Ni All Rhyfel Ladd Cariad

Y Llythyr a Ddaeth Adref

Sul y Cofio | Amser darllen: tua 4 munud

Cyflwyniad

Ar Sul y Cofio, cofiwn am y rhai a aberthodd eu bywydau mewn rhyfeloedd, ond y tu ôl i bob enw ar gofeb mae stori ddynol — gŵr, gwraig, tad, mam, mab neu ferch. Mae'r llythyr dychmygol hwn gan filwr ifanc at ei deulu yn ein hatgoffa nad colli bywydau yn unig yw trasiedi rhyfel, ond colli breuddwydion, dyfodol a chariad. Eto, hyd yn oed yng nghanol erchyllterau rhyfel, gall goleuni ffydd, maddeuant a gobaith Duw barhau i ddisgleirio.

Fy annwyl Mari.,

Wn i ddim pryd y bydd y llythyr hwn yn dy gyrraedd. Rwy'n ei ysgrifennu wrth bwyso yn erbyn wal y ‘‘trench’, a sŵn gynnau yn tanio o'n cwmpas. Mae'r ddaear yn crynu, a phob ychydig funudau mae rhywun yn gweiddi gorchymyn arall. Mae fy nwylo'n crynu, ond roeddwn am ysgrifennu tra oedd cyfle gennyf o hyd.

O, gymaint yr hiraethaf am gael dod adref.

Rwy'n meddwl am ein Ifan bach drwy'r amser. Ydy e'n cerdded erbyn hyn? Ydy e'n dal i estyn am fy llun wrth ochr ei wely? Dywed wrtho fod Dadi'n ei garu'n fwy na'r holl sêr yn yr awyr. Dywed wrtho fy mod yn breuddwydio am ei gario ar fy ysgwyddau drwy'r caeau, dangos yr ŵyn iddo yn y gwanwyn, a'i ddysgu i chwibanu fel y dysgodd fy nhad fi.

A thithau, fy nghariad. Rwy'n hiraethu am sŵn dy chwerthin, cynhesrwydd dy law yn fy llaw, a'r nosweithiau tawel hynny pan nad oedd gennym ddim byd pwysig i'w ddweud, am fod bod gyda'n gilydd yn ddigon.

Dywed wrth Mam a Dad fy mod yn eu caru. Rwy'n deall erbyn hyn yr aberth a wnaethant drosom. Dywed wrth fy mrodyr a'm chwaer fach fy mod yn cofio anturiaethau ein plentyndod, ac y byddwn yn rhoi unrhyw beth am un dydd Sul arall o gwmpas bwrdd y teulu.

Digwyddodd rhywbeth ddoe y mae'n rhaid imi ei rannu â thi.

Fe ddaliasom filwr ifanc o fyddin y gelyn. Go brin ei fod yn bedair ar bymtheg oed. Roedd wedi dychryn yn lân, yn crio am ei fam mewn iaith nad oeddwn yn ei deall. Roedd un o'n dynion am ei daro, ond fe'i rhwystrais.

Am eiliad, wrth edrych i lygaid y bachgen hwnnw, gwelais Ifan fel llanc ifanc. Rhywle, roedd mam arall yn gweddïo am i'w mab ddod adref.

Rhoddais ychydig o ddŵr iddo.

Sibrydodd rywbeth nad oeddwn yn ei ddeall, ond rwy'n meddwl ei fod yn diolch imi.

Mari, rwyf wedi cael trafferth gyda'm ffydd yma. Rwyf wedi gweld pethau ofnadwy na ddylai neb fyth orfod eu gweld. Rwyf wedi gofyn i Dduw pam y mae'n caniatáu cymaint o ddioddefaint, pam y mae dynion da yn marw, a pham y gall casineb beri i ddieithriaid ladd ei gilydd.

Ond ddoe, cofiais rywbeth a ddywedodd ein gweinidog unwaith: fod Crist wedi maddau hyd yn oed i'r rhai a'i hoeliodd ar y groes.

Efallai mai maddau yw'r weithred ddewrraf y gall rhywun ei chyflawni.

Rwyf wedi lladd yn y rhyfel hwn. Bydd y gwirionedd hwnnw'n pwyso ar fy enaid am byth. Gweddïaf y bydd Duw, yn ei drugaredd, yn maddau imi, ac y caiff y rhai sydd wedi dioddef o'm herwydd heddwch.

Nid am fuddugoliaeth yn unig yr wyf yn gweddïo mwyach. Gweddïaf am y dydd pan na fydd yn rhaid i unrhyw fam, ar y naill ochr na'r llall, gladdu ei mab.

Gweddïaf y bydd Ifan yn tyfu i fyny mewn byd lle mae dewrder yn golygu adeiladu pontydd yn hytrach na'u dinistrio.

Rhaid imi orffen nawr. Mae'r tanio'n dod yn nes.

O Dduw, helpa ni.

Mae James newydd syrthio wrth fy ochr. Dim ond ychydig eiliadau yn ôl roedd yn siarad â mi am ei wraig. Daliais ei law, ond roedd wedi marw cyn imi gael cyfle i weddïo drosto.

Maen nhw'n galw arnom i symud ymlaen.

Mari, rhaid imi fynd.

Os na ddychwelaf, paid â gadael i chwerwder lenwi dy galon. Dysga Ifan bach i garu, hyd yn oed pan fydd y byd yn rhoi rhesymau iddo gasáu. Dywed wrtho fod ei dad wedi bod yn ofnus, ei fod ymhell o fod yn berffaith, ond ei fod yn credu bod cariad Duw yn fwy na chreulondeb dyn.

A chofia, fy nghariad, ni all marwolaeth ddwyn oddi arnom y cariad yr ydym wedi'i rannu.

Os myn Duw, fe gyfarfyddwn eto, lle nad oes gynnau, na gelynion, na ffarwelio.

Dy ŵr cariadus, am byth,

Dafydd

Taith Olaf y Llythyr

Dair wythnos yn ddiweddarach, stopiodd cerbyd milwrol y tu allan i fwthyn bach.

Daeth dau swyddog mewn lifrai at y drws. Roedd Mari'n gwybod cyn iddynt ddweud gair.

Roedd ei gŵr wedi'i ladd ar faes y gad.

Estynnodd un o'r swyddogion amlen fach iddi, wedi'i staenio â mwd, a oedd wedi'i chanfod yn ofalus ymysg dillad Dafydd.

Y tu mewn roedd ei lythyr olaf.

Darllenodd Mari y geiriau drwy ei dagrau, gan gofleidio Ifan bach yn dynn wrth ei bron.

A phan gyrhaeddodd y geiriau olaf, deallodd, er bod rhyfel wedi dwyn bywyd ei gŵr, nad oedd wedi llwyddo i orchfygu ei gariad.

Nac ychwaith wedi diffodd goleuni ei ffydd.

Oherwydd nid trechu gelyn yw'r fuddugoliaeth fwyaf, ond trechu'r casineb sy'n ein troi'n elynion i'n gilydd.

Next
Next

Llais o’r Gorfennol.