Y Porth
Mynediad i ddeffroad ysbrydol
Ffordd o fyw a byw i ddysgu
Y Porth yw rhaglen Capel Seion ar gyfer cynllun Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 2020.
Mae’r Porth yn gynllun gwbl arloesol sy’n ymateb i gais Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i’w aelodau datblygu rhaglen sy’n hyrwyddo’r Efengyl a gwasanaethu eu cymunedau. Cymeradwywyd y Porth fel cynllun blaengar ac o dderbyn y nawdd byddwn yn gallu ariannu swyddog am ddau ddiwrnod yr wythnos am bum mlynedd i yrru’r cynllun.
Rhennir cynllun y Porth i ddwy brif adran sef, y Ffordd o Fyw neu weithgareddau er mwyn gwasanaethu’r gymuned a Byw i Ddysgu sef ffyrdd arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl, cyrsiau a hyfforddiant.
Hoffwn ddiolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am ymddiried ynom fel eglwys i gydweithio ar brosiect arloesol i hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl ac estyn allan a gwasanaethu’r gymuned. Bum yn llwyddiannus yn ein cais i ariannu swyddog am ddau ddiwrnod yr wythnos am bum mlynedd i redeg prosiect y Porth ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Undeb a phartneriaid eraill yn y dyfodol agos. Mae aelodaeth i’r Porth yn ein caniatáu i bori drwy’r safle i gael gwell amcan o beth yw’r prosiect. Bydd y Porth y tyfu o wythnos i wythnos wrth i ni baratoi deunydd sy’n berthnasol i’r isadrannau ac yn esblygu’n naturiol wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddi.
Fel y dywedodd y ‘Cheshire Cat’ wrth Alice, “Os nad ydych chi'n gwybod i ble rydych chi'n mynd, bydd unrhyw ffordd yn eich arwain chi yno."
Dewch i ni atgoffa ein hun o genhadaeth a gweledigaeth eglwys Capel Seion.
Cenhadaeth Y Porth
Ein cenhadaeth yw ddyfnhau ein perthnas â Duw a'n gilydd, tyfu mewn cariad a gwybodaeth am Dduw a dysgu'r ffordd orau i gefnogi ein gilydd yn yr eglwys.
Gweledigaeth Y Porth
I helpu plant, ieuenctid ac oedolion i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.
Prif Adrannau.
Mae’r ddwy adran wedi eu rhannu i dri phrif faes yr un a phob maes wedi eu rhannu i feysydd trafod. Daw’r pynciau ar gyfer meysydd trafod i’r wyneb drwy holi ac asesu anghenion ein haelodau. Bydd nifer o eitemau yn codi o’r meysydd trafod ac fe fydd y tîm golygyddol yn paratoi deunydd ar ffurf erthyglau, podlediadau, lluniau a blogiau ar eu cyfer.
Er mwyn ein helpu i weld newid yn ein cymuned leol, mae canlyniadau ein cyfnod o holi yn cynnwys paratoi cyrsiau i helpu gyda chymorth priodas, iselder ysbryd, profedigaeth, buddsoddi yn natblygiad arweinwyr a gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol. Mae’n haelodau yn cymryd rhan trwy gynnig eu sgiliau, eu hamser, eu rhoddion a'u gweddïau i gefnogi popeth yr ydym yn ei wneud i gyrraedd ein gweledigaeth.
Ffordd o fyw.
Gwasanaethu’r Gymuned.
Prif Adran: Ffordd o Fyw
Prif Faes: Yr Eglwys a’r Byd Crist yn y Canol Gwneud Gwahaniaeth
Bydd bod yn aelod o’r Porth yn ein galluogi i ddilyn erthyglau, blogiau a chyrsiau i ddyfnhau ein perthynas â Duw a thyfu ein bywyd Cristnogol. Mae’r cynnwys yn adlewyrchu materion cyfoes a’r heriau sydd i genedlaethau ifanc yr eglwys. Fe ddaw cynnwys yr adrannau yn sail i hyfforddiant sydd yn y pen draw â chymwysterau i’r rhai sy’n am eu dilyn.
Bydd yr adran yma yn estyn allan mewn ffordd fwy ymarferol. Enghreifftiau o hyn sydd i’w weld isod ac er bod y prif feysydd yn sefyll bydd y meysydd trafod a’r eitemau yn adeiladu’n raddol yn ogystal â chymorth ymarferol allan o ganolfan y pentref, Hebron, Drefach.
Byw i Ddysgu.
Arloesi a Dysgu.
Prif Adran: Byw i Ddysgu
Prif Faes: Y Gair Dechrau yn y Dechrau Dysgu o Brofiad
Fel eglwys rydym yn angerddol am y rhan rydym yn chwarae yn gwasanaethu’r gymdeithas. Rydym yn gyffrous am yr effaith mae hyn yn cael ar fywydau'r rhai sy’n ein hangen a’r effaith mae adnabod Iesu yn gwneud. Mae dod i wybod fwy amdano ac am safbwynt yr eglwys ar faterion cyfoes yn gymorth mawr i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.
Bydd yr adran yma yn datblygu cymhwyster addysgol yn bennaf. Enghreifftiau o hyn sydd i’w weld isod ac er bod y prif feysydd yn sefyll bydd y meysydd trafod a’r eitemau yn adeiladu’n raddol. Bydd yr eitemau i’w darllen eto yn ein cylchgrawn, Pethau.
Gorolwg o'r raglen
Rydym wedi rhannu’r cynllun i ddau brif adran fel y disgrifir eisoes. Mae’r prif adrannau wedi’u rhannu i dri phrif faes sy’n adlewyrchu ymchwil Capel Seion i anghenion y gymuned. Mae’r meysydd trafod yn perthyn i’r prif feysydd (enghreifftiau yn unig sydd uchod ) ac yn cynrychioli’r materion sydd angen i’r eglwys drafod wrth wasanaethu’r gymuned. Mae anghenion a disgwyliadau yn brysur newid a llawer mwy heriol nag unrhyw amser yn ei hanes wrth i ni wynebu chwildro newydd y byd digidol a technolegol.
Adran y Ffordd o Fyw.
Gwasanaethu’r gymuned.
Prif Feysydd
Roedd ymchwil Capel Seion i anghenion y gymuned yn ddadlennol iawn ac yn sail i gynllun cynhwysol i wasanaethu dalgylch yr eglwys. Rhennir y canlyniadau i wasanaeth ar gyfer pobl ifanc, hyfforddiant , iechyd a lles a phlant a’r teulu. Gan fod cymaint o orgyffwrdd rhwng yr elfennau yma rydym wedi paratoi ein gwaith cymunedol yn ôl meysydd a ganlyn.
Yr Eglwys a’r Byd.
Prif fwriad yr adran yma yw ymdrin â beth mae’r eglwys yn cynnig mewn byd sy’n brysur newid. Bydd eitemau ar ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, hawliau, hiliaeth, bwlian, rhyw cyn priodas ac ati a bydd arbenigwyr yn cyfrannu ei sylwadau arnynt o dro i dro.
Crist yn y Canol.
Mae’r eglwys wedi archwilio a holi’r gymuned ynghylch ei anghenion yn y byd modern ac yn ceisio ymateb i rain trwy ddarparu’r gwasanaeth mwyaf effeithiol i drigolion yr ardal. Yr arwyddair yw ‘gwneud beth i ni’n gallu a dod o hyd i’r ffordd o ddarparu’r sydd thu hwnt i’n gallu’.
G’neud Gwahaniaeth.
‘Gwneud daioni na ddiogwn’ Dyma arwyddair eglwys Capel Seion. Mae ‘gwneud gwahaniaeth’ yn adran lle y cyflwynwn wybodaeth ar ffurf erthyglau ar faterion lle mae gweithredoedd ein haelodau a’n ffrindiau wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.. ‘Gwnewch y pethau bychain’
Adran Byw i Ddysgu.
Dysgu ac hyfforddiant.
Prif Feysydd
Mae Byw i Ddysgu yn gyfuniad o ddysgu ar-lein a phrofiad ymarferol sy’n defnyddio adnoddau’r prif faes yma a ddilyn e-gyrsiau sydd wedi eu paratoi yn arbennig i’r eglwys. Bydd y cyrsiau yn cynnwys nifer o agweddau am waith yr eglwys, sut mae bod yn aelod neu ddiacon ac ati neu ddilyn cwrs arweinydd mewn partneriaeth â Choleg yr Annibynwyr.
Y Gair.
Dod i adnabod yr ysgrythurau a thyfu yn y ffydd Gristnogol. Mae'n bwysig cofio ein bod i astudio'r Ysgrythurau i geisio ac adnabod Iesu fel ffynhonnell ein bywyd tragwyddol. Nid er gwybodaeth yn unig y mae'r pŵer i ddeall beth mae'r Ysgrythurau'n ei ddweud ond oherwydd eu bod yn tystio am Iesu.
Cynhwysedd.
Mae dysgu yn ein helpu i ddeall ac yn dod ag eglurder yn fyw. Mae'n cywiro drwy bwyntio at y gwir pan fyddwn yn crwydro oddi ar y llwybr cul. Mae cael ein hyfforddi - yn dangos i ni sut i ufuddhau. Mae'r Ysbryd Glân yn defnyddio Gair Duw i'n trawsnewid i fod yn fwy tebyg i Grist.
Dysgu trwy brofiad.
Mae Gair Duw yn ffordd fyw’ sy’n ein hadfer, yn ein gwneud yn ddoeth, yn rhoi llawenydd i’n calon, yn goleuo ein llygaid, yn ein rhybuddio i beidio barnu ac yn addo ein gwobrwyo . Mae ysgrifennwr yr Hebreaid yn ein hatgoffa bod Gair Duw yn dirnad bwriadau a chymhellion ein calon hefyd.
Actau.
Cyrsiau ac hyfforddiant trwy e-ddysgu.
Mae’r adran hon yn y broses o gael ei ddatblygu.
Mae cyrsiau a hyfforddiant e-ddysgu erbyn heddiw wedi’i hen sefydlu yng nghanolfannau addysg, cwmnïau ac eglwysi ar draws y wlad. Mae’n cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o fudiadau ac asiantaethau ac mae’r hyfforddiant wedi’i deilwra i anghenion ei staff a’i haelodau. Bydd y cyrsiau sydd gennym yn tyfu’n raddol wrth i ni gydweithio’n agos gyda’n partneriaid. Gweler isod enghraifft o gwrs e-ddysgu ar gyfer diaconiaid Capel Seion. Bydd angen cofrestri er mwyn dilyn cwrs o’ch dewis..