Pwrpas Bywyd
Cyfres o fyfyrdodau ar Pwrpas Bywyd
"The man without a purpose is like a ship without a rudder - a waif, a nothing, a no man." Dyfyniad gan Thomas Carlyle.
Beth sy'n gyrru bywyd rhywun? Yn y geiriadur mae 'gyrru' yn cael ei ddiffinio fel gwthio, taro mewn. Pan ydych yn gyrru car neu gyrru hoelen i bren neu yrru pêl golff rydych yn eu gwthio neu eu taro i ryw gyfeiriad arbennig. Beth sy'n gyrru eich bywyd chi?
Efallai bod rhai yn cael eu gyrru gan broblem neu bwysedd neu 'deadline'. Efallai bod rhai yn gael eu gyrru gan atgof poenus, ofn cynhenid neu ryw gred anymwybodol. Mae yna gannoedd o angylchiadau, gwerthoedd ac emosiynau sy'n gallu gyrru bywyd rhywun.
Dw i am edrych ar bump ohonynt.
1. Mae llawer yn cael eu gyrru gan euogrwydd.
Pobl sy'n treulio eu bywyd yn rhedeg oddi wrth rhywbeth mae nhw'n ddifaru gan geisio cuddio eu cywilydd. Mae atgofion yn rheoli bywydau rhain, mae nhw'n aml yn cosbi eu hunain yn ddiarwybod gan anwybyddu eu llwyddiannau.
Roedd euogrwydd Cain yn peri iddo gilio oddi wrth Dduw ac meddai Duw wrtho -
" Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad"
Crwydro heb bwrpas i dy fywyd.
Mae ganddo ni gyd orffennol ond sdim rhaid i ni fod yn gaeth i'r gorffennol hwnnw, nid dyna mae Duw eisiau. Mi drodd Duw Moses o lofrudd i arweinydd ac mi drodd gachgi fel Gideon yn arwr dewr ac mi all wneud pethau mawr â gweddill ein bywydau ni hefyd. Mae Duw yn rhoi cyfle newydd i bawb.
2. Mae llawer yn gael eu gyrru gan ddrwgdeimlad a dicter.
Mae pobl fel hyn yn gwrthod gadael unrhyw loes i fynd ac yn lle maddau mae'r cyfan yn cael ei droi drosodd a throsodd yn eu meddyliau. Y perygl yw i hwn ffrwydro yn y diwedd wrth ymateb i eraill.
Mae drwgdeimlad yn aml yn peri mwy o loes i'r person sy'n coleddu'r syniadau yna. Mae'n debyg fod yr un achosodd y teimladau yma wedi symud ymlaen ac anghofio'r cyfan.
Dyw cynnal teimladau chwerw ond yn peri loes i ni'n hunain, dyw hynny'n newid dim byd.
3. Mae rhai yn cael eu gyrru gan ofn.
Efallai bod eu hofnau yn ganlyniad i brofiad annymunol, i ddisgwyliadau afrealistig neu gael eu magu mewn awyrgylch galed. Mae'r bobl yma yn colli cyfleon am eu bod ofn mentro allan ac yn chwarae'n saff rhag tarfu ar y 'status quo'.
Mae ofn yn gallu bod yn garchar a'ch rhwystro rhag cyflawni yr hyn sydd gan Dduw ar eich cyfer. Rhaid ei goncro, a'r arfau i wneud hynny yw cariad a ffydd.
Dyma eiriau o adnod 18 o lythr cyntaf Ioan -
"Mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw."
4. Mae llawer o bobl yn cael eu gyrru gan fateroliaeth.
Faint bynnag sydd gan rai pobl mae'n rhaid cael mwy a dyma glefyd mawr sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y cyfnod yma. Cael eu gyrru gan gamsyniadau yn hytrach na phethau pwysicach a diogelach fydd yn eu gwneud yn hapus.
Dyw pethau materol ond yn rhoi hapusrwydd dros dro i ddyn. Myth llwyr yw'r gred, os caf i fwy fe fyddaf yn bwysicach. Dyw Duw ddim yn ein barnu yn ôl y 'pethau' sydd gennym.
Nid arian sy'n gwneud bywyd dyn yn ddiogelach, mae gwir ddiogelwch i'w gael mewn rhywbeth na all neb ei gymryd oddi arnoch - eich perthynas gyda Duw.
5. Nifer yn cael eu gyrru gan yr angen am gymeradwyaeth.
Mae'r garfan yma yn gadael i ddisgwyliadau rhieni neu bartneriaid neu athrawon neu ffrindiau reoli eu bywydau. Mae yna nifer o oedolion sy'n dal i geisio ennill cymeradwyaeth eu rhieni!
Ffactor gryf arall yw "peer pressure". Yr awydd i ddilyn y 'crowd'.
Dw i ddim yn gwybod beth yw pob allwedd i lwyddiant ond un allwedd i sicrhau methiant yw ceisio plesio pawb. Mae cael eich rheoli gan farn eraill yn ffordd i golli allan ar bwrpas Duw ar ein cyfer. Meddai'r Iesu -
“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd."
Mae deall a gwybod ein pwrpas mewn bywyd yn rhoi ystyr i fywyd ac mae pobl yn chwilio am ystyr i'w bywyd ym mhob math o ffyrdd. Mi ysgrifennodd un dyn yn ei ugeiniau fel hyn unwaith -
"I feel like a failure because I'm struggling to become something and I don't even know what it is. Someday, if I discover my purpose, I'll feel I'm beginning to live."
Heb Dduw does dim pwrpas i fywyd a heb bwrpas does dim ystyr i fywyd, dim arwyddocad, dim gobaith. Mae nifer yn y Beibl wedi mynegi anobaith, Eseia -
" Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas."
a Job -
" Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd, ac yn dod i ben mewn anobaith."