Wythnos 26ain Mawrth
Banc Bwyd Rhydaman.
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
https://ammanford.foodbank.org.uk
_______________________________
Bore Coffi
Bydd bore coffi yn Hebron bore Mercher nesaf rhwng 10 a 11.30. Croeso cynnes iawn i bawb
_______________________________
Oedfa
Ni fydd oedfa yma fore Sul nesaf Ebrill 2ail gan y cynhelir y Gymanfa Ganu yn yr hwyr am 5.30. Mi fydd y Gymanfa eleni yn cael ei harwain gan Miss. Catrin Hughes. Dewch yn llu ac mae croeso cynnes i bawb .
_______________________________
Casglu at y trychineb yn Nhwrci.
Bydd bocs yng nghyntedd y capel lle gallwch gyfrannu ac fe fydd yr apêl yn cael ei drosglwyddo i Gymorth Cristnogol.
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’