Ionawr.

Gwyn Elfyn Jones

WYTHNOS 3

17fed- 22eg


Cyfnod Cofid.

Oedfaon, Yr Ysgol Sul a Hebron.

Er bod yr haint yn gwella a’r niferoedd sy’n diddef yn gostwng ni fydd gwasanaeth yn y capel nag ysgol sul a gweithgareddau yn Hebron tan i ni eich hysbysu’n wahanol ar ddiwedd y mis.

Felly cadwch at y cyfarwyddiadau sydd ar ein gwefan yn enwedig pan byddwn yn ail gydio yn ein gwasanaethau yn y capel, y festri a Hebron.

____________________________________________________

Banc Bwyd

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

  • Annwyl Ffrindiau’r Bancbwyd,

    Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i chi am eich cefnogaeth ryfeddol wrth i ni ddod at y Nadolig. Roedd y sesiynau cyn y Nadolig y rhai mwyaf prysur erioed gyda’r rhif enfawr o 535 o bobl yn derbyn cefnogaeth yn ystod eu hargyfwng ariannol ym mis Rhagfyr. Ni fyddem wedi gallu cynnig hyn heblaw am eich cefnogaeth hael - diolch o galon. Wrth i ni ddechrau ar 2022 fe wynebwn y ffaith y bydd y galw am ein gwasanaethau yn cynyddu yn ystod y flwyddyn. Gwyddom hefyd, oherwydd eich cefnogaeth sicr, y gallwn gwrdd â’r gofyn a fydd yn digwydd.

    Fel y soniwyd yn ein llythyr newyddion blaenorol rydym yn parhau i ddatblygu ein dulliau o estyn arweiniad a chymorth, gan weithio gyda’n clientiaid y tu hwnt i’w hangen am fwyd er mwyn ceisio atal achos eu problemau yn y tymor hir. Mae’n galonogol gweld canran uchel o’n cleientiaid yn manteisio ar gymorth megis cynllunio cyllideb, cymorth ar gyfer biliau gwasanaethau cyhoeddus, cymorth iechyd meddwl a chymorth adeg profedigaeth. Rydym yn ddiolchgar hefyd bod gennym gynghorwyr yn y Bancbwyd ar gael i siarad yn uniongyrchol gyda clientiaid fel mae canllawiau Covid yn caniatáu. Yr ychwanegiad diweddaraf i’r gwsanaeth hwn yw’r Samariaid. Rydym yn ddiolchgar am yr amser a roddir i’n clientiaid, gan gynnig clust i wrando heb farnu wrth rannu eu beichiau. Gwelwn yn barod y dylanwad cadarnhaol a gaiff y fath wasanaeth ar ein cleientiaid.

    Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth barhaus mewn gair o anogaeth, gweddi a chyfraniadau, mae’r cyfan a wnawn yn bosibl dim ond oherwydd eich partneriaeth gyda ni. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Pe byddech am wybod y diweddaraf am ein hanghenion, yna ewch i’n cyfryngau cymdeithasol (Facebook ac Instagram) neu ein gwefan - ammanford.foodbank.org.uk

    Pob bendith,

    Mydrim a Thîm y Bancbwyd

____________________________________________________

Bore Coffi

Ni fydd Bore Coffi yn Hebron tan fydd yr awdurdodau yn caniatáu i ni ymgynnull.

Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.


____________________________________________________

Cyfraniadau

Hoffwn eich atgoffa y byddwn yn cau llyfrau cyfraniadau Capel Seion yng nghynt eleni ac erfyniwn arnoch i gysylltu â’ch arweinydd dosbarth.

Byddwn yn ddiolchgar petai bawb yn cyflwyno ei rhoddion cyn gynted â phosibl i’w arweinydd dosbarth.

Nodyn i bob arweinydd dosbarth.

  • Hatgoffa pob aelod o’i hymrwymiad fel aelod i gyfrannu.

  • Cwblhau’r casglu erbyn dydd Llun 17eg Ionawr 2022.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Chwefror.

Next
Next

Ionawr