
Beth bynnag ydyw, gall y ffordd yr ydym yn dweud ein stori ar-lein wneud byd o wahaniaeth.
Yr Eglwys Ar-lein.
Croeso i Capel Seion Ar-lein. Adnodd rhad ac am ddim, sydd wedi’i osod fel siop un stop i’ch helpu i lywio’r cyfnod o ddod i’r wyneb wedi cyfnod dan glo.
Yma gallwch ddod o hyd i restr gynyddol sy'n cael ei diweddaru'n gyson o wasanaethau eglwys ar-lein sy’n cynnwys nifer o wahanol eitemau. Blogiau, myfyrdodau, podlediadau, cerddoriaeth, a chyhoeddiadau niferus i eistedd yn ôl a mwynhau. Adnoddau Plant a Phobl Ifanc i'w hargraffu, eu lawr lwytho neu eu gwylio i’ch cadw’n brysur ynghyd â llwyth o offer ac adnoddau ar gyfer arweinwyr sy'n ceisio gwneud i eglwys ar-lein ddigwydd yn lleol. Rwy'n gobeithio y byddwch yn cael eich bendithio gan hyn, ac rwy'n gweddïo, er bod drysau ein heglwysi ond yn dechrau agor, y gallwn ddal i fod yn Eglwys a chyrraedd sy’n cyflwyno’r Newyddion Da am Iesu.
Pob bendith, Gwyn.