Ceisiwch.

Dy chi byth yn gwybod eich potensial llawn nes i chi geisio.

Mae adegau mewn bywyd pan fyddwn yn darganfod ein bod yn gallu gwneud llawer mwy nag yr oeddem erioed wedi'i ddychmygu. Yn aml iawn rydym yn byw o fewn ffiniau'r hyn sy'n gyfforddus ac yn gyfarwydd. Rydym yn osgoi mentro, yn petruso cyn gwirfoddoli, yn amau ein gallu ein hunain, ac yn meddwl bod eraill yn fwy dawnus na ni.

Ond weithiau mae bywyd yn ein gwthio y tu hwnt i'r ffiniau hynny.

Dysgodd ffermwr ifanc o Ddyffryn Tywi wers ryfeddol un diwrnod.

Deuddydd yn dilyn glaw trwm a llifogydd mawr roedd yr Afon Tywi wedi gorlifo, yn wyllt ac yn chwyrn. Wrth gyfrif ei ddiadell sylweddolodd fod un ddafad ar goll.

Ar ôl chwilio am beth amser, clywodd frefi gwan o rhywle. Edrychodd dros ymyl glan serth yr afon a gwelodd y ddafad yn sownd ar silff fechan o laswellt, ychydig droedfeddi yn unig uwchben y dŵr gwyllt.

Roedd y ddafad wedi pori pob tamaid o laswellt ar y darn bach hwnnw o dir. Y tu ôl iddi roedd y llethr serth. O'i blaen roedd dyfroedd gwyllt yr afon yn rhuthro heibio. Roedd wedi'i dal, yn ofnus ac yn methu symud.

Penderfynodd y ffermwr ei hachub.

Aeth i mewn i'r afon ac ymlwybro drwy'r dŵr oedd hyd at ei ganol. Roedd y cerrynt yn gryf ac roedd pob cam yn gofyn am ddewrder a dyfalbarhad. O'r diwedd llwyddodd i gyrraedd y silff lle safai'r ddafad.

Ond cyn iddo estyn ei llaw i'w hachub, digwyddodd rhywbeth annisgwyl.

Mewn panig, neidiodd y ddafad yn syth i'r afon.

Am eiliad fer, ni allai'r ffermwr wneud dim ond gwylio wrth i'r ddafad ddiflannu o dan y dŵr.

Yna digwyddodd rhywbeth rhyfeddol.

Daeth ei phen i'r wyneb.

Yn reddfol dechreuodd nofio.

Gyda chymorth y cerrynt a'i hymdrech ei hun, nofiodd yn gryf ar draws yr afon nes cyrraedd glan dywodlyd yr ochr arall. Cododd i'r tir, ysgydwodd y dŵr oddi ar ei gwlân, ac yna cerddodd yn dawel yn ôl at weddill y ddiadell.

Croesodd y ffermwr yr afon ychydig ar ei hôl, yn llawn diolch. Nid yn unig am fod y ddafad wedi goroesi, ond am iddo weld rhywbeth mor anhygoel.

Roedd gan y ddafad y gallu i nofio drwy'r amser.

Doedd hi ddim yn gwybod hynny nes nad oedd ganddi ddewis ond ei ddefnyddio a mentro i’r dŵr.

Onid felly ydym ninnau'n aml?

Rydym yn dweud wrthym ein hunain na allem byth arwain, siarad o flaen eraill, maddau, gwirfoddoli, gwasanaethu nac wynebu heriau. Ond pan fydd Duw yn ein galw i gymryd cam o ffydd, rydym yn aml yn darganfod cryfderau na wyddem erioed oedd gennym.

Mae'r Beibl yn llawn pobl gyffredin a ddarganfu eu potensial dim ond ar ôl ymddiried yn Nuw.

Credai Moses nad oedd yn gallu siarad, ond daeth yn arweinydd cenedl.

Ystyriai Gideon ei hun yn wan ac yn ddi-nod, ond galwodd Duw ef yn "ŵr cadarn a dewr."

A chamodd Pedr allan o'r cwch oherwydd i Iesu ei wahodd. Tra oedd ei lygaid ar Iesu, cerddodd ar wyneb y dŵr—rhywbeth na fyddai byth wedi'i gredu oedd yn bosibl pe bai wedi aros yn y cwch.

Dywedodd Iesu:

"Gyda dyn y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl."(Mathew 19:26)

Drwy gydol Ei weinidogaeth, galwodd Iesu bobl gyffredin—pysgotwyr, casglwyr trethi, gweithwyr a rhieni—i fywydau anghyffredin drwy ffydd. Gwyddai nad mewn lleoedd cyfforddus y daw ein twf mwyaf, ond pan fyddwn yn mentro ymddiried ynddo.

Efallai fod Duw yn eich galw heddiw.

Sgwrs yr ydych wedi bod yn ei hosgoi.

Gwasanaeth yr ydych wedi bod yn petruso ymuno ag ef.

Cymydog sydd angen eich help.

Gweddi yr ydych wedi bod ofn ei gweddïo.

Neu ddechrau newydd yr ydych wedi argyhoeddi eich hun nad yw'n bosibl.

Fel y ddafad honno ar ymyl yr afon, rydym yn aml yn edrych ar y perygl yn hytrach nag ar y posibilrwydd.

Weithiau dim ond pan fyddwn yn mentro mewn ffydd y byddwn yn darganfod yr hyn y mae Duw eisoes wedi'i osod o'n mewn.

Efallai y cewch eich synnu gan ba mor bell y gallwch "nofio" gyda'i gymorth.

Felly, peidiwch â gadael i ofn benderfynu eich dyfodol.

Nid ydych byth yn gwybod eich potensial llawn nes i chi ymddiried yn Nuw ddigon i roi cynnig arni.

Next
Next

Cylchoedd