Mai

Gwyn Elfyn Jones

WYTHNOS 18

Mai 15af - Maiain 2022

Cwrdd Diaconiaid.

Fe gynhelir Cwrdd Diaconiaid wyneb yn wyneb yn Hebron nos Fawrth yma am 7.00 o’r gloch.

__________________________________________

Angladd.

Cynhelir angladd y diweddar Joyce Jones - Mountain Gate , Mynydd cerrig ar bnawn dydd Iau yma yng Nghapel Seion am 2.00 o’r gloch y prynhawn.

__________________________________________

Cymorth Cristnogol.

Mae’n wythnos Gristnogol yr wythnos yma ac fe fydd yr amleni ar gael ar ford y cyntedd fel arfer i dderbyn eich cyfraniadau. Gan mai dim ond pump amlen cafwyd gan Gymorth Gristnogol eleni mae Stephen yn gofyn os ydych am gyfrannu i wneud hynny ar amlen o’ch eiddo chi a’ch henw a Cymorth Cristnogol arni ac fe wnaiff Stephen ei casglu wrthoch dros y suliau nesaf.

__________________________________________

Catrin Issac Thomas.

Pleser o’r mwyaf oedd cyflwyno Catrin Issac Thomas i oelodau Capel Seion ar 15fed o Fai.. Fel y gwyddom i gyd mae Catrin o’r Tymbl a dyw hi ddim yn anghyfarwydd a ni yma. Ac er ei bod bellach yn byw yn Sir Bemfro mae yn dal yn aelod yn Bethesda lle mae ei mam Gillian yn aelod ffyddlon. .Mae Catrin wedi gwasanaethu gyda Heddlu Dyfed Powys am flynydde ond wedi gwneud cwrs gyda Choleg yr Annibynwyr a bellach yn bregethwr cynorthwyol. Fe fydd eglwys rhywle yn ffodus iawn rhyw ddiwrnod o dderbyn Catrin yn weinidog arni. Cawsom wasanaeth i’w chofio a derbyniwyd ei neges yn ddiffuant gennym.


__________________________________________

Banc Bwyd

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

Darllenwch llythyr diolch Meidrim o Fanc Bwyd Rhydaman yma.

__________________________________________

Bore Coffi

Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!

Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.

__________________________________________

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Mai

Next
Next

Mai