Maddeuant
Darlun Rembrandt o "The Return of the Prodigal Son" sef "Dychweliad y Mab Afradlon".
Mae yna hanes am ddyn oedd a'i fywyd wedi chwalu'n deilchion. Roedd wedi gwneud nifer o benderfyniadau byrbwyll ac annoeth a hyn yn ei dro wedi arwain at golli ei wraig a'i blant gan ei adael yn ynysig ac yn unig.
Doedd ganddo ddim gwaith ac roedd yn dioddef o iselder dybryd oherwydd ei ymddygiad a'i benderfyniadau ei hunan. Roedd yn methu maddau iddo fe'i hunan am ei ffolineb.
Yn y pen draw, wedi iddo fynd i'r wal bron, mi benderfynodd alw yn nhy y gweinidog i ofyn am gymorth a chyngor. Aeth gwraig y gweinidog ag ef mewn i'r ty ac i stydi'r gweinidog. Cyn hir ymddangosodd y gweinidog a holi sut y gallai helpu.
Mi arllwysodd y dyn ei gwd ac adrodd yr hanes trist, digalon gan gyflwyno ei euogrwydd a'i anobaith llwyr. Wedi gwrando arno am sbel mi awgrymodd y gweinidog ei fod yn eistedd am ychydig ac astudio ei gopi o lun enwog Rembrandt - "The Return of the Prodigal Son". Llun yw hwn sydd yn cyfeirio at ddameg yr Iesu am y mab afradlon yn cyrraedd gartref ac yn cael ei groesawu gan ei dad.
Y DWYLO
Dros yr awr nesaf fe eisteddodd y dyn yn syllu ar ddarlun yr artist mawr o'r Iseldiroedd. Yng nghanol y llun mae dwylo'r tad yn cofleidio'r mab a aeth i grwydro ond a ddifarodd a dychwelyd. Ond os edrychwch chi ar y darlun, fe welwch fod y ddwy law wedi eu peintio yn hollol wahanol.
Mae llaw chwith y tad yn gryf a chyhyrog, mae'n dal y mab yn gadarn ac nid yw am adael fynd. Ond mae llaw dde y tad yn wahanol - mae'r llaw honno yn dal ysgwydd y mab yn dyner ac yn addfwyn, llaw mam yw hon. Yn nwy law y tad - un yn wrywaidd a'r llall yn fenywaidd mae trugaredd yn dod yn realiti ac mae yna faddeuant, adferiad a gwellhad i'w weld.
Fe gyfaddefodd y dyn fod ei lygaid wedi eu hagor ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd roedd presenoldeb maddeugar, tyner y Duw sy'n gwella, yn amlwg iddo ac yn golygu rhywbeth.
Mi gafodd heddwch am y tro cyntaf ers oesoedd, roedd yn teimlo fod Duw wedi maddau iddo ac roedd yn gallu maddau iddo ef ei hunan. Mi lifodd y dagrau ond dagrau o ryddhad oeddynt ac roedd yntau, fel y mab afradlon, wedi profi maddeuant ac roedd ei gymeriad yntau yn "dod adref" fel petae.
MADDAU
Yn Nameg y Mab Afradlon, mae'r tad yn maddau i'w fab pan mae'n dychwelyd, ac yn ei groesawu gartref. Yn yr un modd, mae Duw yn disgwyl i fodau dynol sylweddoli yr hyn maen nhw wedi ei wneud yn anghywir a gofyn am faddeuant, ac yn eu croesawu'n ôl pan maen nhw'n gwneud hyn. Y bodlonrwydd hwn i ofyn am faddeuant ac i newid ymddygiad sy'n ganolog i'r cysyniad o faddeuant.
Yn yr un modd ag y mae Duw yn maddau i fodau dynol, felly hefyd dylai bodau dynol faddau i bobl eraill. Os yw pobl yn methu maddau i eraill, does dim disgwyl i Dduw faddau iddyn nhw.
"Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi."
Mathew 6:14-15
Mae'r un ddysgeidiaeth i'w gweld yng Ngweddi'r Arglwydd -
"A maddau i ni ein dyledion. Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr."
Mae maddau eraill pan maen nhw wedi achosi poen neu niwed yn beth anodd, ond yn yr efengylau mae Iesu yn gosod esiampl. Maddeuodd Iesu i'r rheiny wnaeth ei groeshoelio, Ac meddai Iesu,
“O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.”
(Luc 23:34).
Mae'r weithred hon o faddeuant yn dangos bod modd maddau unrhyw weithred.
Fe lwyddodd y gwr yn ein hanes i faddau i'w hunan am ei gamgymeriadau a newid ei ffordd. Ar adegau mae angen i ninnau wneud hyn hefyd.
GWEDDI
Cyffeswn ein gwendidau a’n ffaeleddau ger dy fron, yn ein perthynas â thi ac yn ein perthynas â’n gilydd. Deisyfwn dy faddeuant am bob peth negyddol yn ein bywydau, sy’n aml yn arwyddion o’n gwendidau a’n hanallu.
Gofynnwn ar i ti, yn dy faddeuant, gofio’r byd. Gweddïwn ar i ti ein cymell a’n harwain i ymarfer maddeuant yn ein perthynas â’n gilydd yng nghyd-destun ein bywyd fel pobl, fel eglwysi ac fel cymdeithas. Y weithred yma sy’n gyfrwng i adeiladu perthnasau gan roi bod i ymddiriedaeth a goddefgarwch, fel ein bod ni’n arwydd, a’n gweithredoedd yn dangos ôl y maddeuant mwyaf a welodd y byd hwn, sef ym mherson dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.