Y dechrau a’r diwedd.

larisa-birta-IvTQAJ9pTL8-unsplash.jpg

Mi ddarllenais hanesyn gan Kate Bottley, ficer yn Lloegr, yn ddiweddar ac roedd yn taro tant gyda fi. Roedd yn sôn am eni a marw ac mae cymaint wedi cymryd lle yn ystod y pandemig, cymaint o angladdau lle nad oedd modd mynychu a chymaint o enedigaethau lle nad oedd modd i'r teulu ymweld. Ond ddylai neb boeni'n ormodol am ddechrau a diwedd ein bywyd - gadewch i Kate Bottley esbonio -

Rydw i'n ymweld â'r ysbyty mor aml dw i'n teimlo weithiau y dylwn gael cerdyn teyrngarwch (loyalty card) i'r maes parcio! Wythnos diwethaf mi fum yn ymweld â Maureen, un o hoelion wyth bywyd y pentref am y saith degawd diwethaf, yn weithiwr brwd yn yr eglwys yn ogystal a bod yn ffrind.

Yn drist iawn roedd Maureen yn ymwybodol fod ei thaith yn tynnu tua'i therfyn - "coming in to land" oedd ei hymadrodd hi. O ganlyniad roedd yn awyddus i gael sgwrs gyda mi.

Wrth i  mi gerdded mewn i'r lifft yn yr ysbyty mi glywais lais yn gweiddi 'Reverend Kate'. Gan droi i gyfeiriad y llais mi adnabyddais ddyn ifanc yr oeddwn wedi gwasanaethu yn ei briodas ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl.

"Merch fach yw hi" gwaeddodd "Dewch i gwrdda hi."

A wir, roedd Lucy fach werth ei gweld, dim ond yn un awr oed ac yn cysgu'n sownd ym mreichiau ei mam flinedig ond hapus.

Gofynnodd y tad newydd "Fyddech chi'n fodlon ei bendithio hi?"

Doedd dim gwlyb  gerllaw heblaw potel o Brosecco ac mi ddefnyddiais ddiferyn i lunio croes ar dalcen y fechan, a chymeryd dracht sydyn fy hunan!

 

MAUREEN

Yna euthum i fyny i ward Maureen. Eisteddais am ychydig yn darllen y Salmau iddi, fe weddiom ac mi ges i row ganddi am droi'r teledu lawr! Yna mi fendithiais hi gydag arwydd y groes, yn union fel yr oeddwn wedi wneud gyda Lucy fach cyn ffarwelio. Bywyd wedi ei fyw yn llawn gafodd Maureen.

Mae'n gwbl naturiol i chi feddwl mai dim ond un o'r gwelyau yr ymwelais â nhw oedd yn le llawen - ond na. Roedd tad a mam Lucy fach wedi cynhyrfu'n lan i'w chroesawu wrth iddyn nhw symud i'r cyfnod cyffrous nesaf yn eu bywydau ond mewn ffordd ryfedd, roedd hyn yn wir am Maureen hefyd.

Fel y mynegodd Maureen - "Rydw i'n caru'r Iesu ac mi fyddwn wrth fy modd yn cael mynd i'w gyfarfod, os nad oes wahaniaeth gyda chi."

Mi gafwyd angladd barchus a llawen i Maureen ac mi adroddais straeon am ei bywyd ac mewn blynyddoedd i ddod rwy'n edrych ymlaen i glywed straeon am fywyd Lucy fach. Oherwydd, chi'n gweld, nid sut y cawsom ein geni neu sut y gwnaethom farw sy'n bwysig. Yr hyn sy'n ein diffinio yw'r darn yn y canol ac ystyried sut i wneud y mwyaf o'r amser rhwng y ddau ddigwyddiad.

Ffarwel Maureen a chroeso Lucy, rwy'n gwybod bod anturiaethau mawr o flaen y ddwy ohonoch.

 

YMATEB

Mae geni a marw yn dod i ran pob yr un ohonom, mewn sawl modd, ond yr un yw'r canlyniad yn y pen draw. Yr hyn sydd yn amrywio wrth gwrs yw'r defnydd a wnawn o'r amser rhwng y ddau achlysur yma. 

Pan fo dyn yn tynnu tuag at ddiwedd ei oes mae yna duedd i edrych yn ôl ac ymateb i'r modd y bu i ni dreulio'r amser yma - chwerthin wrth gofio achlysuron hapus a throeon trwstan, colli deigryn wrth gofio colledion ac adegau trist, difaru wrth gofio camau gwag. Mae rhy hwyr i newid dim ar yr adegau hynny wrth gwrs ond mae'n bwysig adlewyrchu a siarad gyda Duw am rai o'r pethau yna efallai.

Ond beth am y cychwyn, y geni, pan fo'r amser yma o'n blaenau? Mae'r hyn all ddatblygu yn yr amser sydd i ddod yn dibynnu llawer ar ddylanwadau ifanc ac arweiniad cadarn, arwyddion o gariad tyner ac aelwyd heddychlon. 

Mae cymaint o gynghorion buddiol i rieni ac i'r gweddill ohonom yn y Beibl - 

Hebreaid 3:13

Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.

Eseia 1:17

Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.

Philipiaid 2 : 3

Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.

Mi allwn ychwanegu nifer ymhellach ond mae un peth yn gyffredin i ni ar y ddau achlysur uchod - paratoi. Rhaid paratoi i wneud y defnydd gorau o'n bywyd a rhaid paratoi ar gyfer y byd nesaf.

1 Corinthiaid 3 : 10-11

Rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.

Cofiwch nad dyletswydd rhieni yn unig yw dylanwadu'n adeiladol ar fywyd plentyn. Rydym yn gwneud addewid yn y gwasanaeth bedydd i helpu'r rhieni i fagu eu plentyn yn Gristnogol.

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Eglwys ôl-Cofid

Next
Next

Maddeuant