Wythnos 12 Mawrth.

Banc Bwyd Rhydaman.

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

https://ammanford.foodbank.org.uk

_______________________________

Bore Coffi

Bydd bore coffi yn Hebron bore Mercher nesaf rhwng 10 a 11.30. Croeso cynnes iawn i bawb

_______________________________

Oedfa

Bydd yr oedfa fore Sul nesaf Mawrth 19eg o dan ofal ein Gweinidog Gwyn. Bydd y chwiorydd yn arwain y gwasanaeth ..

_______________________________

Ysgol Gan

Bydd Ysgol Gan yma yn yr hwyr am 5.30. Cofiwch wneud pob ymdrech i fod yn bresennol.

_______________________________

Casglu at y trychineb yn Nhwrci.

Bydd bocs yng nghyntedd y capel lle gallwch gyfrannu ac fe fydd yr apêl yn cael ei drosglwyddo i Gymorth Cristnogol.

Previous
Previous

Wythnos 26ain Mawrth

Next
Next

Wythnos Mawrth 5ed