Wythnos Mai 7fed

Banc Bwyd Rhydaman.

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

https://ammanford.foodbank.org.uk

_______________________________

Noson Gyri a chasglu at y trychineb yn Nhwrci.

Cofiwch am y Noson Gyri yn Dwbis , nos Iau Mai 11eg- Tocyn £20.  Bydd elw ‘r noson tuag at gronfa’r daeargryn yn Nhwrci. Enwau os gwelwch yn dda i griw y bore coffi . 

_______________________________

Y Porth

Mae gwefan yporth.org ar agor i chi gael pori drwyddi. Os oes person ifanc rhwng 9 a 35ain yn eich teulu chi efallai bydd diddordeb ganddynt i ymchwilio ymhellach i beth mae gan Iesu ei gynnig i ni.

Oedfa Mai 14eg

Bydd yr oedfa yma bore Sul nesaf Mai 14eg o dan ofal ein Gweinidog Gwyn. 

Ni fydd oedfa yma yng Nghapel Seion ar ddydd Sul olaf y mis sef Mai 28ain. Mi fyddwn yn mynychu Oedfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghapel Tabernacl Llanymddyfri am 10.00 y bore. Mi fydd bws yn cael ei drefnu i fynd i’r oedfa ac os ydych yn dymuno mynd rhowch eich enw i Mr Mal James.

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Wythnos 21ain

Next
Next

Wythnos 16eg Ebrill