Ebrill
Derbyn Aelodau Newydd.
Pleser o’r mwyaf oedd i eglwys Iesu yng Nghapel Seion dderbyn pump o ieuenctid yr eglwys yn aelodau llawn o’r eglwys.
Braf oedd derbyn Dafydd a Rhys Griffiths, Lisa ac Iwan Davies a Ffion Campbell yn oedfa’r Pasg eleni. Cafwyd oedfa fendithiol yng nghwmni eglwys lawn o aelodau a ffrindiau ar ddiwrnod braf a heulog.
Dymunwn bob bendith a phob dymuniad da i’r bobl ifanc ar ei taith ysbrydol.
____________________________
Cyfarfod y Plant
Byddwn yn trefnu i’r plant a rhieni ddod ynghyd dydd Mawrth 19eg er mwyn trefnu rhaglen yr Ysgol Sul a mwynhau gweithgareddau’r cyfnod.
Bore Mawrth 19eg Ebrill am 11.00yb yn Hebron Drefach.
____________________________
Banc Bwyd
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
_________________________
Cwrdd Chwarter
Cynhaliwyd cyfarfod y Gwanwyn yng Nghapel Seion.
Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus o’r Cwrdd Chwarter yng Nghapel Seion dan arweiniad llywydd y Cwrdd Chwarter, Y Parchedig Gwyn Elfyn Jones. Cafwyd anerchiad a chyflwyniad grymus gan Gwyn lle’r trosglwyddodd yr awenau i’r llywydd nesaf, sef Mr Gethin Thomas.
Dymunwn i gyd pob llwyddiant i Gethin yn ei rôl bwysig i’r eglwys annibynnol yng Nghymru a hynny yng nghyfnod mwyaf heriol i’r eglwys yn gyffredinol.
________________________
Bore Coffi
Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
__________________________
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’