Rhoi’r cyfan.
“Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid…” Ioan 10:11 Beibl.net
Daeth Iesu i’r ddaear i’n haduno â Duw drwy’r aberth eithaf: ei fywyd ei hun.
Dywed Ioan 3:17, “Ni anfonodd Duw y Mab i’r byd i gondemnio’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo.” Trwy aberthu ei hun drosom ar y groes, cymerodd y gosb am ein holl bechodau ar unwaith. Arwydd o gariad Duw oedd rhoi ei fywyd er mwyn i ni gael byw. Mae cariad plentyn hefyd yn nodweddiadol o gariad sydd heb derfynau.
Stori wir am gariad sy’n dilyn, o un o gymoedd de ddwyrain Cymru. Mae’r stori wedi’i addasu rhywfaint bach ac mae enwau’r prif gymeriadau wedi newid. Falle bydd y stori yn gyfle i ni gyd geisio deall dyfnder cariad plentyn.
Roedd byw yng nghymoedd difreintiedig Dwyrain Cymru yn anodd iawn i deuluoedd yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf, yn enwedig i deuluoedd a phlant ifanc. Roedd Josi a Dan yn gariadon ers yr ysgol gynradd a braidd iddynt fod ar wahân o gwbl trwy gyfnod ei llencyndod. Ar ddiwedd y nawdegau symudodd y ddau o'r pentre’ i'r dre gyfagos i chwilio am waith a lle i fyw. Ymhen amser ganwyd tri o blant iddynt, William oedd y cyntaf anedig a phen melyn hardd, dwy flynedd wedyn ganwyd gefeilliaid, dwy ferch, Elin ac Elen. Er bod y teulu bach yn llwm, Dan allan o waith a Josi’n ceisio cadw pen llinyn gyda’i gilydd yn glanhau roeddent yn gyfoethog o gariad.
Fe ddaeth ergydion di-ri i aflonyddu a'r hapusrwydd y teulu. Collodd Dan ei waith unwaith eto yn y ffatri a bu rhaid i Josi weithio mewn tri gwahanol swydd er mwyn cadw dau ben llinyn yng nghyd. Roedd ganddynt gi bach Jac, ffrind mynwesol y plant oedd o hyd wrth ei hochr a chysgai dan wely’r efeilliaid petai’n cael y cyfle. Erbyn hyn roedd Jac yn un ar ddeg blwydd oed ac yn anffodus oherwydd tostrwydd difrifol bu rhaid i Josi egluro i’r plant pam oedd y mil feddyg wedi gorfod 'dodi Jac i gysgu'. Roedd y penderfyniad yn anodd a thorrodd y plant eu calonnau’n llwyr.
Ymhen rhai misoedd wedyn a'r efeilliaid yn wyth blwydd oed daeth y newyddion dirdynnol bod Elin yn dioddef o Lewcemia a bu angen iddi dderbyn triniaeth arbenigol yn Ysbyty'r brifddinas. Wedi wythnosau hir o ddioddef triniaeth cemotherapi, gwaethygodd Elin nes yr unig fodd iddi oroesi oedd derbyn celloedd o fêr byddai'n cydweddi ac yn ddiogel iddi.
Cafodd y teulu i gyd profion gwaed a phrofion o fêr eu hesgyrn ac fel gallwch ddychmygu Elen oedd yr unig un oedd â chelloedd o’r mêr gallai achub bywyd ei chwaer. Gofynnodd yr arbenigwr i'r teulu ymweld ag ef er mwyn cyflwyno'r wybodaeth iddynt. Ar fore'r cyfweliad clywodd Dan ei fod wedi llwyddo cael gwaith am y tro cyntaf ers amser ac oedd yn dechrau'r bore hynny ac roedd William yn dechrau ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol Uwchradd. Bore niwlog oedd hi’r bore hynny pan aeth Josi ac Elen at yr arbenigwr ar eu pennau eu hun.
Wedi trafodaeth hir a manwl roedd Elen wedi drysu wrth edrych yn ôl a ‘mlaen er ei mam a’r arbenigwr ac aeth allan o’r ystafell cyfweld i eistedd ar ymyl gwely Elin. Chwiliodd ei llygaid dros y pibellau gwaed, yr hylifau ac offer cynnal bywyd a digalonnodd wrth weld ei chwaer yn dioddef cymaint.
Penderfynodd Josi mai'r arbenigwr byddai orau i ofyn i Elen am ganiatâd i godi'r mêr oddi wrthi er mwyn ei drin a thrallwyso’r elfennau i Elin. Galwodd ei mam Elen i mewn i’r ystafell unwaith eto. Er mwyn taweli ei meddwl dywedodd yr arbenigwr wrth Elen y byddai ddim mewn poen yn ystod y driniaeth am ei fod am ei dodi i gysgu tra'n tynnu'r mêr oddi wrthi.
Edrychodd Elen yn ofnus ar yr arbenigwr, rhychodd ei thalcen a chuddiodd ei phen yn ei dwylo wrth iddi glywed y newyddion. Siglodd yn ôl a 'mlaen yn araf ac yna cododd a cherddodd yn araf a meddylgar allan o'r ystafell.
"Gadwch iddi" dywedodd Josi'n bryderus " mae'n cymryd ei hamser i ddod i benderfyniad gan amlaf"
Ymhen deng munud daeth yn ôl ac eistedd unwaith eto i wynebu'r arbenigwr. A'i llais yn grynedig a'i llygaid yn llawn i'r ymylon a dagrau, cymerodd anadl ddofn ac edrychodd yn drist ar ei mam ac atebodd a llais crynedig,"Fi’n fodlon", a thorrodd i lefain yn dawel.
Cododd yr arbenigwr ar ei draed,
"Da iawn Elen, ti'n ferch ddewr iawn, dewch i ni gael mynd yn syth, fi’n barod i ddechrau prynhawn 'ma".
"O na! na!" gwaeddodd Elen, arhosodd ar ei thraed a chrynodd drosodd wrth geisio ffurfio'u geiriau.
"Na!, na! dim heddiw!" gwaeddodd yn bendant.
Trodd Elen yn sydyn at yr arbenigwr ac mewn arswyd llwyr, estynnodd ei breichiau tuag ato a galwodd yn epilgar
."Na, na, mae'n rhaid i fi fynd adref, mae'n rhaid i fi ddweud ffarwel wrth dad a William yn gyntaf!"
Pa un ohonom ni sydd yn barod i roi ei fywyd dros eraill?