Ebrill

Gwyn Elfyn Jones

WYTHNOS 16

Ebrill 24fed - Mai 1af

Derbyn Aelodau Newydd.

Cymundeb Mai 1af

Pleser o’r mwyaf oedd i eglwys Iesu yng Nghapel Seion dderbyn pump o ieuenctid yr eglwys yn aelodau llawn o’r eglwys ar Sul y Pasg

Byddwn yn derbyn dau aelod newydd sef Ffion a Lowri Anderson hefyd yng ngwasanaeth y Cymun ar Fai 1af. Ymunwch â ni yng ngwasanaeth y cymun.

Dymunwn bob bendith a phob dymuniad da i’r bobl ifanc ar ei taith ysbrydol.

____________________________

Banc Bwyd

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Cais sydd gennym i aelodau a ffrindiau ddod a bwyd i Hebron dydd Mercher yna , sef, 27ain Ebrill er mwyn ei casglu ar gyfer y Banc Bwyd yn Rhydaman dydd Iau.

_________________________

Bore Coffi

Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!

Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.

__________________________

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Mai

Next
Next

Ebrill