Mawrth
WYTHNOS 9
Mawrth 6ed - Mawrth 13eg
Oefaon yn y Capel.
Mae’r oedfaon wedi dechrau yn y capel ers dechrau’r mis ac edrychwn ymlaen at groesawi aelodau a ffrindiau yn ôl wedi cyfnod arall dan glo.
***
Cadwch at y cyfarwyddiadau sydd ar ein gwefan yn enwedig pan fyddwn yn ail-ymuno yn y capel, y festri a Hebron.
Ar y 27ain byd Rhodri Wyn phillips yn gwasanaethu.
____________________________________________
Rhyfel Wcráin.
Apel Dyngarol.
Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn. Galatiaid 6:2
Does dim angen dweud mwy na dangos fwy o luniau i ddisgrifio’r erchyllterau yng ngwlad Wcráin.
Mae Capel Seion wedi dechrau ymgyrch ariannol i helpu’r trueiniaid sy’n ffoi o’r ymosodiad milwrol Rwsia. Byddwn yn casglu yn y capel ac mewn mannau cyhoeddus yn y pentref. Yn rhagweld y bydd cefnogaeth hael i’r casgliad rydym wedi achub y blaen ac yn bwriadu cyfrannu mil o bunnoedd i DEC sef Disaster Emergency Committee ar ddiwedd yr wythnos yma.
Diolchwn ymlaen llaw am bob ceiniog o rodd a chliciwch ar y llun i ddarganfod sut mae wneud gwahaniaeth wrth weddïo dros Wcráin a’i phobl.
Pob bendith a chofiwch rannu.
Gwyn
____________________________________________
Banc Bwyd
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
Darllenwch llythyr diolch Meidrim o Fanc Bwyd Rhydaman yma.
____________________________________________
Bore Coffi
Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
____________________________________________
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’