Wyt ti’n credu?
Ond y mae un peth sy’n gyffredin i bob gwir aelod o Eglwys Iesu Grist. Maent yn CREDU am iddynt, fel chwithau gyda’r meddyg ei brofi ei hunan.
Beth yw hynny te?
Rhaid mynd yn ôl i hanes y Cristnogion cyntaf. Nid peth hawdd oedd bod yn Gristion bryd hynny, roedd eich bywyd mewn perygl. Cesar a Rhufain oedd yn llywodraethu’r byd a phob gwlad i blygu i’w ewyllys ef. Ond gwrthodai’r Cristnogion ufuddhau i Cesar ym mhob peth. Ni allent hwy addoli Cesar na phlygu i eilunod paganaidd.
Cawsant eu herlid am gyfnod hir gan eu gorfodi i fynd yn gymdeithas gudd bron. Gan ei bod mor beryglus i neb gyffesu’n agored ei fod yn Gristion mabwysiadwyd arwydd ganddynt i roi ar ddeall i’w gilydd pwy oeddynt. Byddai dau yn cyfarfod ac un yn tynnu llun pysgodyn yn y llwch ar y llawr i ddynodi ei fod yn Gristion. Os byddai’r llall yn adnabod yr arwydd gwyddai ei fod yn Gristion. Llun syml oedd e –
Ond roedd ystyr arall iddo hefyd – roedd yn dangos cred y bobol hyn. Yr enw ar y llun yma oedd “ichthus”.
I am Iesous (Iesu), Ch am Christos (Crist), Th am Theos(Duw), U am Uios(Mab) ac S am Soter(Iachawdwr).
Dyna’u credo – Iesu Grist, mab Duw, Iachawdwr. Dyna’r gred, a gwell ganddynt farw, fel y gwnaeth llawer, na gwadu hyn. Y bobl sy’n medru dweud hyn o’u calon heddiw yw sail Eglwys Iesu Grist. Gwir aelod eglwysig yw un sy’n credu yn Iesu Grist, Mab Duw, Iachawdwr y Byd. Dyna fel yr oedd hi yn hanes y Cristnogion cyntaf a dyna fel y mae o hyd.
“Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn:
ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais”