Y Traddodiadau.


Mwy na thraddodiadau.

Fel rhan o’r gwasanaeth ar Rhagfyr 21ain rydym yn mynd i edrych ar rhai o arferion y Nadolig.


Canu Carolau :

Pam i ni yn canu carolau bob nadolig ? Mae canu carolau yn arferiad i ni yn cysylltu gyda’r  Nadolig. Am wythnosau cyn y Nadolig byddwn yn canu carolau. Mae’n arferiad i bob gwlad a bob iaith. Caneuon llawen ydyn nhw yn adrodd hanes genu Iesu Grist a byddant yn cael eu canu mewn oedfaon ac mewn cyngherddau adeg y Nadolig.

Mynachod a ddachreuodd yr arferiad yn 1224 trwy ganu caneuon a luniwyd gan Ffransis o Assisi. Caneuon yn sôn am ryfeddod y Geni ym Methlehem oedd y rhain.

Y dydiau hyn  bydd criw o oedolion a phlant yn mynd o gwmpas tai yn canu ac yn casglu i achosion da

Mae math arbennig o ganu carolau sydd yn unigryw i Gymru – nid oes dim byd tebyg yn unman arall yn y byd, sef canu plygain. Arferwyd cynnal plygain ar doriad gwawr ond erbyn hyn mae’n cael ei gynnal yn y nos fel arfer. Mewn plygain bydd croeso i unrhyw un i ddod lan i ganu carol. Fel arfer bydd dau neu dri o’r un teulu neu dau neu dri ffrind yn dod lan i ganu carol. Ar ol i bawb ganu unwaith bydd pawb yn dod lan yr ail waith yn yr un drefn i ganu carol arall. Fel arfer bydd pawb wedyn yn mwynhau swper gyda’i gilydd cyn mynd adref.

 

Y Goeden Nadolig :

Mae hanes rhyfeddol i’r goeden nadolig ac ychydig sydd yn ei gwybod. Roedd yr hen Geltiaid yn arfer addoli y dderwen a’u harweinwyr ysbrydol oedd y derwyddion. Ar  noswyl Nadolig yn y flwyddyn 720 daeth Sant Boniface ar draws addolwyr  paganaidd oedd yn mynd i aberthu bachgen ifanc i’r goeden fel rhan o’u seremoni crefyddol.

Rhuthrodd y Sant i’w canol a’u rhwystro a llwyddodd i berswadio nhw fod bywyd un bachgen yn llawer mwy pwysig na bywyd coeden. Torrodd y dderwen i’r llawr.

Dywedodd wrth y paganiaid – “Hon o hyn ymlaen fydd coeden y baban Iesu.”

Am ganrifoedd wedyn bu’r Almaenwyr yn cyfrif y ffynidwydden fel coeden Nadolig gan blannu hi yng ngherddi ei tai.

Ond sut ddaeth y goeden i fod tu fewn ein tai ? Noswyl Nadolig 1530 roedd Martin Luther yn adrodd hanes y geni i’w blant ac yn sôn am y sêr i gyd yn yr awyr. Yna aeth mas i’r ardd, torri coeden Nadolig, dod a hi i’r tŷ a rhoi canhwyllau arni a dweud – felna roedd y sêr yn Bethlehem pan anwyd Iesu.

Ar ol hyn tyfodd yr arferiad yn yr Almaen o dorri coeden Nadolig, a dod a hi i’r tŷ a rhoi canhwyllau arni.

Yn 1841 daeth Albert, gwr y frenhines Victoria a’r arferiad i Brydain.

Yn 1878 darganfyddodd Joseph Swann y bylb trydanol a rhoddwyd golau trydan ar y goeden yn lle canhwyllau ac roedd hyn yn llawer mwy diogel.

Mae coeden Nadolig enwog 70 troedfedd ar Sgwar Trafalgar yn Llundain bob Nadolig. Rhodd gan bobl Oslo yn Norwy yw’r goeden bob blwyddyn i obeithio am heddwch ar draws y byd.


Cardiau Nadolig ;

Faint o gardiau nadolig wnaethoch chi gael eleni ? Odi chi yn gwybod pam i ni yn anfon cardiau amser Nadolig ?

Yn yr hen ddyddiau dim ond bechgyn oedd yn cael mynd i’r ysgol.Bob Nadolig byddai’r athrawon yn gofyn i’r bechgyn ysgrifennu llythyrau byr at ei rhieni. Byddent yn gwneud hyn ar bapur lliwgar gyda addurniadau. Rhain oedd y cardiau Nadolig cyntaf.

Yn 1840 dechreuodd y Post Ceiniog gyda’r stamp cyntaf – y “penny black”. Yn 1843 gofynnodd gŵr o’r enw Henry Cole i arlunydd o’r enw J.C. Horsley gynllunio cerdyn Nadolig iddo. Cynlluniodd hwnnw gerdyn yn dangos teulu Fictorianaidd yn dathlu Nadolig. Argrafodd Henry Cole y garden a’i anfon i’w deulu a’i ffrindiau i ddymuno yn dda iddynt. Hefyd gwerthodd rhai yn y siop lyfrau lleol a dyna ddechrau y garden Nadolig.

Mae nifer o achosion da fel Cymorth Cristnogol ac Oxfam yn gwerthu cardiau Nadolig a cawn gyfle i gefnogi yr achosion da hyn.

Erbyn hyn mae miliynau o gardiau Nadolig ync ael eu hanfon. Bydd rhai yn teithio i Bethlehem ,ger Llangadog, i gael stamp Bethlehem ar y garden Nadolig. Mae anfon a derbyn cardiau Nadolig yn rhan o ysbryd y Nadolig i bawb.

 Sion Corn :

O ble y daeth Sion Corn ? Roedd y Llychlynwyr mil o flynyddoedd yn ôl yn credu bod Odin, un o’r Duwiau, yn marchogaeth ei geffyl wyth coes drwy’r awyr ac yn taflu anrhegion at y rhai oedd yn ffyddlon iddo. Byddai’n gwneud hynny yn ystod gŵyl Yule ynghanol gaeaf a chan mai simnai bob tŷ sy’n agor tua’r awyr, i lawr drwy’r simnau y byddai’r anrhegion yn cyrraedd y teulu.

Yn y pedwaredd ganrif yn Asia Leiaf, ble mae gwlad Twrci heddiw, roedd Esgob o’r enw Sant Nichlas yn byw. Un tro ,cafodd tri plentyn eu lladd gan dafarnwr drwg a’u cadw mewn casgenni finegr. Gweddiodd yr esgob ar Dduw a daeth y plant yn ȏl yn fyw a byth ers hynny mae Sant Nichlas wedi ei gysylltu gyda charedigrwidd at blant.

Yn 1863 gwnaeth arlunydd o’r enw Thomas Nast luniau o Sion Corn a dyma  sail ei syniad ni o Sion Corn. Mae gan y Sion Corn traddodiadol  farf laes, gwallt gwyn, trwyn coch, gwen lydan a rhywbeth yn ei sach. Mae wedi gweithio yn galed ym Mhegwn y Gogledd trwy’r flwyddyn gyda eu gorachod a bydd ef a’r ceirw yn dod ag anghegion i holl blant y byd noson cyn y Nadolig.

Gobeithio y bydd wedi cofio amdano bob un o ni eleni eto !

 

Cinio Nadolig ;

O ble y daeth yr arfer o fwyta cinio mawr Nadolig ac o ble y daeth y twrci ? Mae’n mynd nol i amser y Rhufeiniaid ac roedd y Rhufeiniaid yn cael gŵyl ganol gaeaf a oedd yn parhau am saith diwrnod gan ddechrau ar Rhagfyr 17. Enw yr ŵyl oedd Saturnalia, er clod i Sadwrn, duw tyfiant a chnydau.

Aeth y Rhufeiniaid a’r ŵyl i bob gwlad a goncrwyd ganddynt. Pan ddaeth Cristnogaeth fe mabwysiadwyd llawer o arferion yr ŵyl gan Gristnogion gan gynnwys gwledd fawr.

Roedd yr hen Gymru yn arfer bwyta baedd gwyllt ar ddydd Nadolig ac roedd digon ohonynt yng nghoedwigoedd Cymru. Yn yr Oesoedd canol,alarch neu baun oedd yn cael ei bwyta a daeth yr ŵydd yn ffefryn hefyd.

Yna darganfuwyd America a daethwyd ar draws “aderyn yr Indiaid” sef y twrci.

Cafodd y twrci cyntaf ei fwyta mewn gwledd Nadolig yn 1542 ac yn syth gwelwyd fod tyrcwn yn haws i’w magu na adar eraill. Cyn dim amser roedd pawb yn bwyta twrci ar ddydd Nadolig ac fel hynny y mae o hyd.

 

  Y Pwdin Nadolig :

 Mae pwdin Nadolig yn rhan bwysig o’n traddodiadau dros yr ŵyl. Cychwynnodd y syniad yn yr Oesoedd Canol. Ar y pryd, roedd pobl yn gwneud pryd tew a chynnes o ffrwythau, hadau a chig i’w gadw dros aeaf oer. Roedd y pryd hwn yn helpu pobl i aros yn gynnes ac yn llawn egni.

Dros amser, newidiodd y bwyd hwn. Daeth yn felysach, a dechreuodd pobl ddefnyddio ffrwythau sych, cnau, siwgr a sbeisys fel sinamon. Ychwanegwyd brandi neu rym i gadw’r pwdin yn ffres am amser hir. Erbyn cyfnod y Frenhines Fictoria, roedd y pwdin Nadolig bron yr un fath â’r un rydym yn ei fwyta heddiw.

Roedd gwneud y pwdin yn weithgaredd pleserus i’r teulu cyfan. Roedd pawb yn helpu i droi’r cymysgedd, ac roedd pobl yn gwneud dymuniad bach wrth droi. Weithiau, byddai darn arian bach yn cael ei guddio yn y pwdin. Roedd y person a’i cafodd yn cael ei ystyried yn lwcus iawn.

Heddiw, rydyn ni’n dal i fwyta pwdin Nadolig oherwydd ei flas blasus, ei flas cynnes o sbeisys, a’r traddodiad hir sy’n ein cysylltu â’r gorffennol. Mae y pwdin Nadolig yn gwneud i’r Nadolig deimlo yn arbennig.

 







 

Next
Next

Duw y Cysgodion.