Hiwmor Iach
Nid lle i sefyll i fyny a rhaffu jôcs yw pulpud a fyddwn i byth yn meiddio gwneud hynny ond mae yna le i hiwmor ym myd yr eglwys ac ym myd y Cristion. Dw i'n gwenu am mai ganddo ni mae'r newyddion da ond pe byddech yn edrych ar y wynebau seriws mewn ambell gynulleidfa byddech yn meddwl mai pregethu am ddiwedd y byd, a hynny yfory, yr ydw i!
Mae'n bwysig mewn bywyd ein bod yn gallu chwerthin am ben ein hunain a derbyn stori ddoniol neu jôc am yr hyn ydyw.
Dw i wedi casglu nifer o engreifftiau o hiwmor crefyddol, neu beiblaidd os hoffwch chi, ac rydw i am rannu nifer gyda chi er mwyn dangos yr hyn dw i'n ceisio ei dddweud! Mae'r Ysgol Sul yn le da am atebion annisgwyl.
Roedd athrawes Ysgol Sul yn disgrifio sut y bu i wraig Lot edrych yn ôl a throi mewn i biler o halen pan dorrodd bachgen ar ei thraws gan ddweud "Fe edrychodd fy mam i yn ôl unwaith pan oedd yn gyrru ac mi wnaeth hi droi mewn i bostyn lectric."
Dro arall roedd athrawes Ysgol Sul yn dweud hanes y Samariad trugarog wrth ei dosbarth ac mi ofynnodd "Pe byddech chi'n gweld person yn gorwedd ar ochr y ffordd wedi anafu ac yn waed i gyd, beth fyddech chi'n wneud?"
Mi dorrodd un ferch fach ar draws y tawelwch gan fynegi "Fi'n credu bydden i'n chwydu!"
Gofynwyd i Joni bach yn y dosbarth Ysgol Sul "Wyt ti'n credu fod Noah wedi pysgota llawer pan oedd ar yr Arch?"
"Na" atebodd Joni, "dim ond dau fwydyn oedd gyda fe."
Wedi i Joni bach ddychwelyd gartref o'r Cwrdd Plant mi holodd ei fam beth oedd wedi ddysgu.
"Wel, mam, fe ddywedodd y pregethwr fod Duw wedi gyrru Moses tu ôl i rengoedd y gelyn i gael yr Israeliaid allan o'r Aifft. Pan ddaeth e at y Môr Coch fe adeiladodd ei fyddin bont, pontoon, ac fe gerddodd y bobl ar draws yn ddiogel. Yna fe anfonodd e neges radio am "reinforcements" ac fe ddanfono nhw awyrennau, bombers i chwythu'r bont i fyny ac fe achubwyd yr Iddewon i gyd."
"Nawr te Joni, ai dyna beth ddysgodd y pregethwr i chi go iawn?"
"Wel, nage Mam ond os bydden ni'n dweud beth ddywedodd y pregethwr fydde chi byth yn credu fe."
Fel nifer ohonom yn ifanc roedd athro Ysgol Sul wedi gofyn i blant ei ddosbarth ddysgu'r 23ain Salm ar eu cof. Mi roddodd fis iddyn nhw ei dysgu ac roedd Tomi wedi cynhyrfu ac yn awyddus i ddysgu ond roedd yn cael trafferth cofio'r Salm. Er ymarfer ac ymarfer roedd yn methu mynd heibio'r linell gyntaf.
Pan ddaeth y diwrnod i adrodd y Salm o flaen y gynulleidfa roedd Tomi yn nerfus iawn. Pan ddaeth ei dro fe safodd o flaen y meicroffon a chyhoeddi gyda balchder - "Yr Arglwydd yw fy mugail, a dyna i gyd sydd angen i mi wybod."
Fel mae'n digwydd rydw i wedi defnyddio'r ddwy stori ddiwethaf yna ar bregethau ac er bod y stori olaf yna am y Salm fwyaf enwog yn ddoniol, mae llawer o wir yn ateb y bachgen onid oes e.
Nawr, fe fydd rhai yn darllen y blog yma ac yn dweud, dyw hwn yn gwneud dim ond rhaffu jôcs a ddyle fe ddim! Ond mae ymatebion y plant yn dangos eu bod yn gwrando ar y straeon ac er bod eu hatebion yn ddoniol fe fyddant yn siwr o gofio byrdwn yr hanesion yma fu'n sylfaen i fywyd pob yr un ohonom.
Stori fach arall i wneud i rywun sylweddoli peth gwirionedd yw hon -
Gofynodd gweinidog i fachgen bach os oedd yn gweddio bob nos.
"O ydw syr" atebodd y bachgen.
"A fyddi di'n gweddio bob bore hefyd?" gofynodd y gweinidog.
"Na fydda syr" atebodd y bachgen "does gen i ddim ofn mewn golau dydd."
Yma eto, er yr ateb eitha doniol mae'n datgelu cymaint o wirionedd am sefyllfa bob plentyn a'r ofn cynhenid o'r tywyllwch sydd ynom i gyd i raddau.
Mae yna ambell stori wedyn sy'n bigog wrth gyfeirio atom ni weinidogion ond mae'n bwysig fod pawb yn gallu chwerthin am ben ei hunan greda i.
Roedd merch fach bum mlwydd oed ryw weinidog wedi sylwi fod ei thad wastad yn oedi a phlygu ei ben cyn dechrau ar ei bregeth.
Un diwrnod dyma hi'n gofyn iddo pam.
"Wel, cariad" atebodd, yn hynod falch fod ei ferch yn talu y fath sylw, "Dw i'n gofyn i Dduw i helpu fi bregethu pregeth dda."
"Pam nad yw e ddim yn gwrando?" gofynodd y ferch!
Ie, peth peryglus weithiau yw holi plant, rhaid i chi fod yn barod am unrhyw ateb. Rydw i wedi cael atebion gwych a chwbl annisgwyl weithiau yn y Cwrdd Plant fel y gwyddoch.
Un stori arall yn mynd i'r un cyfeiriad yw honno am deulu Joni bach yn cael cinio yn nhy ei famgu. Pawb yn eistedd o amgylch y bwrdd ac fe ddaeth y bwyd a dyma Joni yn dechrau'n syth. "Joni" meddai ei fam "aros i ni gael dweud ein gweddi."
"Sdim rhaid i fi" atebodd Joni.
"Wrth gwrs bod" meddai ei fam "Ni wastad yn dweud gweddi cyn bwyta yn ty ni."
""Ie, ond ty ni yw hwnnw" meddai Joni " Ty Mamgu yw hwn ac mi hi'n gwybdo sut i goginio!"
Mae yna ddywediad da sydd yn dweud "gan y gwirion ceir y gwir". Peidiwch a gofyn i blant os nad ydych yn barod am yr annisgwyl. A dyna sydd yn gwneud Cwrdd Plant yn ddifyr i mi, dyna pam fod nifer o aelodau yn hoffi mynychu'r Cwrdd Plant, sydd yn oedfa mor bwysig.
Ym 1930 mae’n debyg roedd pobl yn chwerthin ar gyfartaledd am 19 munud y dydd ond erbyn 1980 roedd y ffigwr yna lawr i 6 munud y dydd, beth yw'r ffigwr erbyn heddi sgwn i?
Mae plant ar y llaw arall yn chwerthin fyny at tua 400 gwaith y dydd.
Wrth wthio aer o’r ysgyfaint mewn chwerthiniad sydyn mae’r anadlu yn cyflymu a churiad y galon yn cynyddu – mae fel 10 munud ar feic ymarfer. Mae chwerthin hefyd yn cael effaith buddiol ar ein sustem imiwnedd gan annog y corff i gynhyrchu mwy o gelloedd gwyn yn y gwaed.
Chwerthin yw’r moddion gorau felly.
Peidiwch a bod ofn gwenu yn eich oedfa nesaf, gallaf eich sicrhau y bydd y pregethwr yn gwerthfawrogi gwên.