Rhy gall i fod yn wallgof.
Y Pibydd ar y Traeth
Ar fore 6 Mehefin 1944, roedd miloedd o filwyr y Cynghreiriaid yn nesáu at arfordir Normandi. O’u blaenau roedd Traeth Sword, wedi’i amddiffyn gan ynnau, morterau a saethwyr cudd yr Almaen. Gwyddai’r dynion ifanc yn y cychod glanio y gallai llawer ohonynt golli eu bywydau o fewn munudau.
Yn eu plith roedd milwr Albanaidd 21 oed o’r enw Bill Millin. Nid oedd Millin yn cario reiffl wrth iddo gamu o’r cwch glanio. Roedd yn gwisgo cilt ac yn cario’i bibau, ynghyd â’r gyllell seremoni fechan yn ei hosan.
Erbyn hynny, roedd rheolau’r Fyddin Brydeinig yn gwahardd pibyddion rhag chwarae ar reng flaen y frwydr. Pan atgoffodd Millin yr Arglwydd Lovat o hyn, dywedir i Lovat ateb mai rheolau Seisnig oedd y rheini ac, am eu bod ill dau yn Albanwyr, nad oeddent yn berthnasol iddyn nhw!
Felly, wrth i fwledi daro’r dŵr a bomiau ffrwydro o’u cwmpas, cododd Bill Millin ei bibau uwch ei ben a cherddodd drwwy’r tonnau tua’r lan. Yng nghanol gwaedd y clwyfedig a tharanau’r frwydr, cododd sain Highland Laddie uwchlaw’r traeth.
Cerddodd Millin yn ôl ac ymlaen ar hyd y lan gan chwarae’i bibau, wrth i filwyr symud ymlaen ac eraill syrthio o’i gwmpas. Yn ddiweddarach, chwaraeodd The Road to the Isles ac All the Blue Bonnets Are Over the Border. I’r dynion a oedd yn ymladd eu ffordd oddi ar y traeth, roedd yr alawon cyfarwydd hynny’n sôn am gartref, hunaniaeth a gobaith. Yng nghanol yr anhrefn, roedd y gerddoriaeth yn eu hatgoffa nad unigolion ofnus yn ceisio goroesi yn unig oeddent. Roeddent yn perthyn i rywbeth mwy na hwy eu hunain.
Yn rhyfeddol, goroesodd Millin heb gael ei saethu. Yn ddiweddarach, cofiodd iddo siarad â milwyr Almaenig a oedd wedi’u dal, a gofyn pam nad oeddent wedi ei saethu. Atebasant eu bod yn tybio bod unrhyw un a fyddai’n cerdded ar hyd maes y gad gan chwarae pibau ac heb arf…yn wallgof.
Mae hanes y pibydd ar y traeth yn dwyn i gof ddigwyddiad rhyfeddol yn yr Hen Destament. Roedd y Brenin Jehosaffat a phobl Jwda yn wynebu byddin a oedd yn llawer cryfach. Roedd ofn arnynt a doeddent dim yn gwybod beth i’w wneud, ond troesant at Dduw mewn gweddi.
Dyma oedd neges Duw iddynt:
“Peidiwch ag ofni na digalonni oherwydd y fyddin fawr yma. Achos dim chi fydd yn ymladd y frwydr, ond Duw.”
Yna digwyddodd rhywbeth anghyffredin. Penododd Jehosaffat gantorion i fynd o flaen y fyddin, gan foli Duw a chanu:
“Diolchwch i’r Arglwydd, oherwydd mae ei gariad hyd byth.”
Aethant i wyneb perygl, nid gyda sŵn bygythiadau, ond gyda sain mawl. Ni allai’r cantorion drechu byddin â’u lleisiau, yn union fel na allai Bill Millin atal bwledi â’i bibau. Eto, roedd eu cerddoriaeth yn datgan na fyddai ofn yn cael y gair olaf.
Nid yw ffydd yn golygu esgus nad oes perygl, galar na dioddefaint yn bodoli. Anghofiodd Bill Millin ddim o wynebau’r rhai a syrthiodd o’i gwmpas. Nid yw’r gobaith Cristnogol yn gofyn inni anwybyddu poen. Yn hytrach, mae’n rhoi rhywbeth inni ddal gafael ynddo wrth inni gerdded drwyddo.
Efallai na fydd galw arnom byth i groesi traeth a gwynebu beledi’r gelyn, ond bydd pob un ohonom yn wynebu ein glannau brawychus ein hunain. Gall salwch, profedigaeth, siom, unigrwydd ac ansicrwydd wneud inni feddwl tybed sut y gallwn gymryd y cam nesaf. Ar adegau felly, efallai na fydd ffydd yn cael gwared y frwydr ar unwaith, ond mae’n gosod sain arall yn ein clustiau.
Y sain honno yw’r addewid fod Duw gyda ni.
Nid oedd Bill Millin yn cario’r arfau yr oedd pawb arall yn eu cario. Roedd ganddo dasg wahanol. Roedd yn cario alaw—atgof o gartref a galwad i fod yn ddewr. Efallai fod hyn hefyd yn rhan o alwad yr Eglwys heddiw. Mewn byd sy’n llawn lleisiau dig, ofn ac ymraniad, fe’n gelwir i gario cân wahanol: cân gras, maddeuant, tosturi a gobaith.
Ysgrifennodd yr Apostol Paul nad arfau’r byd yw’r arfau a ddefnyddiwn yn ein brwydr. Gorchfygodd Iesu ddim casineb drwy ymateb â chasineb. Fe’i gorchfygodd drwy gariad aberthol. Dysgodd inni garu ein gelynion, maddau i’r rhai sy’n gwneud cam â ni, a dwyn heddwch i’r mannau lle mae eraill yn creu gwrthdaro.
I rai pobl, gall byw fel hyn ymddangos yn ffôl. Gall maddeuant edrych fel gwendid. Gall caredigrwydd ymddangos yn naïf. Gall gobaith ymddangos yn afresymol. Ac eto, mae’r hyn sy’n ymddangos yn ffolineb Duw yn gryfach na nerth dynol.
Daliodd y pibydd ati i chwarae oherwydd dyna oedd y dasg a ymddiriedwyd iddo. Ein galwad ninnau yw parhau’n ffyddlon i’r dasg y mae Crist wedi’i hymddiried inni: caru, gwasanaethu, annog a thystio i obaith.
Pan fydd ofn o’n cwmpas a sŵn y byd yn mynd yn llethol, boed inni barhau i glywed—a helpu eraill i glywed—cerddoriaeth dawel ond anorchfygol cariad Duw.