Chwefror.
WYTHNOS 5
Ionawr 30ain- Chwefror 6ed
Cyfnod Cofid.
Oedfaon, Yr Ysgol Sul a Hebron.
Er bod yr haint yn gwella a’r niferoedd sy’n diddef yn gostwng ni fydd gwasanaeth yn y capel nag ysgol sul a gweithgareddau yn Hebron tan i ni eich hysbysu’n wahanol ar ddiwedd y mis.
Felly cadwch at y cyfarwyddiadau sydd ar ein gwefan yn enwedig pan byddwn yn ail gydio yn ein gwasanaethau yn y capel, y festri a Hebron.
____________________________________________________
Banc Bwyd
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
Llythyr Diolch Banc Bwyd Rhydaman.
____________________________________________________
Bore Coffi
Ni fydd Bore Coffi yn Hebron tan fydd yr awdurdodau yn caniatáu i ni ymgynnull.
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
____________________________________________________
Cyfraniadau
Hoffwn eich atgoffa y byddwn yn cau llyfrau cyfraniadau Capel Seion yng nghynt eleni ac erfyniwn arnoch i gysylltu â’ch arweinydd dosbarth.
Byddwn yn ddiolchgar petai bawb yn cyflwyno ei rhoddion cyn gynted â phosibl i’w arweinydd dosbarth.
Nodyn i bob arweinydd dosbarth.
Hatgoffa pob aelod o’i hymrwymiad fel aelod i gyfrannu.
Cwblhau’r casglu erbyn dydd Llun 17eg Ionawr 2022.