Mai
Cwrdd Eglwys.
Daw cais gan y diaconiaid o ganlyniad i ymateb y Loteri i adnewyddu Hebron i’ch galw i Gwrdd Eglwys ar y 4ydd o Fehefin. Y bwriad yw trafod argymelliad y Loteri i ni ystyried patrwm o weinyddu yn Hebron bydd angen sel bendith gyfansoddiadol gennym fel eglwys annibynnol.
__________________________________________
Cymorth Cristnogol.
Mae’n wythnos Gristnogol yr wythnos yma ac fe fydd yr amleni ar gael ar ford y cyntedd fel arfer i dderbyn eich cyfraniadau. Gan mai dim ond pump amlen cafwyd gan Gymorth Gristnogol eleni mae Stephen yn gofyn os ydych am gyfrannu i wneud hynny ar amlen o’ch eiddo chi a’ch henw a Cymorth Cristnogol arni ac fe wnaiff Stephen ei casglu wrthoch dros y suliau nesaf.
__________________________________________
Bore Coffi Llyfrau Llafar Cymru.
Cynhelir bore coffi gan Lyfrau Llafar Cymru dydd Mercher 22ain o Fehefin yng Ngwesty Llwyn Iorwg rhwng 10-12 y bore.
Tocynnau yn £2.00 trwy law Elsbeth.
__________________________________________
Banc Bwyd.
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
__________________________________________
Bore Coffi Hebron.
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
__________________________________________
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’