Wythnos 16eg Ebrill

Banc Bwyd Rhydaman.

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

https://ammanford.foodbank.org.uk

_______________________________

Bore Coffi.

Bydd y Bore Coffi bore Mercher yma, sef 19eg Ebrill yn Hebron rhwng 10.00-11.30yb

_______________________________

Casglu at y trychineb yn Nhwrci.

Bydd bocs yng nghyntedd y capel lle gallwch gyfrannu ac fe fydd yr apêl yn cael ei drosglwyddo i Gymorth Cristnogol.

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Wythnos Mai 7fed

Next
Next

Wythnos 26ain Mawrth