud rwy'n dy garu wrth eich partner a'ch hanwyliaid a sicrhewch eich bod o ddifrif wrth ddweud y geiriau. Bydd un carad yn difa pob loes os ydy yn dod o ddyfnder eich enaid.
Cofiwch ddal dwylo a sawru'r foment oherwydd ryw ddiwrnod ni fydd y person yna gyda chi.
Cymerwch amser i garu, amser i siarad ac amser i rannu eich meddyliau gyda'ch hanwyliaid.
A cofiwch - Peidiwch a mesur eich bywyd oddi wrth sawl anadl a gymerwch ond wrth yr adegau pan fo rhywbeth bendigedig yn digwydd fydd yn dwyn eich hanadl.
Ie, diolch George Carlin achos mae'r ddau baragraff diwethaf yn tynnu sylw at yr union bethau ddylai ddigwydd wrth i ni greu ein normal newydd. Mae'r cyfarwyddiadau yma yn glir yng ngeiriau Iesu Grist yn y Testament Newydd - dyma egwyddorion y dylai'r Cristion ddilyn bob amser, ym mhob oes.
A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.