Dychwelid i’r Capel, y Festri a Hebron.
Gobeithiwn agor y capel i addoli ar ddydd Sul 23ain o Fai, sef y Sulgwyn.
Bydd yr adeiladau wedi’u glanhau yn barod ar gyfer eich ymweliad.
Rydym wedi eich paratoi’r darn isod er mwyn i chi ddychwelid yn ddiogel i adeiladau’r eglwys unwaith eto. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn cymryd amser i ddarllen y cynnwys a gofyn cwestiynau a oes rhywbeth yn dywyll gennych.
Adennill y Drefn Arferol.
Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar dudalen Cofid-19 am wybodaeth bellach am ddychwelid i adeiladau’r eglwys.
Dychwelid i’r capel.
Bydd y capel yn agor a’r oedfa yn dechrau am 10.30yb fel arfer. Pan ddowch atom gallwch barcio’r car yn y maes parcio neu ar ochr yr heol fawr. Gwisgwch fasg ac wrth ddod i mewn cadwch at reolau ymbellhau.
Wrth gyrraedd y cyntedd fe gewch eich croesawi a’ch annog i wisgo masg os nad oes un gennych, i ymbellhau ac i lanhau eich dwylo â diheintydd. Fe fyd y swyddog yn nodi eich henw a’ch rhif ffôn a phrofi eich tymheredd ac yn gofyn i chi os ydych yn teimlo unrhyw symptomau o’r clefyd Cofid-19. Yna bydd yn holi os ydych os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun a Chofid -19 neu wedi cael prawf Cofid-19 yn y bythefnos ddiwethaf.
O ganlyniad i atebion cadarnhaol fe gewch fynediad i’r capel a’ch tywys unffordd i eistedd yn y seddau sydd wedi eu neilltuo ac wedi’u hymbellhau yn ôl y rheolau. Cofiwch mai’n dra phosibl na fyddwch yn eistedd yn eich sedd arferol. Cofiwch barhau i wisgo masg a pheidio cyffwrdd a’r seddau os na fydd angen.
Trefn yr oedfa.
Fe fydd trefn yr oedfa fel sy’n arferol i ni ond ni fyddwn yn canu, yn hytrach bydd modd i fyfyrio i sain yr organ yn unig.
Byddwn yn derbyn cyfraniadau yn y casgliad yn y ffordd arferol ond mae’r cyfnod yma yn gyfle i chi ystyried cyfrannu trwy ddebyd uniongyrchol os oes modd gennych i wneud hyn. Cewch y ffurflenni gan eich arweinydd dosbarth.
Bydd Gwyn yn mynd i’r pulpud am 10.30yb, wedi’r gynulleidfa ymgynnull ac eistedd ac yn gadael gyntaf heb y gymrodoriaeth arferol yn y cyntedd. Bydd yr aelodau yn dilyn drwy system un ffordd ar ei ôl lle bydd y cyntaf i mewn bydd hefyd y cyntaf i fynd allan. Bydd pob aelod yn cael ei annog i lanhau ei dwylo ar y ffordd allan a gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn syth i’r car neu adref a pheidio ag ymgynnull tu allan gan dyma’r lle mae’r risg fwyaf i chi gael eich heintio.
Ni fydd yr Ysgol Sul yn ail ddechrau ar hyn o bryd ond fe fyddwn yn eich hysbysu o unrhyw newid i hyn.
Er byddwn ar agor i oedfaon, ni fydd angen i chi ymuno os nad ydych yn barod eto i wneud hynny. Bydd Gwyn yn paratoi'r un myfyrdod ag y mae’n traethu o’r pulpud ar gyfer ein myfyrdodau ar YouTube.
Y Capel.
1. Peidiwch â dod i’r Capel, y festri neu Hebron os ydych:
yn dioddef o symptomau tebyg i’r ffliw neu yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
yn dioddef o Chovid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
wedi bod mewn cysylltiad â Covid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
wedi cael eich cynghori i hunan-ynysu.
Bydd swyddog wrth y drws yn eich holi ac yn eich atal rhag mynychu’r safle os ydych yn cadarnhau’r uchod.
2. Gwisgwch fwgwd ar eich ffordd i’r adeilad, cadwch dwy fedr oddi wrth bob un arall a defnyddiwch y glanweithydd wrth y drws cyn mynd i mewn
3. Cewch eich tywys unffordd i sedd bydd yn rhydd ac wedi ei ynysu oddi wrth y lleill. Mae’n dra phosibl nad eich sedd arferol bydd hon.
4. Wedi’r oedfa byddwch yn gadael yr adeilad trwy ddilyn trywydd un ffordd a glanhewch eich dwylo â glanweithydd cyn gadael.
5. Ewch yn syth i’r maes parcio gan wisgo mwgwd. Peidiwch â sefyll i gymdeithasu er mor anodd bydd hyn i nifer.