Storïau o Feibl y Plant.
Ysgol Sul Capel Seion.
Gallwch ddarllen a gwrando ar y stori, lliwio’i fewn neu ateb y cwis!
Daniel y Carcharor.
Darllenwyd gan ….. Mae ….. yn astudio …...
Gallwch hefyd ddarllen wrth wrando ar y stori.
Roedd Daniel a tri ffrind iddo yn byw yn Israel. Un diwrnod daeth brenin pwerus yno a chipio pob dyn galluog a’u cymryd i’w wlad ei hun. Roedd gan y brenin enw hir iawn, iawn - Nebwchadnesar, ac roedd e’n byw mewn gwlad bell o’r enw Babilon.
Cafodd y dynion ifanc eu trin yn dda yn Babilon. Roedd y brenin wedi dewis y dynion mwyaf galluog a’r gorau o bob gwlad yn y byd. Roedd am ddysgu iaith Babilon iddyn nhw er mwyn iddyn nhw fod yn weision iddo a’i helpu i redeg ei deyrnas.
Roedd y bwyd yn dda hefyd - roedden nhw’n bwyta byd brenin. Ond doedd Daniel a’i ffrindiau ddim am fwyta’r bwyd hwn gan ei fod wedi’i offrymu i dduwiau ffug. Roedd Daniel wedi addo na fyddai’n gwneud unrhyw beth yn erbyn dymuniadau Duw. Roedd Israel wedi gorchymyn nad oedd ei bobl i wneud unrhyw beth gyda duwiau ffug neu ddelwau.
Gofynnodd Daniel i’r swyddog oedd yn ei hyfforddi am ganiatâd i beidio bwyta bwyd y brenin. Petai’r brenin yn cael gwybod, byddai’n flin iawn. Ond roedd Daniel wedi gwneud i’r swyddog hoffi Daniel.
Cytunodd i roi prawf ar Daniel a’i ffrindiau - “ Gad i ni fwyta dim ond llysiau ac yfed dim ond dwr am ddeg diwrnod>” Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a’i ffrindiau yn edrych yn iachach na’r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta bwydydd y brenin. Felly dyma nhw’n dal ati gyda bwyta llysiau a dŵr.
Roedd y dynion ifanc yma yn parchu Duw. Rhoddodd Duw wybodaeth a gallu anarferol iddyn nhw ddysgu, ac roedd gan Daniel y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion.
Ar ddiwedd y tair blynedd o ddysgu yn Babilon, dyma nhw’n cael eu cyflwyno i’r brenin Nebwchadnesar. Penderfynodd nad oedd neb ohonyn nhw cystal â Daniel a’i dri ffrind. A dweud y gwir, fe wnaeth y brenin ddarganfod bod gan Daniel fwy o ddoethineb na hob swynwr doeth drwy’r ymerodraeth.
Un noson, cafodd y brenin freuddwyd gas. Galwodd ar ei swynwyr, ei seryddion a’i ddewiniaid i ddod ato. Dywedodd y brenin, “Rydw i wedi cael breuddwyd, ac rwy i am gael gwybod beth ydy ystyr y freuddwyd.” Atebodd y dynion doeth, “O freni! Boed i chi fyw am byth! Dywedwch beth oedd y freuddwyd, a gwnawn ni ddweud beth mae’n ei olygu.”
“Na,” meddai’r brenin, “ Rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae’n ei olygu, neu bydd eich cyrff chi’n cael eu rhwygo’n ddarnau a’ch cartrefi’n cael eu llosgi! Ond os gallwch chi ddweud beth oedd y freuddwyd, a beth mae’n golygu, byddai’n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi”
“Wrth gwrs, doedd neb yn gallu dweud beth oedd y freuddwyd.
Dywedodd y dynion doeth wrth y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth rydych chi’n ei ofyn. Dim ond duwiau sy’n gwybod yr ateb.”
Gwylltiodd y brenin, a rhoddodd orchymyn i ladd dynion doeth Babilon i gyd.
Pan ddaeth y milwyr i nôl Daniel, gofynnodd i Arioch capten y brenin, “Pam mae’r brenin am ladd y dynion doeth?” Atebodd Arioch beth oedd wedi digwydd. Aeth Daniel at y brenin a gofynnodd iddo roi ychydig o amser iddo, a byddai’n esbonio ystyr y freuddwyd.
Yna aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Shadrach, Meshach ac Abednego am y peth. Doedd Daniel ddim yn gwybod beth oedd y freuddwyd na beth oedd yr ystyr ond roedd yn adnabod rhywun sy’n gwybod popeth. Pwy ydy’r Rhywun yna? Duw wrth gwrs! Felly dechreuodd Daniel a’i ffrindiau weddïo.
Cafod Daniel ateb gan Dduw am y freuddwyd. Dechreuodd foli Duw’r nefoedd gan ddweud’ “Boed i enw Duw gael ei foli am byth. Mae e’n Dduw doeth a chryf.” Brysiodd Daniel ar y brenin a dweud wrtho,
” Mae Duw yn y nefoedd yn gallu dangos ystyr pob dirgelwch.” Disgrifiodd freuddwyd y brenin, ac egluro’r ystyr iddo.
Pan glywodd y brenin Nebwchadnesar hyn, plygodd o flaen Daniel a dweud “ Does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd ac yn feistr ar bob brenin. Mae e’n gallu datguddio pob dirgelwch!” Dyma’r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel a rhoi llwyth o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn llywodraethwr talaith Babilon gyfan ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd.
Storïau o Beibl i Blant l Beibl i Blant