Cyfnod Aur
Mae'n siwr bod yna gyfnod aur neu gyfnod euraidd ym mywyd pob un ohonom wrth fwrw cip yn ôl i'r gorffennol. Roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am hyn ac mi ddeuthum i'r canlyniad mai fy nghyfnod yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth rhwng 1976 a 78 oedd fy nghyfnod i. Mae cymaint o fwynhad y cyfnod yma wedi dylanwadu ar wahanol agweddau o mywyd.
Mi ddechreua i ym myd fy niddordeb pennaf sef byd chwaraeon ac mi gefais y fraint o chwarae yn nhîm cyntaf yr ysgol ar gyfnod llwyddiannus gyda Cymry Cymraeg, pob un y byddwn yn ystyried yn ffrind. Roedd y mwynhad a deimlais yn y cyfnod hwnnw wedi arwain at chwarae, hyfforddi, gweinyddu a chefnogi yn y maes ac yn sicr wedi dylanwadu ar gwrs fy mywyd i un cyfeiriad. Melys yw'r atgofion am deithio ar y bws ar fore Sadwrn mewn cwmni difyr a'r sesiynau ymarfer creadigol dan ofal Alan Lewis oedd yn hyfforddwr penigamp.
Yn ystod y cyfnod yma mi gefais y fraint o ganu yng nghôr cymysg yr ysgol dan faton sicr Rhyddid Williams. Rwy'n falch o ddweud fod nifer o fois y tîm rygbi yn canu yn y côr ac mae gen i atgofion chwerw felys o gystadlu mewn eisteddfodau'r Urdd (a chael cam!). Ar daith i eisteddfod Porthaethwy mi gefais y fraint amheus o rannu gwely gyda Roger Thomas o Bontiets (fydd e ddim yn diolch i mi am ei atgoffa!) Roedd hwn yn gyfnod lle'r oedd plant yn aros yn nhai pobl wrth gwrs.
Fe arweiniodd y ffaith bo fi'n canu yn y côr yn y cyfnod yma at bennod bleserus arall, sef ymuno gyda chôr meibion Mynydd Mawr dan arweiniad Rhyddid unwaith eto. Mi ymunodd criw ohonom yn fechgyn ifanc, Roger, Julian, Gethin, Simon, Martyn, Ieuan Wyn a finnau ac mae taith i Launceston yng Nghernyw yn ystod y cyfnod yma yn aros yn y cof. Roedd yn brofiad gwych i ni fel bechgyn ifanc i gymysgu gyda cymeriadau megis Jack Roberts, Idris Francis a nifer o rai drygionus eraill. Mi ddysgais i dipyn yn canu gyda'r Baswyr cyntaf rhwng Delme Jones a Wil Ifans.
O ganlyniad bum yn canu gyda Chantorion y Rhyd a Bois y Castell, y cyfan wedi cychwyn gyda chôr yr ysgol yn ystod y cyfnod yr ydw i'n cyfeirio ato.
Bu'r diddordeb yma mewn canu a darllen sol-ffa yn ysgogiad i fwrw iddi yn ein Cymanfa Ganu ni ac mae'r brwdfrydedd hynny, fel y gwyddoch, yn parhau mor fyw ag erioed. Mae fy niolch yn fawr i rai fel May Isaac a Joe Jenkins am ein trwytho yn y sol-ffa ac i Rhyddid am wneud cantorion ohonom.
Canwch fawl i Dduw, canwch!
Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;
Canwch gân hyfryd iddo!
Mae'r adnodau uchod yn adlewyrchu dylanwad y capel yn ystod y cyfnod euraid yma hefyd gan fod y Clwb Ieuenctid yn rhedeg yn Hebron ac mae'r criw byrlymus oedd yn cyfarfod yno yn parhau yn ffrindiau hyd heddiw a'r mwyafrif yn weithgar oddi fewn i'r eglwys. Roedd ein gwibdeithiau i'r gogledd yn epig! Byddai nhad wrth ei fodd yn cael esgus i deithio drwy Stiniog a stopio gyda'r teulu i arddangos ei gywion!
Ar nodyn personol rhaid cofio bod un oedd yn aelod o'r côr, yn aelod o'r clwb ieuenctid ac yn y chweched dosbarth gyda fi wedi dylanwadu'n drwm ar fy nyfodol gan fod Caroline a finnau yn caru yn ystod y cyfnod yma. Doeth fyddai peidio ymhelaethu'n ormodol ond drwy feddwl am y garwriaeth a cherddoriaeth mae hynny'n arwain at ddiddordeb arall ar yr un adeg.
Roedd Gethin a finnau yn arfer trefnu bysiau i fynd i ddawnsfeydd Edward H Dafis ac roedd yn brofiad gwych yn y cyfnod yma gweld llond bws ac unwaith llond dwy fws fawr o Gwm Gwendraeth yn teithio i Langadog neu Flaendyffryn i ddawns Gymraeg. Profiad bendigedig arall wnaeth y cyfnod yma mor arbennig.
Mi gefais i hefyd gyfle i ymddangos yn nramau yr ysgol gyda Hugh Morgan ac fe arweiniodd hyn at fy mhenderfyniad i astudio Drama yn y coleg ac mae'r dylanwad i'r cyfeiriad yna yn gwbl amlwg i bawb erbyn hyn. Y cyfan efallai wedi dechrau yn ystod fy nghyfnod euraid.
Tu allan i'r ysgol yn yr un cyfnod, heblaw am y gweithgaredd trwy'r capel a'r côr, fy niddordeb mawr wrth gwrs oedd ffermio ac fe dreuliais oriau o bob gwyliau ar fferm y Wern. Fe ddysgais cymaint gan Howard wrth ei ddilyn oddi amgylch ac fe gefais i, fel Stephen hefyd, bleser aruthrol ar ben tractor yn gweithio ar amrywiol ffermydd gan fod Howard yn contractio. Yn anffodus doedd dim cyfle i mi fynd i fyd amaeth er y bum yn dwys ystyried, ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn Aberystwyth, newid i fynd i astudio amaeth yn y Coleg Amaethyddol. Fe fu Rhodri yn helpu yn y Wern pan oedd ef tua'r un oed ac mae hynny wedi ei arwain ef i'r byd amaethyddol ar ei ben.
O ddarllen yr uchod efallai y byddwch yn sylweddoli, gobeithio, pam fod y cyfnod yn un euraid i mi a'r dylanwad gafodd y cyfnod ar weddill fy mywyd. Efallai bydd rhai sydd yn yr un cyfnod yn eu bywyd hwy yn darllen hwn a peidiwch a synnu na fydd yr hyn yr ydych chi'n fwynhau, er bod y dyddiau yma yn anodd, yn cael effaith ar weddill eich bywyd.
Roedd gweithgarwch yr eglwys yng Nghapel Seion yn ddylanwad pwysig ond doedd e byth yn llesteirio fi mewn unrhyw fodd. Er ei fod yn gyfnod llawn mwynhad roedd angen angor arna i fel pob person ifanc arall a'r adnod yma o lyfr y Pregethwr sy'n dod i'm meddwl -
"Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd."
Mae'r mwynhad yn bwysig ond mae'r sylfaen yn bwysicach ac fe bery dylanwad hwnnw hyd y bedd.
Fyddwn i'n hoffi ail fyw y cyfnod yna? Byddwn, ac yn union yn yr un modd. Clwb Ieuenctid yn Hebron nos Wener, chwarae rygbi yn y Gwendraeth fore Sadwrn, lawr i'r Strade yn y pnawn a bws i Langadog i weld Edward H yn y nos; cwrdd ag Ysgol Sul dydd Sul a dychwelyd i'r ysgol dydd Llun at ffrindiau da. Ond, freuddwydiwr, ddaw ddoe byth yn ôl - i neb!