Mwy Nag Aur.
Pan fydd gweithred fach o garedigrwydd yn werth mwy na holl gyfoeth y byd.
Roedd y glaw wedi peidio, ond roedd yr oerfel yn dal yn yr awyr.
Eisteddai Tomos o dan gysgod siop gaeedig, ei gefn yn erbyn y wal frics a'i holl eiddo wedi'u casglu mewn dau fag plastig wedi treulio.
Bu amser pan oedd bywyd yn wahanol. Roedd ganddo waith da, cartref cynnes a theulu oedd yn ei garu. Ond yna daeth heroin i'w fywyd.
Yn araf deg cipiodd y cyffur afael ynddo. Ar y dechrau roedd yn meddwl ei fod mewn rheolaeth. Yna daeth y dibyniaeth. Yna daeth y celwyddau, yr addewidion a dorrodd, y perthnasau a gollwyd a'r ymddiriedaeth a ddiflannodd.
Gadawodd ei wraig. Peidiodd ei blant ag ymweld. Diflannodd ei gyfeillion.
Yn y diwedd collodd bopeth. Yn awr, yn dri deg pum deg oed, roedd yn cysgu lle bynnag y gallai a byw un diwrnod ar y tro.
Roedd y bore hwnnw wedi bod yn arbennig o anodd. Nid oedd wedi bwyta ers y diwrnod blaenorol. Roedd ei ddwylo'n crynu wrth iddo eistedd yn gwylio'r byd yn mynd heibio.
Yna daeth hi. Merch ifanc yn ei hugeiniau, wedi'i gwisgo ar gyfer y gwaith, yn cerdded tua'r safle bws.
Wrth iddi nesáu arafodd ei cham.
"Bore da," meddai'n garedig.
Edrychodd Thomas i fyny mewn syndod. Heb wneud unrhyw ffwdan, rhoddodd fag papur bach yn ei law.
"Fe wnes i baratoi ychydig yn ychwanegol neithiwr," meddai. "Roeddwn yn meddwl y gallai rhywun fod ei angen."
Y tu mewn roedd brechdanau, ffrwythau, potel o ddŵr a bar siocled.
Cyn iddo gael cyfle i ddiolch, roedd hi eisoes yn cerdded i ffwrdd.
"Diolch!" galwodd ar ei hôl. Trodd hi, gwenu a chwifio.
Am amser hir edrychodd ar y bwyd. Yna gweddïodd.
Roedd wedi bod yn amser hir ers iddo weddïo.
"Arglwydd," sibrydodd, "os wyt ti dal yno, diolch."
Ar ôl gorffen bwyta, roedd am ddiolch iddi mewn ffordd arbennig. Ond nid oedd ganddo arian.
Dim anrheg. Dim byd o werth a dim ond geiriau.
Roedd geiriau bob amser wedi bod yn anrheg iddo fel athro.
Gan ddod o hyd i ddarn o gardfwrdd a darn bach o bensil, dechreuodd ysgrifennu.
Death yr awen o rhywle. Ychydig o linellau ar gardbord budr.
Ond roeddent yn dod o'i galon.
A rhywsut ….. roedd hynny'n ddigon.
Diolch ar gardfwrdd.
Pan drodd y byd ei gefn arnaf,
Angel daeth i godi’r gwanaf.
Ni ddaethost ag aur na chyfoeth,
Na geiriau mawr a chyngor doeth,
Ond pecyn bwyd a dŵr a gwen,
A gobaith ffydd i faethu’r awen.
Ni wyddost dim am fy nrafferth,
Na'r cyffur a ddwynodd bopeth,
Na'r teulu gollais ar y ffordd,
Na'r dyddiau hir mewn unigedd.
Fe welaist gariad glan yr Iesu,
Tu hwnt i’r gwg a phoen sy’n llethu,
Gwelaist berson, nid y broblem,
Cariad Crist yw trem dy anthem.
Ein Duw am gwelodd a'th anfonodd,
Ei ateb tawel cyn ‘mi ddiffodd,
Trwy ras a thrwy dy law dyner,
Iesu mawr oedd yn ei lawnder.
Nid oes gennyf aur i'th dalu,
Dim rhodd ond dillad hen ‘di malu.
Ond y darn hwn o gardfwrdd hen,
Rhoddaf fy niolch i un mor glên.
Rhannaist rywbeth sy’n fwy na bwyd,
Clywais lais yn galw, “Tomos … cwyd!”
Geiriau ddoe sydd ag un llef,
Gan Dduw, a gan Ei bobl Ef.