Duw y Cysgodion.

Pan Ddewisodd Duw y Cysgodion.

https://youtu.be/LVWoWS_3kZM?si=Q2YZe_TMynvj9jTy

Rydym wedi arfer â golygfeydd Nadolig sydd wedi’u caboli gan amser a thraddodiad. Golau llusernau cynnes, gwellt taclus, gwên dyner, a’r teimlad bod popeth rywsut o dan reolaeth. Ond mae’r ddelwedd hon yn ein tynnu i mewn i wirionedd llawer mwy bregus. Mae Mair a Joseff yn penlinio’n agos at ei gilydd mewn stabl dywyll a chaled. Does dim mawredd, dim pellter rhwng y nef a daear—dim ond anadl anifeiliaid, gwellt, dwylo blinedig, a baban newydd-anedig sy’n gwbl ddibynnol arnynt.

Nid eiliad addurnol mohoni; roedd yn  foment fregus.

Dyw wyneb Mair ddim yn wyneb delfrydol. Mae’n wyliadwrus, yn holi, efallai’n llethu gan y cyfan. Mae Joseff yn plygu ymlaen, yn amddiffynnol ac ansicr. Mae’r stabl yn cau o’u cwmpas. Mae’r tywyllwch yn dominyddu, fel pe bai’n ein hatgoffa nad mewn diogelwch na sicrwydd y digwyddodd y geni Iesu.. Daeth Duw ddim i stabl cysurus, ni chafodd unrhyw gymeradwyaeth na pharatoad. Daeth yn dawel, yn anghyfleus efallai ac mewn tlodi.

Dyma lle mae’r gân “Mair, a Wyddet Ti?” yn gofyn cwestiynau yn dyner a phenderfynol. A wyddet ti y byddai’r plentyn hwn un diwrnod yn cerdded ar y dŵr? Y byddai’n tawelu stormydd, yn iacháu’r clwyfedig, ac yn agor llygaid y deillion? Ond pan osodwn y geiriau hynny wrth ymyl y ddelwedd, daw’r cwestiwn yn ddyfnach ac yn fwy personol.

A wyddet ti… pan oedd dy ddwylo’n crynu gan flinder?

A wyddet ti… pan oedd arogl yr anifeiliaid a’r ofn yn y stabl?

A wyddet ti… pan nad oedd cynllun y tu hwnt i oroesi?

Nid diwinyddiaeth a ddaliodd Mair yn ei dwylaw. Fe ddaliodd Iesu’r baban.

Grym y ddelwedd y gwelwn yn y darlun yw ei chyffredinedd. Fe wnaeth Duw ddim osgoi bregusrwydd dynol; fe’i cofleidiodd yn llawn. Nid yw’r baban Iesu yn disgleirio â sicrwydd. Mae’n fach, yn dawel, ac yn anghenus. Mae’r Un y gwnaed pob peth drwyddo bellach yn dibynnu ar freichiau Mair a dewrder Joseff. Dyma wrthdroad mawr yr efengyl: cryfder wedi’i guddio mewn gwendid, gogoniant wedi’i lapio mewn gostyngeiddrwydd.

Mair, a Wyddet ti?

Mae geiriau’r gân yn symud yn gyflym o dynerwch i ryfeddod, o hwiangerdd i broffwydoliaeth. Mae’n ein hatgoffa, cyn gwyrthiau, cyn addysgu, cyn y groes a’r atgyfodiad, fod noson fel hon—yn noson dda, yn noson ofnus, noson llawn gobaith, ac heb atebion. Doedd Mair ddim eto’n gwybod y stori llawn. Yr hyn a wyddai oedd ffyddlondeb yn y foment.

Ac efallai mai dyna’r gwahoddiad i ni.

Nid yw’r Nadolig yn gofyn inni ddeall popeth. Mae’n ein gwahodd i benlinio yn y cysgodion a ymddiried fod Duw yn bresennol yno. Yn ein stablau ein hunain—llefydd o lanast, ansicrwydd, blinder, a chwestiynau heb ateb—ganed Crist eto. Nid fel addurn, ond fel cydymaith.

Pan glywn “Mair, a Wyddet Ti?” eleni, gadewch inni ei glywed nid fel her i wybodaeth, ond fel cadarnhad o ymddiriedaeth. Nid oedd Mair yn gwybod popeth—ond arhosodd. Gwrandawodd. Carodd. A hynny oedd yn ddigon i Dduw newid y byd.

Yng ngolau gwan y stabl, cyffyrddodd y nef â’r ddaear—ac mae’n dal i wneud hynny heddiw.

Previous
Previous

Y Traddodiadau.

Next
Next

Cartref i’r Galon.