Ennill yr Aros
Ar hyn o bryd mae'r eglwys yn y shifft cyfathrebu fwyaf ers 500 mlynedd wedi chwyldro argraffu yn Ewrop y dadeni a chyfieithiad Wiliam Morgan o’r Beibl.
Mae Covid-19 newydd gyflymu’r hyn oedd yn digwydd eisoes ac o dueddiadau’r deng mlynedd diwethaf mae’n annhebygol y bydd y niferoedd byth i ddychwelid i adeiladau’r eglwys fel rydym yn eu hadnabod. Rydym yn byw ar groesfan newid ac er ein bod yn siarad y geiriau a’r her o newid mae'n ymddangos bod addasu ein hunain i ddyfodol mwy ansicr yn hynod gyfyngedig.
Bydd rhai eglwysi yn aros yn yr unfan ac yn gwywo ar y winwydden tra bydd eraill yn ceisio trawsnewidiad i le mwy ‘hybrid’, gan gadw rhai o'r hen arferion wrth symud ymlaen gyda'r newydd.
Os oedwn am funud ac archwilio'r hyn y mae'r byd yn ei wneud yna dim ond enghraifft gynrychioliadol ydym ni. Yn sicr nid ydym ar ein pennau ein hunain, mae sefydliadau eraill, cyrff gwirfoddol, cwmnïau a hyd yn oed llywodraethau yn cael trafferth gyda chyflymder y newid sy'n cael ei yrru gennym ni. Ni’r defnyddiwr.
Os ydym felly'n trawsnewid gan bŵer chwyldro digidol yna mae'n rhaid i ni gael eglwys ar-lein ac all-lein. Ni fydd eglwysi ‘gwae fi’ yn goroesi’r deng mlynedd nesaf.
Rhaid i ni gael mynegiad newydd o'r eglwys a fydd yn arwain at fynegiant lluosog o'r eglwys yn y pen draw. Yn sicr beth sydd yn llusgo ni’n ôl yw baich trwm yr adeilad er mae canolfan Hebron, o ennill cymorth ariannol, yn gyfle gwich i addasu ac yn ysgogiad i newid go iawn yn y dulliau o gyd-gerdded a’n cenhadaeth fel Cristnogion.
Mae pobl yn dechrau dod i arfer â dulliau newydd o weithio erbyn hyn. Er bod yr ysfa i ‘normalrwydd’ yn rhywbeth rydym yn disgwyl ymlaen iddo fe fydd codi’r llen ar Cofid yn fore newydd niwlog am beth amser.
Rhaid i ni gael gweledigaeth newydd ar gyfer yr eglwys lle mae'r pwyslais ar y genhadaeth ac nid ar ein presenoldeb yn y capel a chyflawni ein cenhadaeth yn anad dim arall. Peth rhyfedd yw bod y conglfaen yma o lwyddiant yn dal yn sefyll wrth ein pennau. ‘Countdown’ i dranc anochel.
‘Enillwn yr aros’. Mae ‘na gymaint o faterion sydd allan o’n rheolaeth a rhaid inni wneud y gorau o’r saib rhyfedd hwn.
Rhaid i'n map o’r ffordd ymlaen ar gyfer yr eglwys fod yn syml, yn glir ac yn ddiamwys. Rhaid i ni i gyd ddod yn rhan fyw ohono a chyfrannu at y trawsnewid. Bydd y cyfnod pontio yn fwyaf tebygol o aros am genhedlaeth a dim ond gosod sylfeini newydd ar gyfer dyfodol i eglwys Crist bydd ein galwad ni.
Cofiwch mai Duw bydd yn gofalu am ei Eglwys, gofalu am ei bobl er mwyn iddynt fyw ei bywyd yn ei holl gyflawnder bydd ein cenhadaeth a’n dyletswydd ni.
Wrth fanteisio ar gyfnod y trawsnewid a’r chwildro newydd yn ein hanes defnyddiwn ein hamser dan warchae i ‘Ennill yr Aros’ yn ôl Gair Duw.
Credwch fod y Duw a'ch achubodd yn clywed eich cri. (Micha 7: 7).
Gwyliwch gyda disgwyliad, ond byddwch yn barod am atebion annisgwyl. (Salm 5: 3).
Rhowch eich gobaith yn ei Air. (Salm 130: 5-6).
Ymddiried yn yr Arglwydd, nid yn eich dealltwriaeth eich hun. (Diarhebion 3: 5-6).
Gwrthsefyll gofidiau, ymatal rhag dicter, bod yn llonydd, a dewis amynedd. (Salm 37: 7-8).
Byddwch yn gryf a byddwch yn ddewr. (Salm 27: 13-14; 31:24).
Weld y saib fel cyfle i brofi daioni Duw. (Salm 27:13; Galarnadau 3:25).
Arhoswch am addewid Duw yn lle mynd eich ffordd eich hun. (Actau 1: 4).
Parhewch yn ddiysgog mewn gweddi, gan fod yn ddiolchgar. (Colosiaid 4: 2).
Cofiwch am y bendithion sydd eto i ddod. (Eseia 30:18).