Wyt ti’n credu?
Rhan 1
“Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni” Rhuf 12:5/6
Mae sawl un wedi gofyn beth yw ystyr bod yn aelod eglwysig? Fe glywch chi lawer yn ateb fel hyn, ‘O un sy’n byw’n dda iawn ac yn gwneud cymwynasau’ neu ‘Os yw’n byw reit dda nid yw fawr o wahaniaeth beth mae e’n gredu.’
Pethau fel yna glywn ni gan bobl yn aml. Ond y gwir yw ei bod yn bwysig iawn beth ydym yn ei gredu fel y ceisiais ddangos mewn myfyrdod diweddar.
Y gwir yw fod credu yn dod o flaen byw, mae’r credu yn dod o flaen y gwneud.
Meddyliwch am funud eich bod eisiau croesi o un ochr i afon i’r ochr arall; draw o’ch blaen mae pont fechan ac yr ydych am gerdded drosodd arni ond yn gyntaf rhaid i chi GREDU y gall y bont eich cynnal.CREDU yn gyntaf, yna gwneud; mae credu yn dod o flaen gwneud bob tro.
Mae yna fwy nag un ffordd o gredu – dyma ddau fath.
1. Pan ddywed y gwyddonydd wrthym fod yr haul 93 miliwn o filltiroedd oddi wrthym yr ydym yn barod iawn i dderbyn ei air ac i GREDU tystiolaeth rhywun arall. Ond a fyddech yn fodlon marw dros y GRED yma? Dw i ddim yn meddwl y byddech oherwydd efallai daw ryw wyddonydd cyn hir a mwy o wybodaeth ganddo a’r wybodaeth honno yn gwrth brofi yr hyn fuom yn GREDU unwaith!
2. Pe baech wedi bod yn wael iawn a phawb wedi anobeithio y byddech yn gwella ac yna i ryw feddyg ddod a’ch gwella yn llwyr, rwy’n siwr y byddech yn meddwl y byd o’r meddyg hwnnw. Beth pe clywech mewn ychydig, rai yn dweud pethau gwael amdano ac yn dweud mai meddyg gwael oedd e? Beth wnaech chi wrth glywed hyn?
Nid newid eich meddwl am y meddyg yn nage? Yr hyn a wnaech fyddai galw’r bobl hynny yn ffyliaid oherwydd yr ydych yn gwybod ei fod yn feddyg da. Yr ydych yn credu hynny, nid am fod rhywun arall wedi dweud wrthych ond am iddo eich gwella chi – fe wyddoch drwy brofiad.
Dyna ddwy fordd o gredu. Fe all y ffordd gyntaf fethu ond ni all neb eich cael i wadu’r llall – credu rhywbeth y cawsoch brofiad ohono.
Y mae’r ddau fath yma o gredu yn perthyn i’r Eglwys. Mae yna rai pethau na allwch fod yn gwbl sicr ohonynt ac oherwydd hynny mae pobl wedi dadlau amdanynt ac yn wir wedi ymrannu o’u plegid – yn garfannau neu enwadau. Pethau fel Bedydd Plant, Esgobyddiaeth ac yn y blaen.
Ond y mae un peth sy’n gyffredin i bob gwir aelod o Eglwys Iesu Grist. Maent yn CREDU am iddynt, fel chwithau gyda’r meddyg ei brofi ei hunan.
Beth yw hynny te?