Ti ishe swap?
Yr wythnos yma rwy'n cynnwys blog gan gyfaill i mi sy'n weinidog yn ardal Dolgellau, Dinas Mawddwy a Llanfair Caereinion - Parch.Euron Hughes. Mae Euron yn gefnogwr peldroed brwd - cefnogwr Everton, fel fy nhaid innau - ac mae wedi defnyddio agwedd ar y diddordeb hwnnw i gyfleu negs i ni wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau a roed arnom yn ddiweddar. Diolch iddo am gyfrannu at y blog a phob bendith arno ef a'i eglwysi.
“Dim Frankie Bunn eto!”
“Ti isho swap?”
‘Sgen ti shiny?’
Dwi’n mynd yn debygach i nhad bob dydd. Mae paced o sticeri pel-droed panini ar gyfer Euro 2020(1) bellach yn 90c am baced. “Faint?????? Dwi’n cofio pan oedden nhw yn ddim ond 8c y paced!”
Faint ohonoch chi oedd – neu sydd yn dal wrthi – yn casglu sticeri pel-droed? Efallai bod na fwy ohonoch eleni am fod Cymru yn yr albwm am dim ond yr ail waith.
Ar ôl cychwyn rydach chi’n cael swaps, h.y. nifer o’r un sticer a rhai rydych chi angen yn brin fel aur – a’r gwneuthurwyr yn tystio fod nifer hafal o bob sticker wedi cael eu cynhyrchu. Nôl yn yr 80au pan oeddwn yn casglu Football 82,83,84,85 ayyb…. Roedd bron bob paced oeddwn yn prynu hefo sticer ymosodwr Luton, Frankie Bunn…a doeddwn byth yn cael Peter Reid, Norman Whiteside na Ian Rush. Ac felly roeddech yn prynu mwy a mwy, a thrio cael swaps hefo’ch ffrindiau – ond roeddent hwythau yn yr un cwch.
A mae’r sticeri yn dal yn boblogaidd hefo plant……a phobol canol oed a ddylai wybod yn well (ahem!). Ac mi wn am rai dynion hÿn na mi hyd yn oed yn cymryd y peth o ddifri ac yn defnyddio pethau fel speadsheet Excel i gadw cyfrif o be sydd ganddynt a be mae nhw angen. A mae na eraill yn gwerthu rhai anodd eu cael ar safleoedd fel Ebay am grocbris!
Casglu a hel. Peth od am ddynoliaeth. Ni ydi’r unig greadur ar y ddaear sydd yn hel mwy na be da ni angen i fyw. Ac eto…da ni yn casglu a hel bob math o bethau nad ydym ni wir angen; sticeri, llestri drud i roi mewn cwpwrdd gwydr, hen geir, teddy bears, stamps, recordiau finyl, doliau, cerrig a grisialau…ond rhyw flwyddyn yn ôl roedd rhai pobol yn chwilio ac yn hoardio rhywbeth rhyfedd iawn iawn….papur tŷbach.
Mae’n siwr bod na lawer o bethau gwaeth mewn bywyd na casglu a hel rhyw bethau sydd yn ein diddori a’n diddanu ni. Ond pan mae hynny yn troi yn weithred hunanol sydd yn amddifadu eraill - yna mae yna broblem.
Yn y bregeth ar y mynydd fe ddywedodd Iesu
“oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd mae dy galon.”
Gadewch i ni hel, casglu a swapio gweithredoedd o gariad, gofal a charedigrwydd wrth i ni cymeryd camau bach tuag at normalrwydd ar ôl y cyfnod clo diweddara yma.
A'r gwirionedd ydi, mae’r trysorau o weithredoedd clên a chariadus mor brin, mor anghyffyrddadwy, ni allwn eu rhoi mewn albwm, na eu rhoi ar silff ben tân. Ond maen’t yn cynhesu’r galon ar cof yn well na unrhyw beth yn y byd.
Y Parchedig Euron Hughes
Gweinidog a chefnogwr brwd o beldroed ac Everton o ardal Dolgellau, Dinas Mawddwy a Llanfair Caereinion