Chwefror

Gwyn Elfyn Jones

WYTHNOS 8

Chwefror 20ed - Chwefror 27fed

Oefaon yn y Capel.

Mae’r oedfaon wedi dechrau yn y capel ers dechrau’r mis ac edrychwn ymlaen at groesawi aelodau a ffrindiau yn ôl wedi cyfnod arall dan glo.

***

Cadwch at y cyfarwyddiadau sydd ar ein gwefan yn enwedig pan fyddwn yn ail-ymuno yn y capel, y festri a Hebron.

  • Ar y 27ain byd Rhodri Wyn phillips yn gwasanaethu.

____________________________________________

Gorymdaith

Dathliadau Dydd Gwyl Ddewi

Ysgol Gynradd Drefach

Mae’n fwriad ganddom eleni i gynnal gorymdaith drwy bentref Drefach ar Fawrth1af i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi, os fydd y tywydd yn caniatau. 

 

  • Byddwn yn gadael yr ysgol am 1.15yh.

  • Byddwn yn croesi’r hewl ac yn troi i’r chwith gan ddilyn y llwybr i Bron yr Ynn.

  • Byddwn yn cerdded drwy Bron yr Ynn ac yn crosi’r hewl tuag at Ysgol y Gwendraeth.

  • Bydd plant y Cylch Meithrin yn ymuno gyda ni ac ar ôl i ni ganu y tu allan i’r Cylch byddwn i gyd yn cydgerdded heibio i Hebron tuag at Siop Tanya.

  • Yna byddwn yn troi i’r chwith ac yn cerdded ar hyd ‘Mary Street’ ac yna’n troi i’r chwith eto gan gerdded heibio i’r Manshed a Chanolfan Carwyn a nôl i’r cylch Meithrin.

  • Byddwn wedyn yn cerdded heibio i Hebron (eto) ac yna’n troi am y parc.

  • Byddwn yn cerdded drwy’r parc ac yn dod allan ynghanol Brynglas.

  • Byddwn wedyn yn ail ymuno a’r brif heol ac yn troi i’r chwith tuag at y sgwar .

  • Byddwn yn cadw i’r chwith wrth y sgwar ac yn cerdded tuag at y siop.

  • Byddwn yn croesi’r hewl ar bwys y siop ac yna’n cerdded nôl i’r ysgol.

  • Fe ddylem fod nôl yn yr ysgol ymhen yr awr.

 

Mae asesiad risg o’r daith wedi ei chreu . 

 

Ein bwriad yw i ddathlu dydd ein nawddsant yn ein cymuned ac felly rydym yn annog pawb i ddod i weld ein gorymdaith wrth i ni gerdded drwy’r pentref. ( Oherwydd rheolau covid, ni allwn ofyn i chi ymuno gyda ni). 

 

A wnewch chi plis ymateb i’r e bost yma yn rhoi eich caniatad i’ch plentyn fynychu’r orymdaith. 

Llawer o ddiolch 

Mrs Manon Wyn Jones 

 

St David's Day Celebrations 

 

This year, weather permitting, we plan  to hold a parade through the village of Drefach  on March 1st to celebrate St David's Day. 

 

The planned route is:  

  • We’ll leave school at 1.15pm.

  • We’ll cross the road and turn left following the path to Bron yr Ynn.

  • We’ll walk through Bron yr Ynn and cross the road towards Ysgol y Gwendraeth.

  • The Cylch Meithrin children will then join us and once we’ve all sung a few songs outside the Cylch we’ll all walk together along the road past Hebron towards ‘Siop Wallt Tanya’ .

  • We’ll then turn left and walk along Mary Street

  • We’ll turn left at the junction and walk past the ‘Manshed’ and Canolfan Carwyn and then back to the Cylch Meithrin.

  • We’ll then walk back along the main road, past Hebron (again) and then turn into the park.

  • We’ll exit the park and walk through Brynglas before rejoining the main road and turn left towards the square.

  • At the junction, we’ll keep left towards the shop.

  • We’ll cross the road opposite the shop and then walk back towards school.

  • We should be back at school in an hour.

 

A risk assessment of the journey has been created. 

 

Our intention is to celebrate the day of our patron saint in our community and  we’d like to encourage everyone to come and see our march as we walk through the village. (Due to covid rules, we are unable to ask you to join us). 

 

Please respond to this email giving your child your permission to attend the march. 

 

 

Llawer o ddiolch 

Mrs Manon Wyn Jones 

____________________________________________

Banc Bwyd

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

Darllenwch llythyr diolch Meidrim o Fanc Bwyd Rhydaman yma.

____________________________________________

Bore Coffi

Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!

Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.

____________________________________________

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Mawrth

Next
Next

Chwefror.