Storïau o Feibl y Plant.

Ysgol Sul Capel Seion.

Gallwch ddarllen a gwrando ar y stori, lliwio’i fewn neu ateb y cwis!

Daniel yn ffau’r llewod.

 
 
 

4.09 munud o hyd.

Darllenwyd y stori hon gan Siriol Thomas. Mae Siriol yn athrawes yn ysgol gynradd Pontyberem.

Pam na ddarllenwch chi neu ddilyn wrth wrando ar y stori.


Dariws oedd brenin newydd Babylon. Roedd e’n ddyn clyfar. Dewisodd cant a dau ddeg o bobl orau’r deyrnas i’w helpu i reoli. Yna dewisodd tri i fod yn ben arnyn nhw. Roedd Daniel yn un o’r tri chomisiynydd hynny.

Roedd y brenin Dariws â meddwl mawr o Daniel. Fe wnaeth e ystyried rhoi’r deyrnas gyfan o dan ei ofal.


Roedd yr arweinwyr eraill yn genfigennus, ac roedden nhw eisiau ffeindio bai ar Daniel er mwyn cael dweud hynny wrth y brenin.

Ond doedden nhw’n methu’n deg a dod o hyd i unrhyw sgadal am Daniel. Roedd bob amser yn ffyddlon i’r brenin. Roedd hefyd yn ofalus ac yn alluog, ac yn gwneud popeth hyd eithaf ei allu.


Penderfynodd yr arweinwyr cenfigennus osod trap i Daniel. Roedden nhw’n gwybod na fyddai dim byd yn stopio fe addoli Duw Israel.

Dyma elynion Daniel yn meddwl am gynllun. Fe wnaethon nhw wneud cyfraith newydd i’r brenin ei harwyddo. Roedd y gyfraith yn gorchymyn fod pawb i weddïo ar y brenin - a neb arall. byddai unrhyw un oedd yn torri’r gyfraith yn cael ei daflu i ffau’r llewod.

Dyma’r brenin Dariws yn arwyddo’r gyfraith newydd.


Doedd dim ots gan Daniel am y gyfraith newydd. Fe wnaeth beth oedd e wedi wastad yn ei wneud. Aeth ar ei luniau o flaen ei ffenestr agored dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw. Rhuthrodd yr arweinwyr cenfigennus i ddweud hyn wrth y brenin. Doedd dim dewis gan y brenin Dariws - roedd yn rhaid iddo arestio Daniel. Roedd yn rhaid ufuddhau i’r gyfraith.

Roedd rhaid i Daniel gael ei ladd. Er i’r brenin geisio meddwl am ffordd i’w helpu, doedd hi ddim yn bosibl newid y gyfraith.

Cafodd Daniel ei ddedfrydu i gael ei daflu i ffau’r llewod. Cyn i hyn ddigwydd, dywedodd y brenin Dariws wrtho. “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti’n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di!”

Methodd y brenin gysgu'r noson honno. Yn gynnar iawn y bore wedyn, rhuthrodd y brenin at ffau’r llewod.

Dyma’r brenin yn galw,


”Daniel, Gwas y Duw byw. Ydy’r Duw wyt ti’n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”

Gwyddom ddim os oedd yn disgwyl ateb. Ond yn sydyn dyma Daniel yn galw.

“ O frenin!! Mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau’r llewod, a dÿn nhw ddim wedi fy mrifo i o gwbl! Wnes i ddim drwg i chi O frenin!”

Roedd y brenin wrth ei fodd! Dyma fe’n gorchymyn codi Daniel allan o’r ffau.

Roedd y brenin yn gwybod fod Duw wedi achub Daniel a bod gelynion Daniel yn elynion i Dduw. Dyma’r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ei dwyllo i arwyddo’r gyfraith ddrwg i’w taflu i ffau’r llewod. A dyma’r llewod yn eu bwyta.

Roedd y brenin Dariws am i’r byd wybod fod Duw’r Nefoedd wedi amddiffyn Daniel, ei was ffyddlon. Ysgrifennodd lythyr yn gorchymyn i bawb addoli’r Duw byw. Fe gafodd Daniel fod yn arweinydd unwaith eto.


Storïau o Beibl i Blant l Beibl i Blant

 

Gweithgareddau

 
 

Lliwiwch y llun.

Gofynnwch i mam neu dad lawr lwytho copi i chi gael lliwio. Jyst clicio ar y llun sydd eisiau.

Byddwn yn falch iawn i gael golwg arno y tro nesaf byddwch chi yn yr Ysgol Sul.

Hefyd byddwn yn llwytho’r lluniau yn galeri’r Ysgol Sul.


 

Cwis

Dyma ddau gwestiwn bach i chi. Rhowch dro ar ei hateb.

Next
Next

Daniel y carcharor